Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Diffyg trafod ar deithiau tramor yn annerbyniol'
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn anhapus am nad yw Llywodraeth y DU, unwaith yn rhagor, wedi ymgynghori 芒 nhw am y newidiadau i deithio rhyngwladol.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi newidiadau i'r rhestrau o wledydd coch, oren a gwyrdd ar gyfer Lloegr.
O ganlyniad dywed Llywodraeth Cymru nad yw hi'n bosib iddyn nhw gael polisi ar wah芒n ac y bydd y rheolau newydd yn dod i rym yng Nghymru hefyd Sul.
Mae datganiad gan y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymdrechu'n "barhaus i gael penderfyniadau ar gyfer y DU gyfan yn y maes hwn" ond bod "penderfyniadau ar gyfer Lloegr wedi'u gwneud unwaith eto heb drafod 芒 Llywodraeth Cymru na'r llywodraethau datganoledig eraill".
Annog peidio teithio dramor
Dywedodd Ms Morgan: "Mae hyn yn annerbyniol ac mae'r polisi teithio rhyngwladol yn effeithio ar bob rhan o'r DU ac mae angen i fuddiannau Cymru gael eu hystyried fel rhan o'r broses benderfynu.
"Rydym yn hynod siomedig 芒'r dull gweithredu unochrog hwn ac yn credu bod risgiau amlwg o hyd i iechyd y cyhoedd wrth roi'r hawl i deithio'n rhyngwladol tra bo'r feirws ar led yn fyd-eang.
"Am y rhesymau hyn, rydym yn parhau i argymell na ddylid teithio'n rhyngwladol yr haf hwn ac eithrio am resymau hanfodol."
Ond mae'n dweud gan bod Cymru yn rhannu ffin agored 芒 Lloegr nad yw hi'n ymarferol nac yn bosibl cyflwyno polisi iechyd gwahanol ar wah芒n ar gyfer y ffin.
Felly, byddwn ninnau'n gwneud yr un newidiadau 芒'r rhai sy'n cael eu gwneud yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, er mwyn cynnal yr un system goleuadau traffig 芒 gweddill y DU.
Yn sgil hynny:
- Bydd Awstria, yr Almaen, Slofenia, Slofacia, Latfia, Romania a Norwy yn cael eu symud o'r rhestr oren i'r rhestr werdd.
- Bydd Georgia, La R茅union, Mayotte a Mecsico yn cael eu symud o'r rhestr oren i'r rhestr goch.
- Bydd India, Bahrain, Qatar a'r Emiraethau Arabaidd Unedig yn cael eu symud o'r rhestr goch i'r rhestr oren.
Bellach, ni fydd pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yn y DU, yn Ewrop neu yn Unol Daleithiau America, gyda brechlynnau cymeradwy, yn gorfod hunan-ynysu a chymryd prawf PCR ar yr wythfed diwrnod ar 么l cyrraedd o Ffrainc.
Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym am 04:00 ddydd Sul 8 Awst.