Is-hyfforddwr Cymru, Albert Stuivenberg yn gadael ei swydd

Ffynhonnell y llun, CBDC

Disgrifiad o'r llun, Mae Albert Stuivenberg wedi bod yn rhannu ei waith rhwng Cymru ac Arsenal hyd yma

Mae is-hyfforddwr Cymru, Albert Stuivenberg wedi gadael ei swydd gyda'r t卯m cenedlaethol ar 么l dros dair blynedd yn y r么l.

Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC) ei fod yn gadael "er mwyn canolbwyntio ar ei waith gydag Arsenal".

Fe ymunodd fel hyfforddwr o dan ofalaeth y rheolwr Ryan Giggs yn 2018. Roedd y ddau wedi cydweithio yn Manchester United cyn hynny.

Bu Stuivenberg, o'r Iseldiroedd, yn cynorthwyo Robert Page ym mhencampwriaeth Euro 2020 dros yr haf yn absenoldeb Giggs, sy'n wynebu achos llys yn ddiweddarach eleni.

"Mae wedi bod yn fraint ac anrhydedd bod yn rhan o'r daith. Mae wedi bod yn gyfnod cyffrous," meddai Stuivenberg.

"Mi rydw i wedi dysgu llawer ar ac oddi ar y cae. Mi rydw i yn diolch i'r chwaraewyr ac i'r cefnogwyr am eu brwdfrydedd anhygoel."

Dywedodd llywydd CBDC, Kieran O'Connor, fod y gymdeithas yn "dymuno pob lwc i Albert yn ei waith gydag Arsenal ac yn diolch iddo am ei waith caled a'i frwdfrydedd".