麻豆官网首页入口

Covid: Lletygarwch eisiau 'rhybudd' cyn unrhyw reolau newydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Parti Nadolig
Disgrifiad o鈥檙 llun,

A fydd yr amrywiolyn newydd yn golygu bod rhai cwmn茂au'n canslo eu partis Nadolig?

Mae busnesau lletygarwch wedi mynegi pryder am effaith posib pryderon am yr amrywiolyn Covid newydd ac unrhyw gyfyngiadau posib ar gyfnod prysur y Nadolig.

Daw hyn wedi i weinidog iechyd Llywodraeth Cymru rybuddio pobl i beidio 芒 chymdeithasu'n ormodol dros yr 诺yl, yn enwedig dan do.

Mewn sylwadau pellach fore Mercher, dywedodd Eluned Morgan nad oedd hi eisiau gweld pobl yn canslo part茂on Nadolig.

Ond dywedodd y dylai pobl wneud mwy o ddefnydd o brofion cyflym (lateral flow test) os oedden nhw am gymysgu.

Ar hyn o bryd mae'r llywodraeth yn ystyried a oes angen rhagor o gyfyngiadau Covid, a hynny'n dilyn pryderon am amrywiolyn Omicron sydd wedi dod i'r amlwg yn yr wythnos ddiwethaf.

'Risg is mewn parti Nadolig'

Mae Aeron Jones yn rhedeg gwesty'r Castell yng Nghaernarfon, ac yn dweud nad oes unrhyw un wedi canslo part茂on Nadolig gyda nhw eto.

Ond mae'n pryderu am effaith unrhyw newidiadau i'r rheolau, yn enwedig os nad oes llawer o rybudd yn dod gan y llywodraeth.

"Os 'di o'n gyfraith, 'dan ni'n dilyn y gyfraith, ond yr unig beth 'dan ni'n ofyn ydi bod nhw ddim yn landio rhywbeth arnon ni ar brynhawn dydd Gwener, a disgwyl i ni ei weithredu o ar ddydd Llun," meddai ar raglen Dros Frecwast 麻豆官网首页入口 Radio Cymru.

"Mae hynna bron yn amhosib oherwydd mae'n cymryd amser i ni roi'r canllawiau 'ma i mewn."

Disgrifiad,

Eluned Morgan: "Cymerwch brawf llif unffordd cyn mynd i bart茂on Nadolig"

Ychwanegodd bod angen ystyried gwir risg digwyddiadau fel part茂on Nadolig, gyda phobl yn aml yno gyda chydweithwyr maen nhw eisoes yn treulio amser gyda "yn ystod oriau gwaith", ac felly ddim yn cynyddu'r risg o ledaeniad.

"Be' sy'n rhyfeddol ydi 'dach chi'n medru mynd mewn i g锚m b锚l-droed neu g锚m rygbi efo 30-40,000 yna, a neb yn gwisgo masgiau, a phawb yn ista fatha sardines," meddai Mr Jones.

"Mewn tafarn fatha genno ni mae pobl yn cael bwyd, maen nhw'n ista'n weddol agos, ond 'dyn nhw ddim mewn grwpiau o fwy na 15, 16."

Dywedodd Clive Hopkins, sy'n rhedeg Gwesty a Bwyty Blancos ym Mhort Talbot, fod pryderon am yr amrywiolyn newydd eisoes wedi effeithio ar ei fusnes.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Clive Hopkins mae Omicron wedi effeithio ar ei fusnes yn barod

"Dydd Sadwrn yma roedd gennym ni archebion ar gyfer 150 o bobl, ond fe gawson ni 120 yn y diwedd - wnaeth 30 ddim dod," meddai.

Pwysleisiodd fod cyfnod y Nadolig eleni'n arbennig o bwysig i'r diwydiant, yn enwedig o ystyried y cyfyngiadau oedd yn eu hwynebu llynedd.

"Os yw hwn yn cael ei effeithio hefyd, wedyn mae'n bosib y bydd pobl sydd dim ond jyst wedi bod yn cadw'u pennau uwch ben y d诺r nawr yn colli eu busnesau," meddai.

Ystyried camau pellach

Dywedodd y gweinidog iechyd Eluned Morgan nad oedd hi am i bobl ganslo eu cynlluniau Nadolig eto, "achos ni ddim yn gwybod beth sydd o'n blaenau ni".

"Ond bydden ni yn awgrymu bod pobl yn cymryd y sefyllfa o ddifri', yn arbennig os ydyn nhw am gysylltu gyda pobl sydd yn hen neu mewn sefyllfa mwy bregus," meddai.

"Falle byddai'n syniad i gymryd lateral flow test cyn cymysgu gyda nhw."

Ychwanegodd bod y llywodraeth yn parhau i "ystyried" camau pellach, gydag amrywiolyn Omicron yn si诺r o gyrraedd Cymru ar ryw bwynt.

"Ond mae'n rhaid i ni fod yn si诺r, er enghraifft... fod y math yma o amrywiolyn yn gallu cael eu gweld ar y lateral flow tests, a dyw hyd yn oed hynny ddim yn glir eto," meddai.