Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Angen i awdurdodau lleol drin pobl digartref yn well'
Gallai pobl sy'n wynebu digartrefedd yng Nghymru gael eu "siomi" oherwydd "camweinyddu systemig" gan awdurdodau lleol, yn 么l adroddiad newydd gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae yna "batrymau o arfer da", medd Nick Bennett, ond "mae oedi annerbyniol, prosesau annigonol, cyfathrebu gwael a rhoi pobl mewn llety anaddas yn golygu bod nifer yn dioddef anghyfiawnder".
Mae'r Ombwdsmon yn argymell penodi Rheoleiddiwr Tai er mwyn helpu awdurdodau lleol i fod yn gyson wrth gyflawni eu dyletswyddau statudol.
Dyma ei ymchwiliad cyntaf i bwnc o'i ddewis ei hun, ac mae'n cyhoeddi ei ganfyddiadau o ran sut mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn delio 芒 digartrefedd ddydd Mercher.
Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar dri awdurdod lleol - Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Wrecsam - gan ystyried tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau trydydd sector fel Shelter Cymru.
Ymhlith y pryderon a ddaeth i'r amlwg:
- Nid yw dyletswyddau Deddf Hawliau Dynol a Chydraddoldeb 2010 bob amser yn cael eu hystyried mewn asesiadau ac adolygiadau;
- Oedi trwy gydol y Broses Asesu ac Adolygu;
- Weithiau collir materion arwyddocaol yn ystod y broses asesu;
- Nid yw cleientiaid bob amser yn deall negeseuon gan nad ydynt yn eglur ac yn ddigonol;
- Diffyg ystyriaeth a yw llety yn addas;
- Methiannau o ran darparu cefnogaeth i gleientiaid sy'n agored i niwed a'r sawl sydd ag anghenion cymhleth.
Canfu'r ymchwiliad hefyd fod pob awdurdod yn defnyddio dulliau gwahanol wrth asesu achosion o ddigartrefedd.
"Gyda chynnydd cyson yn y galw am lety ar gyfer y sawl a ystyrir yn ddigartref... mae gan awdurdodau lleol r么l hanfodol wrth atal digartrefedd ynghyd 芒 chefnogi pobl sydd yn ddigartref," meddai Mr Bennett.
"Yn 2018/2019, aseswyd bod dros 31,000 o aelwydydd yng Nghymru yn ddigartref, a derbyniodd llawer mwy gefnogaeth gyda materion digartrefedd. Mae'r ffigwr hwn wedi parhau i godi.
"Mae diffyg cwynion i'm swyddfa am y mater hwn yn awgrymu efallai nad yw'r unigolion yr effeithir arnynt yn ymwybodol o'u hawl i drosglwyddo eu cwynion ataf, neu efallai nad ydynt yn gallu arfer yr hawl honno.
"Mae tystiolaeth yn dangos bod cyfran uchel o benderfyniadau asesu digartrefedd yn cael eu gwrthdroi yn y cyfnod adolygu, ac mewn rhai awdurdodau lleol, dyma'r achos flwyddyn ar 么l blwyddyn.
"Roedd hyn yn awgrymu camweinyddu systemig a methiant i nodi a dysgu gwersi."
Dywed yr Ombwdsmon bod y gwaith a wnaed yn ystod y pandemig i leihau achosion o ddigartrefedd wedi bod yn rhagorol ond bod angen parhau 芒'r gwaith da.
"Rwy'n cydnabod y bu ymateb i'r pandemig yn heriol i'r awdurdodau yr ymchwiliwyd iddynt, ac mae eu hymateb clodwiw wedi galluogi inni nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau ehangach a thymor hwy," meddai.
"Fodd bynnag, rhaid cynnal a rhannu'r arfer da a ddangoswyd mewn ymateb i'r pandemig er mwyn gwella'r gwasanaethau a ddarperir i bobl ddigartref - yn awr ac mewn dyfodol ar 么l y pandemig."