Cwtogiad treth busnes 50% i barhau o fis Ebrill

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd siopau, tafarndai, bwytai a busnesau hamdden yn cael cwtogiad o 50% mewn trethi busnes o fis Ebrill - dyna un o brif bwyntiau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Roedd yna bryder y byddai busnesau'n wynebu biliau uwch ar ddiwedd gostyngiadau dros dro yn sgil y pandemig.

Roedd llawer o fusnesau wedi cael osgoi talu unrhyw drethi busnes o gwbl - arian sy'n helpu talu am wasanaethau'r awdurdodau lleol.

Cyhoeddwyd cam tebyg yn achos Lloegr yng Nghyllideb y Canghellor Rishi Sunak yn yr hydref.

Bydd trethi busnesau eraill yn aros fel ag y maen nhw ar hyn o bryd.

'Cam at greu cenedl sero-net, decach'

Bydd 拢1.3bn yn ychwanegol yn cael ei wario ar y GIG yng Nghymru, medd gweinidogion, ac mae yna addewid o fwy o arian ar gyfer addysg a gwasanaethau cyngor.

Mae dogfennau'r llywodraeth yn dweud mai'r flaenoriaeth ydy "taclo'r rhestr hir o driniaethau sydd wedi eu hoedi oherwydd y pandemig".

Bydd cyfanswm o 拢1bn yn cael ei wario ar gartrefi cymdeithasol mewn Cyllideb, yn 么l y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans, a fydd yn rhoi Cymru'n "bellach ar hyd y llwybr i fod yn genedl sero-net, a chreu cenedl decach".

Hefyd bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal gyda'r nod o ganiat谩u i'r fersiwn Cymreig o'r dreth stamp yn achos ail gartrefi a lletyau gwyliau tymor byr amrywio o le i le.

Disgrifiad o'r fideo, 'Byddai talu dim treth busnes yn well na talu 50%'

Mae'r cyhoeddiad yn dilyn addewid o arian ychwanegol gan y Trysorlys, sy'n rhoi'r cyfran helaeth o gyllid Llywodraeth Cymru, ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Dywed arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd y bydd 拢2.9bn yn fwy ar gael i'w wario erbyn 2024.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, budd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn derbyn rhyddhad ardrethi annomestig o 50% yn y flwyddyn 2022-23, ar gost o 拢116m.

Bydd y cynllun yn capio'r budd i 拢110,000 i bob busnes.

Rhwng hynny a chynlluniau eraill i helpu gyda threthi, dywed gweinidogion y bydd yna gefnogaeth i 85,000 o leoliadau gwahanol, a bydd 拢35m yn rhagor yn mynd ar gyfer rhewi cyfraddau yn ystod 2022-23.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r 21 mis diwethaf wedi bod un heriol i'r Vale Resort ym Mro Morgannwg

Yn 么l rheolwr gyfarwyddwr y Vale Resort ym Mro Morgannwg, roedd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddilyn esiampl Lloegr a pharhau gyda'r cwtogiad mewn trethu busnes.

Dywed Stephen Leeke bod pethau wedi dechrau gwella, gydag archebion ar gynnydd ers i gyfyngiadau Covid godi, ond roedd y gefnogaeth i fusnesau, fel y cynllun ffyrlo a'r cwtogiad mewn trethi busnes, yn ffactor mawr yn hynny o beth.

"Mae yna ddadl, yn sicr, y gallen nhw ystyried mynd ymhellach oherwydd rwy'n meddwl ei bod am fod ar dipyn o roller coaster yn yr ychydig fisoedd nesaf a does dim amheuaeth y bydd y diwydiant angen rhywfaint o gefnogaeth," meddai.

Cyllideb '芒 chydraddoldeb wrth ei gwraidd'

Bydd cynghorau sir - sy'n ariannu ysgolion a gofal cymdeithasol - yn cael 拢750m yn fwy, ac mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod yn gwario 拢320m yn fwy ar addysg, gan gynnwys 拢90m ar brydau ysgol am ddim. Bydd 拢900m yn cael ei wario ar godi ysgolion.

Mae'r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru'n cynnwys addewid o brydau ysgol am ddim o bob disgybl cynradd o fewn tair blynedd.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn gwario 拢1.8bn ar fuddsoddiadau o fewn ei hadran newid hinsawdd, sy'n cynnwys 拢1.6bn ar gartrefi.

Bydd yn rhoi 拢4.5m ar gyfer diogelu tomenni glo, gan gynyddu'r buddsoddiad i 拢44.4m.

Disgrifiad o'r llun, Rebecca Evans: Cyllideb sy'n "cefnogi Cymru'r presennol ac yn siapio Cymru'r dyfodol"

Dywed Rebecca Evans bod y llywodraeth yn dal yn gweithredu o fewn "cyd-destun ariannol anodd" gyda chyllideb "sydd bron 拢3bn yn is na phetai wedi cynyddu yn unol 芒'r economi ers 2010-11".

Ychwanegodd: "Bydd y Gyllideb yma'n cefnogi Cymru'r presennol ac yn siapio Cymru'r dyfodol. Bydd yn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus i fod yn gryfach, yn rhoi Cymru'n bellach ar hyd y llwybr i fod yn genedl sero-net, a chreu cenedl decach sydd 芒 chydraddoldeb wrth ei gwraidd."

Yn 么l y Ceidwadwyr Cymreig, mae'r Gyllideb "wedi methu 芒 chynnig cynllun ar gyfer economi gryfach" er i Lywodraeth Geidwadol y DU "roi'r cyllid mwyaf erioed" i Lywodraeth Lafur Cymru.

"Yn sgil hynny, rwy'n croesawu'r gwyliau trethi busnes sydd daer eu hangen i helpu cwmn茂au ail-ffynnu wrth i heriau'r pandemig barhau," meddai llefarydd cyllid y blaid, Peter Fox.

Mae hefyd yn croesawu'r arian ychwanegol i'r awdurdodau lleol "sy'n darparu gymaint o wasanaethau allweddol" ond mae'n "siomedig nad oes cyllid ar gael i ddarparu canolfannau rhanbarthol llawfeddygol a diagnosteg i fynd i'r afael 芒 rhestrau aros anferthol ein GIG".

Dywedodd hefyd bod gweinidogion Llafur y bydd methiant i glustnodi cyllid sylweddol ar gyfer gwella ffyrdd "yn parhau i ddal ein heconomi yn 么l".