Effaith y pandemig ar ysgolion yn 'drist eithriadol'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae disgyblion ym mhob rhan o Gymru wedi dychwelyd i ysgolion wedi'r Nadolig erbyn hyn
  • Awdur, Bethan Lewis
  • Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 麻豆官网首页入口 Cymru

Mae bron i ddwy flynedd o'r pandemig wedi cael effaith "eithriadol o drist" ar ddisgyblion yn 么l un arweinydd ysgol.

Wrth i ddisgyblion ym mhob rhan o Gymru ddychwelyd i'r ysgol, mae sawl pennaeth wedi rhybuddio y gallai gwersi orfod symud ar-lein o ganlyniad i absenoldebau staff yn sgil Covid.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae'r mwyafrif o ysgolion wedi cynllunio i groesawu pob dysgwr yn 么l i'r ystafell ddosbarth yr wythnos hon.

Dywedodd Mark Hatch, pennaeth Ysgol Dinas Bran yn Llangollen, ei fod "wrth ei fodd" yn croesawu'r disgyblion yn 么l i safle'r ysgol, ond bod bron i ddwy flynedd o amharu yn sgil y pandemig wedi cael effaith "enfawr" ar ddisgyblion.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Mark Hatch mai "aniscrwydd" yw'r her mwyaf y mae'r ysgol yn gorfod wynebu

Dywedodd Mr Hatch: "O ystyried yr holl bryderon cyn y Nadolig yngl欧n ag a fydden i ar agor ai peidio, ry'n ni'n falch iawn o fod yn agor i'r holl ddisgyblion a'u croesawu nhw yn 么l y bore 'ma.

"Yr anhawster gyda chynllunio ar gyfer y tymor hwn yw'r ansicrwydd - boed hynny'n gynllunio ar gyfer cyfnod clo llawn, neu ddysgu cymysg, gwybod faint o staff sydd i mewn ond hefyd faint o gyfyngiadau sydd angen rhoi yn eu lle," ychwanegodd.

"Mae angen cydbwysedd rhwng y cyfyngiadau hynny heb niweidio addysg ymhellach ar gyfer y disgyblion, a hefyd ar gyfer lles y disgyblion a'r staff o fewn yr ysgol."

Mae'r ysgol wedi ailgyflwyno grwpiau blwyddyn ac wedi rhoi rhagor o systemau un ffordd o gwmpas yr ysgol i ymateb i risg lledaeniad yr amrywiolyn Omicron.

Yn 么l Mr Hatch, mae'n parhau i gael effaith ar brofiad disgyblion.

"Mae eu haddysg wedi ei effeithio trwy fod yn yr un dosbarth, wrth gael athrawon cyflenwi, yn sgil cyfnodau clo, addysgu cymysg," eglurodd.

"Mae'n eithriadol o drist faint o effaith mae hyn yn cael ar ddisgyblion."

Disgrifiad o'r llun, Yn 么l Dyfan, 18, mae'n brofiad "rhwystredig" i fod yn 么l yn yr ysgol gyda rhagor o gyfyngiadau

Mae Dyfan, 18, yn ddisgybl yn yr ysgol.

Dywedodd: "Mae'n deimlad eithaf rhyfedd i fod n么l, wrth gwrs gyda rhagor o gyfyngiadau a phethau newydd, mae'n eithaf rhwystredig mewn ffordd i ddod n么l i ddelio gyda rhagor o bethau nag o'r blaen.

"Mae'n eithaf stressful yn amlwg - heb sefyll arholiadau llynedd, heb sefyll arholiadau'r flwyddyn cyn hynny - felly nid yn unig y straen o baratoi ar eu cyfer ond hefyd y straen o 'ydw i'n barod i eistedd mewn ystafell am ddwy awr i wneud nhw?

"Dw i erioed wedi bod dan yr amgylchiadau yna o'r blaen."

Disgrifiad o'r llun, Jemima, 15

Dywedodd Jemima, 15: "Dw i ddim yn gwybod os ydw i'n mynd i orfod gwneud fy arholiadau ac os ydw i'n gorfod dysgu ar-lein, dw i'n poeni am 'ydw i wedi paratoi ar gyfer yr arholiadau, ydw i'n wirioneddol barod am yr arholiadau a'r holl waith?'"

Dywedodd bod Covid wedi troi ei byd ben i waered.

"Y newid mwyaf, si诺r o fod, yw'r ysgol... mae wedi bod yn dipyn o sioc."

Cafodd ysgolion ar draws Cymru ddeuddydd i gynllunio ar ddechrau'r tymor ysgol, gyda mwyafrif disgyblion de Cymru yn dychwelyd i'r ysgol ddydd Iau diwethaf, a'r gweddill ddydd Llun.

Cafodd disgyblion yng Ngheredigion a Powys wersi ar-lein ddydd Gwener ond dywedodd y ddau awdurdod lleol bod ysgolion bellach yn 么l ar y safle ar gyfer dysgu.

Ddydd Llun, dywedodd Cyngor Merthyr fod tua 11% o staff i ffwrdd o'r gwaith oherwydd rhesymau'n ymwneud 芒 Covid ond fod pob dosbarth ar agor i ddisgyblion.

Dim ond 1.9% o'r staff oedd yn absennol yn Sir Benfro, a llai na 1% yn Nhorfaen.

Yn Sir Ddinbych, bydd blynyddoedd saith i naw yn Ysgol St Brigid yn dysgu ar-lein tan ddydd Gwener, gyda grwpiau dosbarth eraill yn mynd i safle'r ysgol yn 么l yr arfer.

Dywedodd Cyngor Casnewydd nad oedd dosbarthiadau ar gau ar hyn o bryd, ar 么l i rai disgyblion ddysgu ar-lein am ddeuddydd yr wythnos diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd nad oedd ysgolion yn adrodd bod angen cau ysgolion oherwydd Covid-19 ar hyn o bryd.

Disgrifiad o'r llun, Gareth Evans, cyfarwyddwr polisi addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Yn 么l cyfarwyddwr polisi addysgu Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, mae ysgolion wedi gorfod "delio gyda beth bynnag sy'n cael ei daflu atyn nhw" yn ystod y pandemig.

Dywedodd Gareth Evans: "Mae ysgolion yn hyblyg ac maen nhw'n gallu addasu, maen nhw wedi dangos dros y ddwy flynedd diwethaf eu bod yn barod am her ac y byddant yn delio gyda beth bynnag sy'n cael ei daflu atyn nhw.

"Dw i yn meddwl bod ysgolion mewn lle cryfach, fodd bynnag, petai pethau'n gwaethygu ymhellach, efallai y bydd angen ystyriaeth ynghylch y gyfres nesaf o arholiadau, yn enwedig arholiadau'r haf."

'Sefyllfa'n newid yn ddyddiol'

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oeddynt yn ymwybodol o unrhyw ysgol yn gorfod cau'n llawn ond bod nifer fach o ysgolion 芒 rhai disgyblion yn dysgu o adref am gyfnod byr.

Dywedodd llefarydd bod absenoldebau staff ddiwedd wythnos diwethaf tua 10% ond bod niferoedd yn amrywio o ysgol i ysgol.

Ychwanegodd bod hi'n ymddangos bod ysgolion arbennig wedi wynebu lefelau uwch o amharu nag eraill, a rhybuddiodd bod y sefyllfa'n parhau i "newid yn ddyddiol".