麻豆官网首页入口

Annog ysgolion i ailgyflwyno rheolau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
dosbarth ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ysgolion Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu hannog i wisgo mygydau mewn rhannau cymunedol

Mae ysgolion ym Mae Abertawe yn cael eu cynghori i ailgyflwyno mesurau i helpu i atal lledaeniad Covid-19 oherwydd nifer uchel o achosion positif yn yr ardal.

Mae disgyblion a staff ysgolion uwchradd yn cael eu hannog i gymryd Profion Llif Ochrol ddwywaith yr wythnos a gwisgo masgiau ar gludiant ysgol, mewn ardaloedd cymunedol ac wrth symud o gwmpas ysgolion.

Mae Bwrdd Iechyd Bae Abertawe wedi cyhoeddi'r cyngor oherwydd lefelau uchel o'r haint yn Abertawe ac yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe bod rhieni'r ysgol yn "gwbl synhwyrol"

"Mae lefelau'r haint bellach mor uchel 芒 mis Rhagfyr diwethaf," meddai Dr Keith Reid, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ar gyfer y bwrdd iechyd.

"Nid yw ysgolion eu hunain yn risg uchel, ond rydym yn gofyn iddynt gymryd camau i helpu i atal y firws rhag lledaenu yn y gymuned ehangach.

"Mae'r lefel uchel gyfredol a pharhaus o heintiau Covid-19 yn Abertawe yn golygu ein bod yn gofyn i ysgolion weithredu yn unol 芒 fframwaith Llywodraeth Cymru," meddai.

Abertawe sydd 芒'r nifer uchaf o achosion wedi'u cadarnhau yng Nghymru dros yr wythnos ddiwethaf: 1,614, yn 么l ystadegau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Y gyfradd a gadarnhawyd yn Nghastell-nedd Port Talbot fesul 100,000 yw 713.8, y trydydd uchaf yng Nghymru, ar 么l Merthyr Tudful (742.6) a Sir Gaerfyrddin (719.9), ac o flaen Abertawe (653.5).

Cadw'r mesurau

Mae ysgolion wedi cael cyngor i ail-gyflwyno systemau unffordd mewn coridorau, ad-drefnu desgiau fel eu bod i gyd yn wynebu'r un cyfeiriad, ac i beidio a chynnal gwasanaeth yn y bore.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed pennaeth Ysgol Gyfun Bryn Tawe, Simon Davies, eu bod wedi penderfynu cadw'r un mesurau

"Fe wnaethon ni benderfyniad cyn yr haf ein bod ni'n cadw'r mesurau oedd ganddon ni fel gwisgo mygydau, awyru, cadw pellter - maen nhw i gyd yn aros," meddai Simon Davies, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe.

"Mae 'na gonsyrn naturiol pan ma 'na bobol o gartrefi lle mae rhywun gyda'r feirws yn dod mewn i'r ysgol ond ni'n si诺r bod y polisi wedi'i selio ar ddata cadarn.

"Ni'n ffodus bod lot o'n rhieni ni sydd wedi cael achosion adre wedi bod yn synhwyrol tu hwnt ac wedi mynnu bod brodyr a chwiorydd yn mynd i cael brofion cyn eu bod nhw'n dod n么l," meddai.

'Aros adre' tra'n disgwyl canlyniad?'

Mae undeb athrawon UCAC yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-feddwl am y cyngor i ddisgyblion yngl欧n a hunan-ynysu pan mae rhywun adref gyda symptomau.

"Mae'n rhaid cael cydbwysedd rhwng sicrhau bod cymaint o ddisgyblion 芒 phosib yn cael addysg wyneb yn wyneb ac arafu lledaeniad y feirws," meddai Rebecca Williams, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC.

"Rydyn ni am i Lywodraeth Cymru ystyried eto a ddylid gofyn i ddisgyblion hunan-ynysu wrth iddyn nhw aros am ganlyniadau prawf PCR.

"Ar hyn o bryd rydych chi'n cael mynd i'r ysgol pan rydych chi'n aros am y canlyniad ac rwy'n credu pe byddem ni'n gwneud y newid bach hwnnw, gallai wneud gwahaniaeth eithaf sylweddol i ledaeniad y feirws mewn ysgolion."

Modd cyflwyno mesurau ychwanegol

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r fframwaith yn galluogi ysgolion i gyflwyno mesurau ychwanegol os yw'r risgiau lleol yn wahanol i'r rhai cenedlaethol.

"Trwy drafod gyda'u bwrdd iechyd bydd awdurdodau lleol yn cydweithio gydag ysgolion i benderfynu sut y dylid teilwra unrhyw fesurau."