麻豆官网首页入口

'Dy'n ni ddim wedi cael cynnig trydydd brechlyn eto'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
brechuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi cyrraedd eu targed o fewn yr amser

Mae dwsinau o bobl yn dweud eu bod yn dal i aros am eu brechlyn atgyfnerthu, er i Lywodraeth Cymru ddweud eu bod wedi cynnig apwyntiad i bob oedolyn cymwys.

Cyhoeddwyd cynlluniau i gynnig trydydd dos i bob oedolyn erbyn diwedd eleni wrth i Omicron ddechrau ymledu yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ddydd Gwener eu bod wedi cyrraedd eu targed.

Ond, mae pobl wedi ymateb yn dweud eu bod yn dal i aros.

Dywedodd Dean Anthony, 32 o Gaerffili: "Dy'n ni [ef a'i wraig] ddim wedi cael llythyr, dy'n ni ddim wedi cael gwahoddiad, dy'n ni ddim wedi cael unrhyw beth".

"Roedden ni'n meddwl ei fod yn anarferol gan fod y ddau ohonom wedi derbyn llythyrau ar gyfer ein dos cyntaf a'r ail, ond y tro hwn, [dy'n ni] heb glywed unrhyw beth o gwbl."

Mae pobl sydd wedi eu heffeithio'n cael eu cynghori i gysylltu 芒'u byrddau iechyd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dean a'i wraig, Jennifer o Gaerffili

Ar 么l peidio derbyn apwyntiad, aeth y ddau ar lein i geisio trefnu un ar wefan y Gwasanaeth Iechyd - ond doedd dim record o'r ddau yn y system yn 么l Mr Anthony.

Cafon nhw eu cynghori i ffonio 119, system Profi ac Olrhain Covid-19, lle gafon nhw gyfarwyddyd i gysylltu gyda'u meddyg teulu.

"Dywedodd [y bwrdd iechyd] wrtha i bod problem wedi bod gyda'n brechlyn. Doedden nhw ddim wedi cofrestru safle brechu i ni felly dyna pam na dderbyniom ni unrhyw beth," eglurodd Mr Anthony.

Mae'n dweud iddo gael ei gynghori i ffonio'n 么l wythnos nesaf i drefnu apwyntiad.

Disgrifiodd Mr Anthony y profiad fel "tipyn o frwydr".

"Mae popeth ar lein yn dweud peidiwch a gwneud unrhyw beth, peidiwch a ffonio - ond os na fyddem ni wedi gwneud, fydden ni ddim wedi cael un."

Ffynhonnell y llun, Louise Brooks
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l Louise (chwith), hi yw'r unig un allan o bump oedolyn cymwys yn ei chartref sydd wedi derbyn gwahoddiad

Dywedodd Louise Brookes, 43 o Abertawe mai hi yw'r unig un allan o bump oedolyn cymwys yn ei chartref sydd wedi derbyn gwahoddiad am y trydydd brechlyn.

"Yn y cyfamser, dros gyfnod y Nadolig, ry'n ni i gyd wedi dal Covid," dywedodd, gan ychwanegu y bydd yn rhaid i'w theulu nawr aros 28 diwrnod cyn gallu cael y brechlyn.

Dywedodd Ms Brookes bod aelodau eraill o'u theulu a ffrindiau heb dderbyn eu gwahoddiadau chwaith, er eu bod yn gymwys.

"Mae pawb yn gweithio'n galed iawn, ry'n ni'n gwerthfawrogi bod gweithwyr iechyd yn gweithio dros y Nadolig i frechu pobl felly ry'ch chi eisiau aros am eich tro," dywedodd.

"Mae'n wych beth maen nhw wedi ei gyflawni'n barod, ond allwch chi ddim dweud yn blaen fod pawb wedi cael eu gwahoddiad pan nad ydyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi diolch i'r cyhoedd am eu "hymateb rhagorol" i'r rhaglen frechu

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "ymdrech aruthrol wedi ei wneud" i gynnig y brechlyn ychwanegol i bob oedolyn cymwys.

"Mae ymdrech aruthrol wedi ei wneud i ddarparu'r brechlynnau atgyfnerthu ac mae dros 1.6 miliwn o bobl wedi ei dderbyn.

"Ddylai neb gael eu gadael ar 么l ac ry'n ni'n annog pobl i gysylltu a'u byrddau iechyd neu fynychu canolfan cerdded-i-mewn er mwyn derbyn eu brechlyn.

Dywedodd y Llywodraeth bod byrddau iechyd wedi defnyddio gwahanol ffyrdd o gysylltu gan gynnwys trwy neges destun, llythyr neu opsiynau cerdded-i-mewn.

Ychwanegodd bod yn rhaid i bobl aros tri mis ers eu hail frechlyn cyn cael cynnig y trydydd.

Bydd byrddau iechyd yn cysylltu a phawb sydd ddim wedi gallu mynychu eu hapwyntiad i ail-drefnu ym mis Ionawr.

Diolchodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, i'r cyhoedd am eu hymateb "rhagorol" i'r rhaglen atgyfnerthu.

Mae mwy na 1.5 miliwn o'r 'booster' wedi'u rhoi hyd yma, gydag 81% o bobl dros 50 oed yn derbyn y dos atgyfnerthu.

Ar hyn o bryd mae tua 80% o bobl 12 oed a h欧n yn gymwys i gael y pigiad atgyfnerthu ac, o'r rheini, mae 71% ohonyn nhw eisoes wedi derbyn un.

"Dros gyfnod y Nadolig roeddem yn falch o weld cynnydd yn y bobl yn dod ymlaen i dderbyn eu dos cyntaf a'u hail ddos o'r brechlyn," meddai Ms Morgan.

"Os nad ydych chi wedi manteisio ar y cynnig eto, gwnewch adduned blwyddyn newydd i gael eich brechlyn atgyfnerthu."

Pynciau cysylltiedig