Galw am leihau'r cyfnod hunan-ynysu i bum diwrnod

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Gallai'r cyfnod gael ei gwtogi os oes tystiolaeth i gefnogi'r penderfyniad, meddai Mark Drakeford

Mae elusen sy'n cefnogi a gofalu am bobl gydag anableddau dysgu wedi galw am gwtogi cyfnod hunan-ynysu Cymru er mwyn i staff fedru dychwelyd i'r gwaith yn gynt.

Dywedodd pennaeth Perthyn, Steve Cox, fod mis Ionawr wedi bod y cyfnod mwyaf heriol o'r pandemig wrth i staff hunan-ynysu i ffwrdd o'r gwaith.

Mae angen i staff sy'n profi'n bositif yn Lloegr hunan-ynysu am bum diwrnod - hynny o gymharu 芒 saith yng Nghymru.

Yn 么l prif swyddog meddygol Cymru mae penderfyniad o'r fath yn ddibynnol ar yr elfen o risg sy'n dderbyniol gan wleidyddion.

Dywedodd Dr Syr Frank Atherton y byddai gweinidogion yn edrych a ddylen nhw newid y rheolau hunan-ynysu yr wythnos hon.

Awgrymodd prif weinidog Cymru, Mark Drakeford, y gallai newidiadau gael eu cyflwyno os oes tystiolaeth newydd.

Yn y cyfamser, mae cyfradd achosion Cymru wedi gostwng i'r lefel isaf ers 18 Rhagfyr - 650.02 o achosion fesul 100,000 o bobl.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George, bod yr "amser wedi dod i dorri'r cyfnod hunan-ynysu".

Mae llwyddiant y rhaglen frechu a'r "awydd cynyddol i symud i bwynt lle rydyn ni'n byw gyda'r feirws" yn cyfiawnhau hynny, meddai.

Dywedodd fod y cyfyngiadau Covid diweddaraf wedi niweidio cymdeithas dros y Nadolig.

"Rydym eisoes wedi gweld gor-ymateb syfrdanol Llafur i Omicron a sut mae hynny wedi effeithio ar fusnesau," meddai.

"Trwy dorri'r cyfnod hunan-ynysu, gallant ddechrau gwneud yn iawn am y difrod y maent wedi'i wneud."

Mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cefnogi cwtogi'r cyfnod hunan-ynysu, ond yn pwysleisio y dylai hynny fod yn ddibynnol ar dystiolaeth wyddonol.

'Sefyllfa enbyd'

Mae Perthyn, elusen sydd 芒 swyddfeydd ym Mhowys a Sir Amwythig, yn cyflogi tua 850 o staff ac yn cefnogi dros 250 o bobl drwy Gymru a dwyrain canolbarth Lloegr.

Dywedodd eu pennaeth, Mr Cox: "Fe fyddai'n help mawr os y gallwn ni gael ein staff yn 么l mor gyflym ag y gallwn ni, ac fe hoffem ni wneud hyn mewn ffordd sydd yn ddiogel iddyn nhw ac yn ddiogel i'r bobl maen nhw'n eu cefnogi.

"Gan fod angen cael dau brawf negatif er mwyn dod yn 么l [i'r gwaith], rydyn ni'n teimlo fod hynny'n cynnig digon o ddiogelwch."

Ychwanegodd y byddai hefyd yn croesawu peidio gwneud i bobl barhau i brofi ar 么l diwrnod 10, fel yn Lloegr.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r mis diwethaf wedi bod yn 'heriol', medd prif weithredwr Perthyn, Steve Cox

Dywedodd Mr Cox: "Mae cael staff yn 么l wedi bod yn flaenoriaeth lwyr i ni, felly byddai unrhyw beth y gellid ei wneud er mwyn cyflymu'r broses honno yn help mawr ar yr amod eu bod yn profi'n negatif.

"Mae'r mesurau diogelwch mewn lle.

"Mae'r sefyllfa wedi bod mor enbyd dros yr wythnosau diwethaf i nifer o sefydliadau - i'r fath raddau fod cael un neu ddau o bobl yn 么l yn gwneud gymaint o wahaniaeth."

O ddydd Llun, bydd modd i bobl yn Lloegr stopio hunan-ynysu ar 么l cael profion llif unffordd negatif ar ddiwrnodau pump a chwech.

Fe ddywedodd gweinidogion y DU y byddai hyn yn lleihau pwysau staffio mewn rhai sectorau.

'Elfen o gydbwyso'

Mae'r cyfnod hunan-ynysu yng Nghymru eisoes wedi ei dorri o 10 diwrnod i saith.

Ar Radio Wales fore Llun, dywedodd prif swyddog meddygol Cymru, Dr Syr Frank Atherton, fod modd lleihau nifer y diwrnodau sy'n rhaid hunan-ynysu ond y byddai hynny'n golygu mwy o risg.

"Mae yna wastad elfen o gydbwyso wrth benderfynu'r elfen o risg sy'n dderbyniol o'i gymharu 芒'r amser o hunan-ynysu.

"Yn fras pe bai pawb yn cael eu rhyddhau ar ddiwrnod pump ar 么l profi'n bositif neu o fod 芒 symptomau, fe fyddai tua 30% o bobl yn parhau i fod yn heintus," meddai.

"Fe allai hynny gael ei leihau pe bai ni'n cynnal profion llif unffordd ar y ddau ddiwrnod o ryddhau.

"Beth bynnag yw'r penderfyniad o beth i wneud, mae'r risg o bobl heintus yn y gymuned yn cynyddu pe bai chi'n gostwng nifer y dyddiau [o hunan-ynysu].

"Dyna'r cyngor fyddwn yn ei roi i weinidogion yr wythnos hon, a byddan nhw'n gwneud penderfyniad yn wynebu hynny.

"Mae o'n dibynnu ar yr elfen o risg mae pobl Cymru, sy'n gyffredinol ychydig yn fwy gofalus, yn fodlon arno - ond fe fydd gweinidogion yn ystyried y sefyllfa."

Ychwanegodd fod cenhedloedd y DU - gan gynnwys Cymru - sydd wedi cymryd agwedd fwy rhagofalus wedi gweld gwell cyfraddau Covid na Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Erbyn hyn, does dim angen archebu prawf PCR ar 么l cael prawf llif unffordd positif os nad oes symptomau gennych chi

Wrth gyhoeddi'r newid yn Lloegr, dywedodd gweinidog iechyd y DU, Sajid Javid, fod data Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU yn dangos nad yw dau draean o achosion positif yn heintus erbyn diwrnod pump.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AS, llefarydd Plaid Cymru dros iechyd: "Rydyn ni eisiau gweld yr amser hunan-ynysu yn cael ei leihau, a heb os bydd yn dod i lawr - gorau po gyntaf!

"Ond rhaid i hyn gael ei arwain gan y dystiolaeth ei bod yn ddiogel i wneud hynny, yn hytrach na phwysau gan fanteiswyr gwleidyddol."

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi dweud y byddai ei phlaid yn "croesawu'n ofalus" unrhyw fwriad i leihau'r cyfnod hunan-ynysu.

Ond dywedodd Jane Dodds AS y byddai'n hoffi gweld y llywodraeth yn fodlon symud yn 么l fyny i saith diwrnod petai cyfraddau achosion yn "cynyddu'n ddramatig".

"Mae ein systemau iechyd a gofal dan straen aruthrol a dylai torri'r cyfnod ynysu alluogi meddygon, nyrsys a gofalwyr i ddychwelyd i'r gwaith yn gyflymach a lleihau rhywfaint o'r straen hwn, ond rhaid i ddiogelwch cleifion ddod yn gyntaf bob amser," meddai.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford, ddydd Gwener: "Fe wnawn ni astudio'r dystiolaeth sydd nawr ar gael ac os ydyn ni'n meddwl ei fod yn ddiogel ac os yw'n prif swyddog meddygol ac ymgynghorydd gwyddonol yn dweud wrthym y gallwn gwtogi'r diwrnodau mewn ffordd na sy'n achosi peryg i eraill - dyna fyddwn ni'n ei wneud.

"Ond dydyn ni ddim wedi gweld y dystiolaeth hynny na chael cyngor ar hynny eto."