麻豆官网首页入口

Cymru v Denmarc: Page yn barod wrth i'r gic gyntaf agos谩u

  • Cyhoeddwyd
cymru yn sgorioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gareth McAuley roddodd y b锚l i'w rwyd ei hun i roi buddugoliaeth i Gymru yn rownd yr 16 olaf yn Euro 2016

Bum mlynedd yn 么l roedd t卯m Cymru'n deffro wedi iddyn nhw sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf Euro 2016.

Roedd hi'n g锚m dynn yn erbyn Gogledd Iwerddon, gyda g么l i'w rwyd ei hun gan Gareth Macaulay yr unig un i wahanu'r ddau... ond Cymru oedd y ffefrynnau y tro yna.

Tasg bur wahanol sy'n eu hwynebu ddydd Sadwrn yn yr Johan Cruijff Arena yn Amsterdam.

Mae'r bwcis yn dweud mai Denmarc yw'r ffefrynnau clir, gan gynnig pris o 2/5 ar y Llychlynwyr i fynd ymlaen i'r rownd nesaf.

Ystadegyn arall yw nad yw Cymru erioed wedi ennill g锚m yn Yr Iseldiroedd. Tybed yw hynny ar feddyliau'r chwaraewyr?

Ffynhonnell y llun, UEFA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Gareth Bale mewn hwyliau da yn y gynhadledd

Dyna ofynnwyd i Gareth Bale mewn cynhadledd newyddion ddydd Gwener, ac roedd ei ateb yn glir.

"Dydw i erioed wedi chwarae yma, a dwi ddim yn meddwl bod gweddill y bois wedi chwaith, felly na... dyw e'n poeni dim arnan ni."

Mae digon o bethau eraill i beri pryder wrth gwrs. Mae Denmarc wedi cyrraedd y rownd yma er gwaethaf g锚m agoriadol ddramatig a thrawmatig yn y gystadleuaeth.

Pan gafodd Christian Eriksen ataliad ar y galon yn ystod y g锚m yn erbyn Y Ffindir, roedd ei gyd-chwaraewyr a gweddill y byd p锚l-droed yn gwedd茂o.

Mae'r digwyddiad wedi dod 芒'r byd chwaraeon at ei gilydd, ac wedi dod 芒 th卯m Denmarc yn agosach at ei gilydd hefyd. Yn y gynhadledd newyddion, fe awgrymwyd fod pawb 'niwtral' bellach yn cefnogi Denmarc.

Fe wnaeth rheolwr Cymru, Robert Page, feddwl cyn ateb...

"Ein blaenoriaeth ni yw Christian [Eriksen]," meddai. "Y peth pwysicaf oll yw ei fod e'n gallu mynd yn 么l at ei deulu, a bod yn iach.

"Ond wedi dweud hynny, mae gyda ni dasg i'w chyflawni, sef ennill g锚m b锚l-droed.

"Dyma binacl fy ngyrfa fel rheolwr... mae'r gwaith paratoi i gyd wedi ei wneud, mae pawb yn gwybod beth sydd angen iddyn nhw wneud, ac fe wna i gysgu'n dawel heno gan wybod hynny."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fydd prin ddim cefnogwyr o Gymru yn Arena Johan Cruijff ddydd Sadwrn

Roedd rhaid s么n hefyd am y diffyg cefnogwyr o Gymru fydd yn Amsterdam ar gyfer y g锚m, ond mae'r negeseuon o adre wedi bod yn bwysig.

Ychwanegodd Page: "Mae gweld yr holl negeseuon wedi bod yn wir ysbrydoliaeth. Ry'n ni wedi bod yn gwylio llwyth o fideos o blant mewn ysgolion ar draws y wlad yn canu'r anthem, ac mae'r t卯m i gyd wedi eu gwylio nhw.

"Ry'n ni'n ymwybodol iawn fod Cymru gyfan y tu 么l i ni, ac mae hynny mor bwysig."

Gyda'r gemau gr诺p ar ben, fydd dim mwy o gemau cyfartal. O hyn ymlaen, mae'n amser ychwanegol os fydd hi'n gyfartal wedi 90 munud, ac os yw'n dal yn gyfartal wedyn... ciciau o'r smotyn.

Methu fu hanes Gareth Bale o'r smotyn yn erbyn Twrci wrth gwrs, ond mae'r t卯m i gyd wedi paratoi'n drylwyr ers hynny.

"Ry'n ni wedi bod yn ymarfer ciciau o'r smotyn, gan gynnwys gorfodi'r chwaraewyr i gerdded o'r llinell hanner i'r cwrt i'w cymryd nhw.

"Fyddwn ni ddim yn penderfynu tan yr adeg hynny pwy yn union fydd yn eu cymryd nhw, ond mae pawb yn barod."

Y gobaith - er lles iechyd pawb yng Nghymru - yw na fydd eu hangen nhw o gwbl.