Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

'Pwysau cynddrwg os nad gwaeth nag ers dechrau Covid'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Nyrs a chlaf mewn uned gofal dwys

Gyda bron hanner y cleifion yn unedau gofal dwys yng ngorllewin Cymru yn cael triniaeth am Covid-19, mae staff wedi rhybuddio eu bod dan bwysau cynddrwg os nad gwaeth nag ar unrhyw adeg ers dechrau'r pandemig.

Yn ôl Dr Michael Martin, arweinydd gofal critigol ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, mae nifer y cleifion sy'n dod i'r ysbyty'n ddifrifol wael gyda chyflyrau iechyd eraill yn gwaethygu'r sefyllfa.

Mae'n ofni pa mor wael fydd y sefyllfa erbyn y gaeaf oherwydd y straen presennol a phrinder staff.

Mae'n dweud fod bylchau yn aml mewn rotas staff oherwydd bod staff profiadol wedi blino'n llwyr ac yn gadael gofal dwys.

Mae prif nyrs yr uned ofal dwys yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn ategu'r pryderon.

Cleifion 'anodd i'w trin'

Mae achosion Covid yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda - Siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion - wedi cynyddu'n ddiweddar ac wedi amharu ar allu'r bwrdd i gyflawni llawdriniaethau.

"Os edrychwch chi ar orllewin Cymru o'i gymharu â gweddill y wlad roedd ein niferoedd [Covid] yn is yn y tonnau cyntaf," medd Dr Martin.

"[Nawr] mae'n debyg ei fod yn fwy... yn enwedig i Ysbyty Glangwili gan ein bod wedi ceisio canoli pethau ychydig yn fwy.

"Yma mae'n sefyllfa anodd oherwydd yn y bôn rydym wedi llenwi mwy na hanner ein gwelyau gofal dwys.

"Y peth i'w gofio hefyd yw bod cleifion Covid yn gleifion anodd i'w trin. Mae'n broses hir iawn - dydych chi ddim yn eu gwella mewn ychydig ddyddiau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith trefnu rotas staff yn "anoddach na'r gwaith clinigol", yn ôl Dr Michael Martin

Mae Dr Martin yn dweud ei fod yn pryderu'n arw hefyd am nifer y cleifion sy'n dod i'r ysbyty yn ddifrifol wael gyda chyflyrau eraill.

Mae yna bryder bod rhai unigolion wedi bod yn amharod gweld meddyg am eu symptomau yn ystod y pandemig, neu wedi ei chael hi'n anodd cael apwyntiadau.

"Beth rydyn ni'n ei weld... yw cleifion sydd heb gael diagnosis o ganser, ac yn cael diagnosis yn yr uned am eu bod yn dod i mewn yn sâl iawn - doedd hynny ddim yn arfer digwydd. Hefyd cleifion sy'n dioddef o salwch cronig."

Er gwaethaf nifer y brechiadau, mae Dr Martin yn credu bod y pwysau ar ysbytai yn debygol o barhau drwy'r gaeaf.

'Yr un pwysau â Ionawr a Chwefror'

Mae Tammy Bowen, prif nyrs uned gofal dwys yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin yn ategu pryderon Dr Martin.

"Mae'n full-on i ddweud y gwir," meddai. "Does dim gair arall allai ddefnyddio.

"Mae hanner yr uned 'da ni yn Covid a hanner arall ddim yn Covid ond mae'r cleifion mor sâl ar y ddwy ochr… fel bod dim respite o gwbl 'da ni.

"Yn yr haf, fel arfer, mae'r niferoedd yn mynd lawr. Ni'n gallu cael breather bach ond dyw hynna ddim yn digwydd ar y foment."

Disgrifiad,

Dywedodd Tammy Bowen ei bod yn teimlo fel nad oes unrhyw seibiant i'r nyrsys wrth i'r pwysau gynyddu

Ychwanegodd: "Mae'n teimlo ein bod o dan yr un pwysau â beth o'n ni ym mis Rhagfyr, Ionawr a Chwefror.

"Ni'n gweld pobl yn salach yn dod mewn i'r intensive care unit. Mae staff wedi blino ond ni'n lwcus bod 'da ni staff anhygoel."

"Yn Bronglais, Tywysog Philip neu Llwynhelyg, os ydyn nhw'n cael un achos o glaf a Covid - mae hynna'n golygu nad oes neb arall yn gallu cael ei drin yn yr uned - mae'r cyfan yn cael knock-on effect.

"Ni'n becso tamed bach am y gaeaf - ma' pethau fel gwisgo masg yn ystod annwyd neu gadw bant a chael prawf PCR yn gallu bod o help mawr i ni."

Un o'r heriau mwyaf yn ôl Dr Martin yw gorfod delio â phrinder staff.

"Ar ôl dwy don Covid, mae llawer o feddygon a nyrsys yn ceisio gadael gofal dwys," meddai.

"Maen nhw wedi blino'n lan... maen nhw am gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae hynny'n her gynyddol."

Ychwanegodd bod delio â'r bylchau mewn rotas, ac argyhoeddi meddygon iau i ymgymryd â shifftiau ychwanegol yn "anoddach na'r gwaith clinigol".