Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Pryder tad am ferch sy'n gorfod ynysu am bythefnos

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cat HughesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catherine Hughes wedi cael gorchymyn i hunan-ynysu am 14 diwrnod

Mae tad i ddynes sy'n glaf mewn uned iechyd meddwl yn rhybuddio bod perygl iddi ladd ei hun am ei bod yn gorfod ynysu am bythefnos ar ôl dal Covid-19.

Yn ôl Aled Hughes, cafodd ei ferch 18 oed, Catherine, brawf positif ar 4 Ionawr yn Uned Heddfan, Wrecsam.

Mae'n dweud ei bod hi'n gorfod ynysu yn ei hystafell tan 20 Ionawr - wythnos yn hirach na'r boblogaeth gyffredinol - er iddi gael profion negyddol ar chweched a seithfed diwrnod ei chwarantin.

Y cyngor yng Nghymru a'r DU yw y dylai cleifion ysbyty ynysu am 14 diwrnod llawn os ydyn nhw'n dal y feirws.

Ond mae Mr Hughes yn dweud bod angen newid y canllawiau hynny, ar ôl gweld cyflwr ei ferch yn "dirywio a dirywio".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod poblogaeth yr ysbytai yn "fwy bregus", ac mai dyna pam fod y cyngor yn wahanol iddyn nhw.

Fe ychwanegodd y bwrdd iechyd lleol y byddan nhw'n cysylltu gyda'r teulu "er mwyn cynnig cymaint o gefnogaeth ag y gallwn".

'Dadwneud y gwaith da'

Dywedodd Mr Hughes bod Catherine - sydd wedi rhoi caniatâd i'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú ei henwi - yn "gwneud yn eithaf da" yn yr uned yn Ysbyty Maelor, ond bod hynny wedi newid wrth iddi ynysu.

"Y diwrnod o'r blaen fe ffoniodd hi ei mam a gofyn os y gallai ei helpu i'w lladd - lladd ei hun," meddai.

"'Dan ni methu deall pam fod staff yn cael ynysu am saith diwrnod, cael dau brawf LFT negyddol ac yn cael mynd yn ôl i'r gwaith… tra bod Cat wedi cael gwybod bod yn rhaid iddi hi ynysu am 15 diwrnod.

"Dydy hyn yn gwneud dim lles iddi hi. Mae hyn wedi dadwneud unrhyw waith da gafodd ei wneud ynghynt."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Hughes yn credu bod iechyd meddwl ei ferch yn dirywio wrth iddi hunan-ynysu

Cafodd Catherine, sydd wedi dioddef ag anhwylderau iechyd meddwl ers sawl blwyddyn, ei derbyn i'r uned yn yr hydref, yn ôl ei thad.

Mae'n dweud ei bod hi wedi cael tri phrawf llif unffordd (LFT) negyddol ers iddi brofi'n bositif am Covid-19 dros wythnos yn ôl.

Llwyddodd i ymdopi â'r cyfnod cychwynnol o hunan-ynysu, meddai, ond mae'n credu bod "ei hiechyd meddwl, ei hiselder, yn dirywio a dirywio" wrth i'r ynysu barhau.

'Ddim eisiau colli plentyn arall'

Mae Mr Hughes - a gollodd fab yn sgil problemau iechyd meddwl rai blynyddoedd yn ôl - yn galw am newid y cyngor o ran ynysu mewn ysbytai.

"Dwi wedi colli un plentyn yn barod a dwi ddim eisiau colli un arall," meddai.

"Dwi ddim yn credu bod 'na wybodaeth wyddonol sy'n profi bod cleifion yn fwy tebygol [o ledaenu neu mynd yn sâl achos Covid] na staff.

"Mae hi yn y lle mwyaf diogel iddi hi, ond mae hi wedi llwyddo i niweidio a thorri'i hun hyd yn oed mewn uned ddiogel… dwi yn poeni y bydd hi'n lladd ei hun."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Catherine brawf positif ar 4 Ionawr yn Uned Heddfan, Wrecsam

Mae Gareth Davies, AS Ceidwadol Dyffryn Clwyd, wedi ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn galw am adolygiad brys o sefyllfa Catherine.

Dywedodd ei fod yn "deall yr angen i fod yn ofalus" mewn amgylchiadau meddygol, ond bod gorfodi cleifion i ynysu cyhyd "yn ormod ac yn anghymesur" o ystyried y risgiau eraill i gleifion sy'n gallu dirywio "heb ddigon o gymorth a chyswllt gyda phobl eraill".

Cadarnhaodd y bwrdd iechyd bod cleifion yn gorfod hunan-ynysu am 14 diwrnod os ydyn nhw'n dal y feirws, ac yn cael gadael eu cwarantin ar y pymthegfed dydd.

Mae'r awdurdod yn dweud bod eu canllawiau ar reoli a rhwystro heintiau yn cyd-fynd â rheolau Llywodraeth Cymru.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

"Mae gwarchod cleifion, ymwelwyr a staff yn ein hysbytai yn hollbwysig i ni," meddai Teresa Owen, cyfarwyddwr gwasanaethau iechyd meddwl y bwrdd.

"Rydym ni'n deall y gall hwn fod yn gyfnod anodd i gleifion a'u teuluoedd. Byddwn yn cysylltu gyda nhw yn uniongyrchol er mwyn cynnig cymaint o gefnogaeth ag y gallwn, tra'n sicrhau bod unrhyw drefniadau yn parhau i ddiogelu cleifion eraill, ymwelwyr a staff ar ein safleoedd rhag heintiau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod bod "hunan-ynysu am gyfnod hir yn gallu bod yn anodd".

Ychwanegodd: "Mae ein cyngor i bobl sy'n hunan-ynysu mewn ysbytai yn wahanol i'r boblogaeth yn gyffredinol gan fod pobl mewn ysbytai yn fwy bregus.

"Canllawiau'r DU yw y dylai pobl gyda Covid-19 mewn ysbytai hunan-ynysu am 14 diwrnod. Mae hyn yn cael ei adolygu'n barhaus."

Os ydych chi'n cael trafferthion gyda materion yn y stori yma, gallwch ffonio'r Samariaid ar eu llinell ffôn iaith Gymraeg ar 0808 164 0123.

Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth ar .