Cymru i ddilyn Lloegr ar leoliadau rhestr werdd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd yn dilyn yr un patrwm a Lloegr wrth symud lleoliadau gwyliau i'r rhestr werdd.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai lleoliadau fel ynysoedd y Balearas, Malta a Barbados yn cael eu symud i'r rhestr werdd o 30 Mehefin.

Mae hynny'n golygu nad oes rhaid i deithwyr fynd i gwarantin am gyfnod ar 么l dychwelyd.

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru y byddai'n dilyn yr un drefn, ond gan atgoffa pobl mai'r cyngor swyddogol yw i beidio teithio dramor oni bai ei fod yn daith hanfodol.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud bod cynlluniau i ganiat谩u i bobl sydd wedi cael dau frechlyn Covid-19 gael dychwelyd i Loegr o leoliadau ar y rhestr oren heb orfod mynd i gwarantin.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ystyried y dystiolaeth cyn penderfynu ar y polisi i Gymru.

Cyngor i beidio teithio

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan: "Mae teithio tramor yn ail-ddechrau ond nid yw'r pandemig drosodd ac amddiffyn iechyd pobl ydy'r flaenoriaeth.

"Ein cyngor cryf ydy i beidio teithio dramor oni bai ei fod yn daith hanfodol oherwydd y risg o ddal coronafeirws, yn enwedig amrywiolion newydd."

Y gwledydd sy'n symud i'r rhestr werdd ar 30 Mehefin ydy:

  • Anguilla
  • Antigua a Barbuda
  • Ynysoedd Balearas (Ibiza, Menorca, Majorca a Formentera)
  • Barbados
  • Bermuda
  • Ynysoedd y Wyryf (British Virgin Islands)
  • Ynysoedd Cayman
  • Dominica
  • Grenada
  • Madeira
  • Malta
  • Montserrat
  • Ynysoedd Pitcairn
  • Turks a Caicos
  • Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig
  • Tiriogaeth Cefnfor India Prydain

Mae chwech o wledydd wedi eu symud i'r rhestr coch: Gweriniaeth Dominica, Eritrea, Haiti, Mongolia, Tunisia ac Uganda.