Cymru i dderbyn 拢46m yn lle grantiau Undeb Ewropeaidd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Fe fydd Cymru'n derbyn 拢46m mewn buddsoddiad fel rhan o raglen Llywodraeth y DU a ddaw yn lle cronfeydd yr Undeb Ewropeaidd.

Mae pob cyngor yng Nghymru heblaw am Sir y Fflint yn derbyn arian, gyda phrosiectau'n cynnwys cynlluniau am lag诺n yn Abertawe.

Yng Nghymru, mae prosiectau sydd wedi cael arian yn cynnwys 拢1m ar gyfer rhaglen hyfforddiant ar gyfer y diwydiannau creadigol ym Merthyr Tudful, ac 拢1.3m ar gyfer rhaglen fenter a sgiliau yn Sir Benfro.

Ond fe ddywedodd Llywodraeth Cymru bod pobl Cymru'n cael eu camarwain gan y cyhoeddiad.

O ble mae'r arian yn dod?

Pan yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, roedd Cymru'n derbyn tua 拢375m bob blwyddyn, oedd yn anelu i helpu ardaloedd tlotaf y wlad.

Mae disgwyl i Gronfa Ffyniant Gyffredin (Shared Prosperity Fund) newydd Llywodraeth y DU gymryd lle cronfeydd yr UE, ond ni fydd yn dod i rym tan Ebrill 2022.

Nes bod hynny'n digwydd, mae gweinidogion San Steffan wedi cyhoeddi cynllun peilot - y Gronfa Adfywio Cymunedau - ddydd Mercher, sy'n werth 拢200m.

Mae 477 o brosiectau ar draws y DU - 160 ohonyn nhw yng Nghymru - fydd yn derbyn arian o dan y peilot.

Fe fydd Cymru'n derbyn 拢46m, rhanbarthau Lloegr yn derbyn 拢123m, Yr Alban yn derbyn 拢18m a Gogledd Iwerddon yn derbyn 拢12m.

Bydd Cymru'n derbyn y buddsoddiad mwyaf fesul person - sy'n debyg i gynllun yr UE, lle'r oedd Cymru'n derbyn y gyfran uchaf o gymorth ar gyfartaledd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd y gronfa'n cael ei defnyddio i fuddsoddi mewn sgiliau, addysg, busnesau lleol a chyflogaeth.

Ond mae'r cynllun wedi derbyn beirniadaeth yn y gorffennol am nad oes gan lywodraethau datganoledig yr hawl i benderfynu sut mae'r arian yn cael ei wario.

'Effaith hirdymor'

Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd y gweinidog Michael Gove: "Rydyn ni'n benderfynol o uno a chydraddoli'r Deyrnas Unedig i gyd.

"Bydd y prosiectau rydyn ni'n cefnogi heddiw, o Wrecsam i Gaerffili, yn helpu cymunedau ar draws Cymru i gyrraedd eu potensial llawn, creu cyfleoedd newydd ar gyfer y dyfodol a helpu ni sicrhau allyriadau carbon net-sero."

Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart bod Llywodraeth y DU yn "canolbwyntio'n llwyr ar gydraddoli ein cymunedau, gwella sgiliau a chynyddu cyfleoedd ar gyfer pobl ar draws Cymru."

Mae'r Trysorlys eisoes wedi cyhoeddi y byddai buddsoddiad o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin "o leiaf" yr un faint 芒 buddsoddiad yr UE ar gyfer yr ardaloedd tlotaf.

Yn y Gyllideb yr wythnos diwethaf, dywedodd y Canghellor Rishi Sunak y byddai'n rhoi o leiaf yr un faint a buddsoddiad yr UE o 拢1.5bn y flwyddyn "dros amser".

Sut mae'n wahanol i gronfa'r UE?

Mae'r gronfa'n galluogi i Lywodraeth y DU fuddsoddi'n uniongyrchol mewn meysydd fel addysg a datblygiad economaidd - y byddai fel arfer yn cael eu rheoli gan wleidyddion yng Nghaerdydd, Caeredin a Belffast.

O dan Fesur Marchnad Fewnol y DU - cyfraith newydd cafodd ei basio'r llynedd - llwyddodd Llywodraeth y DU i ennill pwerau newydd i wario arian mewn meysydd fel isadeiledd, addysg a datblygiad economaidd y byddai fel arfer yn faterion datganoledig.

Mae hyn yn wahanol i'r drefn o dan yr UE, lle'r oedd y llywodraethau datganoledig yn dewis sut roedd yr arian o'r gronfa'n cael ei wario.

Gwahoddwyd awdurdodau lleol i gynnig am fuddsoddiad o'r Gronfa ym mis Mai.

'Pobl Cymru'n cael eu camarwain'

Yn ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Trwy gydol y ddadl ar Brexit, rhoddodd Llywodraeth y DU sicrwydd na fyddai Cymru'n colli 'dim un geiniog' o gronfa buddsoddiad yr UE pe bai'r DU'n gadael yr UE.

"Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU heddiw yn dangos eu bod nhw'n rhoi llai o arian i Gymru gan dorri'r buddsoddiad yr oedd wedi ei addo.

"Yn lle bod Cymru'n derbyn o leiaf 拢375m yn flynyddol mewn arian newydd i fuddsoddi o fis Ionawr eleni, mae'n cadarnhau y bydd Cymru ond yn derbyn 拢46m. Dydy hynny ddim yn 'gydraddoli', mae'n anghydraddoli.

"Fe wnaeth Llywodraeth y DU hefyd addo byddai'r pwerau datganoledig yn cael eu parchu. Mae Mesur y Farchnad Fewnol yn tanseilio datganoli democrataidd trwy atal penderfyniadau sydd am Gymru o gael eu gwneud yng Nghymru.

"Mae hyn yn enghraifft glir arall bod pobl Cymru'n cael eu camarwain gan Lywodraeth y DU."