麻豆官网首页入口

Dim angen prawf cyn teithio dramor i bobl wedi'u brechu'n llawn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
prawfFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu uno'r rhestrau teithio gwyrdd ac oren a dileu'r gofyniad am brawf cyn teithio dramor i'r rhai sydd wedi'u brechu'n llawn.

Dywed eu bod yn bwriadu gwneud y newidiadau erbyn 4 Hydref yn unol 芒 system newydd Llywodraeth y DU.

Nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto yngl欧n 芒 pheidio 芒 defnyddio profion PCR ar gyfer teithwyr.

Ond mae Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi datgan eu gwrthwynebiad i'r newid yn y drefn honno.

Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i wyrdroi eu penderfyniad.

O ddechrau mis Hydref ni fydd angen cymryd prawf cyn teithio dramor o Loegr, nag wyth diwrnod ar 么l dychwelyd i'r wlad.

Yn hwyrach yn y mis, ni fydd angen cymryd prawf PCR o gwbl - fe fydd teithwyr ond angen gwneud prawf llif unffordd deuddydd ar 么l dychwelyd.

Roedd gan yr Alban bryderon am y drefn brofi newydd, ond erbyn hyn maen nhw'n bwriadu dilyn Llywodraeth y DU.

Tra bod teithio yn fater datganoledig, mae llywodraethau'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn aml wedi dilyn rheolau Llywodraeth y DU ar gyfer Lloegr yn ystod y pandemig.

Pryder am amrywiolion newydd

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: "Rydyn ni wedi galw'n gyson am ddull gofalus o ymdrin 芒 theithio rhyngwladol er mwyn atal ailgyflwyno coronafeirws i'r DU, yn enwedig amrywiolion newydd ac amrywiolion sy'n dod i'r amlwg, na fydd efallai'n ymateb i'r brechlynnau.

"Mae'r penderfyniad i beidio 芒'i gwneud yn ofynnol i deithwyr sy'n dychwelyd wneud profion PCR ar ddiwrnod dau yn peri pryder.

"Mae'r prawf hwn, a dadansoddi dilyniant genom yr holl ganlyniadau positif, yn rhan allweddol o'n gwyliadwriaeth ar gyfer coronafeirws, gan hefyd ddiogelu ein ffiniau rhag y feirws.

"Rydyn ni'n cydnabod yr heriau cyfathrebu a gorfodi a geir yn sgil gofynion profi gwahanol, ac rydyn ni'n parhau i archwilio'r dystiolaeth am drefn brofi i Gymru yn unig, ond y ffordd orau o ddiogelu iechyd y cyhoedd yw i Lywodraeth y DU ailgyflwyno profion ar gyfer y DU gyfan."

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried i ba wledydd y bydd yn estyn y system adnabod tystysgrifau brechu yn ystod yr wythnosau nesaf.

Pynciau cysylltiedig