麻豆官网首页入口

Rhoi'r gorau i drin gwallt i yrru bysys

  • Cyhoeddwyd
teithioFfynhonnell y llun, NTfW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Abby Griffiths sydd wedi derbyn gwaith fel gyrrwr i gwmni Llew Jones Coaches

"Yn yr ysgol wnes i erioed s么n bo' fi isio gyrru bysys, o'n i'n deud bo' fi isio torri gwallt, ond o'n i'n gwybod yn ifanc mai gyrru bysys o'n i isio 'neud jest o'n i'n rhy embarassed."

Dyna eiriau Abby Griffiths, un o ferched ieuengaf y wlad i ennill cymwysterau gyrru bysys a choetsys. Mae Abby, sy'n 19, yn dilyn 么l traed ei thad a'i brawd sydd hefyd yn yrwyr bysys.

Ond tydi'r l么n at ei gyrfa ddelfrydol heb fod yn un mor rhwydd i Abby fel merch ifanc, ag oedd i'w brawd Jack, a'i thad Anthony.

Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda Abby am chwalu stereoteip ym myd gwaith, a mentro i fyd sydd 芒 dynion yn llywio'r olwyn gan amlaf.

Mentro i 'fyd dynion'

Dim ond 4 mis sydd ers i Abby gymhwyso fel gyrrwr bysys a choetsys n么l ar ddechrau haf 2021 ac mae hi eisoes wedi derbyn swydd fel gyrrwr i gwmni Llew Jones Coaches yn Llanrwst. Ond bu penderfynu dilyn gyrfa fel gyrrwr yn broses hirach na derbyn ei swydd gyntaf. Eglura Abby:

"Wnes i adael Ysgol Dyffryn Conwy yn 16 a nes i drio 'neud gwallt ond nes i rili ddim mwynhau o felly nes i weithio fel cleaner a nes i 'neud waitressing yn yr Eagles yn Llanrwst. Doedd yr un o rheina i fi.

"Dwi'n cofio fel plentyn helpu dad i ll'nau'r bysys ysgol oedd o'n yrru ac wedyn pan o'n i'n rhyw 13/14 oedd gen i ddiddordeb mewn gyrru bysys.

Ffynhonnell y llun, Abby Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Anthony, tad Abby, wedi ei chyflwyno i gerbydau o bob math erioed

"Ond yn yr ysgol wnes i 'rioed s么n bo' fi isio gyrru bysys, o'n i'n deud bo' fi isio torri gwallt, ond o'n i'n gwybod go wir mai gyrru o'n i isio 'neud jest o'n i'n rhy embarrassed i ddeud.

"Roedd Dad yn gwybod 'mod i isio bod yn yrrwr fel fo. Ro'n i'n deud wrtho, "Dad dwi am 'neud hyn, dwi'n gaddo".

"Mocha o gwmpas a jocio oeddan ni ond wedyn na'th y lockdown cynta' ddigwydd a dyma Dad yn deud wrtha i, "Pam 'na wnei di ddysgu 'neud o, mae o'n dda, ti'n licio gyrru a wnei di fwynhau o." Dyna oedd yr hwb o'n i angen.

"Wnes i weld sens a mynd amdano fo, a sylwi, does 'na ddim byd i fod yn embararssed a deud y gwir. Mae lot o fy ffrindia' yn gobsmacked ond yn falch 'mod i'n 'neud be' o'n i isio o'r diwadd."

Ffynhonnell y llun, NTfW
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ffrindiau Abby yn gegrwth ei bod wrth y llyw o'r diwedd

Denu merched i faes trafnidiaeth

Yn 么l Jane Brown, cyfarwyddwr Llew Jones Coaches a chyflogwr Abby, oedran cyfartalog eu gyrwyr ydi 57, ac allan o 70 o bobl sy'n gweithio i'r cwmni, dim ond 7 sy'n ferched. Meddai Jane:

"Yn y gorffennol, roedd gyrru'n cael ei gyfrif yn waith i ddynion am ei fod yn fwy corfforol pan nad oedd gan fysiau system p诺er-lywio. Mae hynny'n wahanol erbyn hyn a does dim ots ai dynion neu ferched yw'r gyrwyr.

"Rydan ni'n ceisio denu pobl ifanc, dynion a merched, i ystyried gyrru fel gyrfa. Mae'r gwaith yn cynnig amrywiaeth, cyfle i ymwneud 芒 phobl, cyfleoedd i deithio ledled Prydain ac Ewrop ac i symud ymlaen yn eich gyrfa. Mae Abby'n gwneud yn wych ac yn gyrru ein coetsys mwyaf a drutaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae galw am fwy o ferched i yrru bysys a choetsys

Er mwyn derbyn ei thrwydded PSV bu'n rhaid i Abby basio profion theori a phrofion ymarferol. Eglura Abby:

"Roedd 'na bump prawf i gyd, a doedd 'na'm tests yn digwydd oherwydd y cyfnodau clo ar rai adega' felly cafodd sawl prawf ei ganslo, wnes i fethu'r prawf unwaith a phasio'r eilwaith, wedyn dechrau gweithio.

"Mae gyrru bysys a choetsys yn wahanol iawn i yrru car. Mae popeth yn wahanol; ti'n gyrru rhywbeth sy'n andros o hir, ti angen edrych yn y mirrors lawer mwy, gen ti lot o bobl yn siarad a mae angen canolbwyntio lot mwy."

Ffynhonnell y llun, Abby Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Abby a'i brawd Jack yn 'chwarae gyrru' pan oeddent yn fach; mae'r ddau bellach yn yrwyr bysys a choetsys

'Jest gwna fo'

Ar hyn o bryd mae Abby'n gyrru'r bws i blant Ysgol Dyffryn Conwy, ei hen ysgol hi. Wrth wneud ei thaith hyd strydoedd ei milltir sgw芒r mae'n gobeithio y bydd merched ifanc ei hardal yn gweld y gall merched wneud unrhyw beth.

Meddai Abby: "Pan o'n i'n ysgol doedd dim genod yn mynd i 'neud mechanics na bricklayer na dim byd fel'na. Mae angen i bobl ifanc wybod bod unrhyw waith yn bosib iddyn nhw. Jest cer am be' bynnag ti isio 'neud, jest gwna fo. "

Wrth feddwl am ddyfodol ei gyrfa ei hun mae Abby'n edrych ymlaen at droi yn 20 er mwyn cael cludo pobl ymhellach na 50km, a'i g么l ymhen rhai blynyddoedd ydi bod yn yrrwr ar dripiau sg茂o ysgolion i wledydd Ewrop.

Meddai Abby: "Swn i'n licio mynd i Andorra ar dripiau sg茂o ysgol, mae Dad a Jack wedi neud hynna lot. Fasa'n braf mynd efo Dad ar y tour cynta a chael bach o amsar i sg茂o hefyd."

Ffynhonnell y llun, Abby Griffiths
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gyrru yn y gwaed i Abby (ar y dde), ei thad Anthony (chwith), a'i brawd Jack (canol)

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig