麻豆官网首页入口

Omicron: Rhybudd na fydd gwasanaethau brys yn gallu ymdopi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysbyty prysurFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae rhybudd na fydd gwasanaethau brys y bwrdd iechyd yn gallu ymdopi yn sgil rhagor o achosion

Mae cyfarwyddwr cynorthwyol gyda bwrdd iechyd mwyaf Cymru yn dweud bod pryder "na fydd gwasanaethau brys yn gallu ymdopi" os yw achosion Covid yn cynyddu.

Dywedodd Wyn Thomas o Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr nad oes "llawer o le" o ran capasiti os daw'r rhybuddion am "don" o bobl angen triniaeth ysbyty oherwydd Omicron yn wir.

"Ond nid dim ond yn yr ysbytai mae hyn. Mae gofal cynradd yn brysur iawn, gofal cymdeithasol yn brysur iawn," meddai.

"'Dan ni'n gweld bod y cynnydd sydyn yma yn golygu y bydd pobl, heb os, yn gorfod cael triniaeth ysbyty a dwi'n meddwl bod y system yn llawn iawn ar hyn o bryd."

Ychwanegodd: "'Dan ni 'di gweld dros y 12 mis diwethaf y pwysau sydd ar y GIG.

"'Dan ni'n ymwybodol weithiau nad yw pobl wedi gallu mynd am brofion neu fod afiechydon heb eu hadnabod yn ddigon cynnar, felly dwi'n meddwl fod hynny'n bryder, bod yr elfen o argyfwng yn y gwasanaeth iechyd dan bwysau enfawr ac o bosib ni fydd yn gallu ymdopi.

"Ond hefyd dwi'n amau y gallai'r galw am faterion sydd ddim yn bethau brys - lle mae gan bobl gyflyrau neu angen profion pellach - gael ei effeithio hefyd, sydd yn mynd i gael effaith hirdymor ar iechyd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r bwrdd iechyd yn anelu i ddarparu 230,000 o frechlynnau'n ychwanegol erbyn diwedd y mis

Mae'r bwrdd iechyd wrthi'n canolbwyntio ar yr ymdrechion i gynnig brechlyn atgyfnerthu i bob oedolyn cyn diwedd y mis.

Lansiwyd gwefan am y tro cyntaf brynhawn Mercher ble mae modd gwneud apwyntiad, gyda thua 50,000 o bobl yn ymweld 芒'r dudalen yn y 24 awr cyntaf.

Mae'r bwrdd yn anelu i ddarparu 230,000 o frechlynnau yn ychwanegol at yr hyn oedd eisoes wedi ei drefnu ym mis Rhagfyr.

Dywedodd Mr Thomas bod y galw uchel ar y wefan yn "dangos fod pobl yn ymwybodol o'r angen am y brechlyn atgyfnerthu".

"Rwy'n hyderus iawn [y bydd y bwrdd yn cyrraedd eu targed brechu]. 'Dan ni wedi dangos ein bod yn hyblyg ac ein bod yn gallu addasu'n eithaf cyflym, felly dwi'n hyderus y gallwn weithio ar gyfer y bobl hynny'n sy'n gwneud eu hapwyntiadau."

Mae'r bwrdd yn annog pobl i wneud apwyntiad ar-lein am eu brechlyn atgyfnerthu.