麻豆官网首页入口

Gareth Bale yn 么l i Gymru i herio Belarws a Gwlad Belg

  • Cyhoeddwyd
Gareth BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Gareth Bale yn ennill ei 100fed cap y tro nesaf iddo wisgo crys coch Cymru

Fe allai Gareth Bale ennill ei 100fed cap dros Gymru fis yma ar 么l cael ei enwi yn y garfan ar gyfer y gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Belarws a Gwlad Belg.

Doedd Bale, sydd ar 99 cap ar hyn o bryd, ddim ar gael ar gyfer y gemau fis diwethaf oherwydd anaf i linyn y gar.

Mae Aaron Ramsey hefyd wedi'i gynnwys er nad oedd yn rhan o d卯m Juventus dros y penwythnos oherwydd "blinder i'w gyhyrau".

Dydy Bale ddim wedi chwarae i'w wlad na'i glwb ers y g锚m gyfartal rhwng Cymru ac Estonia ar 8 Medi.

Y pumed i gael 100 cap i Gymru

Bydd gweld ymosodwr Real Madrid yn dychwelyd yn hwb mawr i Gymru wrth iddyn nhw geisio sicrhau'r ail safle yn y gr诺p o flaen y Weriniaeth Siec.

Bale ydy prif sgoriwr t卯m dynion Cymru, ac ef fyddai'r ail ddyn yn unig i ennill 100 o gapiau - yn dilyn Chris Gunter.

Mae tair wedi cyrraedd y garreg filltir honno ar gyfer t卯m y merched - Jess Fishlock, Loren Dykes a Sophie Ingle.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai pedwar pwynt o'r ddwy g锚m yn sicrhau'r ail safle i d卯m Rob Page

Mae Rob Page wedi gwneud tri newid i'r garfan a gafodd g锚m gyfartal yn y Weriniaeth Siec a buddugoliaeth yn Estonia fis Hydref.

Mae chwaraewr canol cae Caerdydd, Will Vaulks ac amddiffynnwr Abertawe, Ben Cabango yn cadw eu llefydd ar 么l cael eu galw i'r garfan yn dilyn anafiadau y tro diwethaf.

Mae Tom Lockyer o Luton a Matthew Smith o Hull yn colli eu llefydd yn y garfan.

Dydy David Brooks ddim yn y garfan chwaith wedi iddo gael diagnosis o ganser Hodgkin Lymphoma ar 么l tynnu 'n么l o'r garfan fis diwethaf.

Mae'r ymosodwr Kieffer Moore wedi'i enwi yn y garfan o 28, ond ni fydd ar gael i herio Belarws oherwydd gwaharddiad.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Will Vaulks a Ben Cabango yn cadw eu llefydd ar 么l cael eu galw i'r garfan yn dilyn anafiadau fis diwethaf

Y gemau cartref fis yma ydy'r ddwy g锚m olaf i Gymru yn y gr诺p rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2022 yn Qatar.

Bydd y ddwy yn cael eu cynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda'r g锚m yn erbyn Belarws ddydd Sadwrn, 13 Tachwedd, ac yna'r g锚m yn erbyn Gwlad Belg ar y nos Fawrth.

Mae Cymru'n drydydd yn y gr诺p ar hyn o bryd - tu 么l i'r Weriniaeth Siec ar wahaniaeth goliau, ond mae Cymru wedi chwarae un g锚m yn llai.

Byddai pedwar pwynt o'r ddwy g锚m nesaf felly yn sicrhau'r ail safle i Gymru.

Be' ydy arwyddoc芒d yr ail safle?

Y gemau ail-gyfle ydy unig lwybr Cymru i Gwpan y Byd Qatar bellach, gyda Gwlad Belg eisoes wedi ennill y gr诺p rhagbrofol.

Er bod Cymru bron yn si诺r o gyrraedd y rheiny oherwydd eu perfformiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd, mae'n dal yn bwysig iddynt anelu at gipio'r ail safle yn y gr诺p.

Trwy orffen yn ail fe fyddai gan Gymru lwybr haws trwy'r gemau ail-gyfle, ac fe fydden nhw hefyd yn chwarae o flaen cefnogaeth y Wal Goch gartref.

Carfan Cymru

Wayne Hennessey, Danny Ward, Adam Davies;

Chris Gunter, Ben Davies, Connor Roberts, Chris Mepham, Joe Rodon, Neco Williams, James Lawrence, Rhys Norrington-Davies, Ben Cabango;

Aaron Ramsey, Joe Allen, Ethan Ampadu, Jonny Williams, Harry Wilson, Joe Morrell, Dylan Levitt, Will Vaulks, Sorba Thomas;

Gareth Bale, Daniel James, Kieffer Moore, Tyler Roberts, Brennan Johnson, Rubin Colwill, Mark Harris.