麻豆官网首页入口

Pobl ifanc 16 a 17 oed i gael cynnig brechiad Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Menyw ifanc yn cael brechiadFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru'n cael cynnig brechiadau Covid-19, medd Llywodraeth Cymru.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynnig y brechiadau, yn 么l y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan.

Mae'n dilyn cyngor newydd gan y Cyd-Bwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI) i gynnig dos cyntaf i'r rhai rhwng 16 a 17 oed.

Bydd y JCVI yn cyhoeddi cyngor ynghylch pa bryd i gynnig ail ddos iddyn nhw maes o law.

Mae tua 67,142 o bobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru, ond mae rhai eisoes wedi cael eu brechu am eu bod yn un o'r categor茂au risg uchel o ddal coronafeirws.

Dywedodd Ms Morgan: "Yn unol 芒 gwledydd eraill y DU, mae Llywodraeth Cymru'n croesawu cyngor diweddaraf y JCVI ac yn diolch iddyn am eu harbenigedd a'u barn ystyriol ar faterion mor bwysig.

"Rydym nawr yn gweithio gyda'r GIG ar y trefniadau angenrheidiol i gynnig y brechiad i bawb sy'n 16 a 17 oed yn unol 芒 chyngor y JCVI."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwledydd fel Ffrainc a'r Unol Daleithiau eisoes yn brechu plant dros 12 oed

Nid yw'n glir eto pa bryd fydd y GIG yn dechrau cynnig y brechiadau. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd y manylion yn cael eu cadarnhau'n "fuan".

Y brechlyn Pfizer-BioNTech yw'r unig un sydd wedi ei gymeradwyo yn y DU ar gyfer pobl dan 18 oed. Hyd yma, dim ond dan amgylchiadau penodol y mae'r brechlyn wedi bod ar gael i rai plant dros 12 oed.

Pryder am drefniadau ysgolion

Dywed undeb y prifathrawon, NAHT Cymru eu bod wedi dadlau mai clinigwyr ddylai llywio polisi brechu plant Llywodraeth Cymru, gan ei fod yn fater "dadleuol".

"Mae'n glir na ddylai ysgolion fod yn gyfrifol am hybu, gorfodi na phlismona'r rhaglen frechu," meddai cyfarwyddwr yr undeb, Laura Doel.

Ychwanegodd bod pryder yn parhau ymhlith penaethiaid ynghylch trefniadau dechrau'r flwyddyn academaidd ym mis Medi, pan fydd cyfyngiadau fel gwisgo mwgwd yn y dosbarth a'r angen i grwpiau cyswllt cyfan hunan-ynysu wedi achos positif yn codi.

Mae'r cyhoeddiad yn "newyddion gwych", yn 么l llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, "ac ond yn bosib" oherwydd rhaglen gyflenwi brechiadau Llywodraeth y DU.