麻豆官网首页入口

Ymchwilio i farwolaeth yn uned iechyd meddwl T欧 Llewelyn

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan, Conwy
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r uned ar safle Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan

Mae ymchwiliad wedi dechrau yn dilyn marwolaeth claf mewn uned iechyd meddwl yn Sir Conwy.

Cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y farwolaeth yn uned ddiogel T欧 Llewelyn.

Mae T欧 Llewelyn yn uned sydd 芒 25 o wl芒u ar safle Ysbyty Bryn y Neuadd, Llanfairfechan.

Dywedodd y bwrdd iechyd na fyddai'n gwneud sylwadau pellach ar y mater tra bod ymchwiliad yn digwydd.

Dywedodd Iain Wilkie, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu: "Gallaf gadarnhau bod marwolaeth wedi bod yn Nh欧 Llewelyn sydd yn cael ei ymchwilio yn unol 芒 gweithdrefnau'r bwrdd iechyd.

"Ni fyddwn ni'n rhoi unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd."

Pynciau cysylltiedig