麻豆官网首页入口

Covid: Cynllun llacio'r rheolau i barhau ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
LletygarwchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y mesurau ychwanegol gyhoeddwyd yn Rhagfyr y llynedd - megis y rheol chwe pherson a phellter cymdeithasol - yn cael eu dileu ddydd Gwener

Bydd y cynllun i lacio'r mesurau lefel rhybudd dau yn raddol a symud yn 么l i lefel rhybudd sero yn parhau.

Daeth cadarnhad gan y Prif Weinidog Mark Drakeford nos Iau y bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero ar 28 Ionawr, oni bai fod y sefyllfa iechyd gyhoeddus yn gwaethygu.

O ddydd Gwener 21 Ionawr, bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd sero ar gyfer pob gweithgaredd awyr agored.

Mae hyn yn golygu'r canlynol:

  • Bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored;

  • Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl fydd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau awyr agored;

  • Bydd lletygarwch awyr agored yn cael gweithredu heb y mesurau ychwanegol a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr, fel y rheol chwech o bobl a chadw pellter cymdeithasol o 2m;

  • Bydd y P脿s Covid yn ofynnol o hyd i fynd i ddigwyddiadau mawr awyr agored sydd 芒 mwy na 4,000 o bobl ynddynt os nad yw pobl yn eistedd, neu 10,000 o bobl os ydynt yn eistedd;

  • Bydd rhaid parhau i ddangos P脿s Covid ym mhob sinema, theatr a neuadd gyngerdd.

Daeth y cyhoeddiad wrth i'r data iechyd cyhoeddus diweddaraf awgrymu bod y don Omicron wedi pasio ei hanterth yng Nghymru a bod achosion o'r coronafeirws yn gostwng i lefelau tebyg i'r rhai a welwyd yn gynharach yn yr hydref.

Mae nifer y cleifion Covid-19 mewn ysbytai hefyd yn gostwng.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd cyfyngiadau ar nifer y bobl all gymryd rhan mewn gweithgaredd awyr agored hefyd yn diflannu ddydd Gwener

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford: "Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos ein bod wedi pasio brig y don Omicron. Gallwn felly lacio'r mesurau lefel rhybudd dau fel rhan o'n cynllun gofalus a graddol.

"Byddwn yn dileu'r cyfyngiadau ar nifer y bobl sy'n cael ymgynnull mewn digwyddiadau awyr agored. Mae angen gofal o hyd, ond rydym yn parhau i fod yn hyderus bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn mynd i'r cyfeiriad cywir ac y gallwn, wythnos nesaf, symud yn llawn i lefel rhybudd sero, oni bai bod y sefyllfa'n newid er gwaeth.

"Mae'n bwysig bod pawb yn parhau i ddilyn y rheolau a'r canllawiau i ddiogelu eu hunain a'u hanwyliaid. Mae hyn yn cynnwys manteisio ar y cynnig o bigiad atgyfnerthu os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud hynny."

Ddydd Gwener 28 Ionawr, bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd sero.

Mae hyn yn golygu'r canlynol:

  • Bydd clybiau nos yn ailagor.

  • Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol ar gyfer y coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau'r perygl o ledaenu'r coronafeirws;

  • Bydd y gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sydd ar agor i'r cyhoedd a gweithleoedd yn dod i ben;

  • Ni fydd y rheol chwech o bobl mewn grym mwyach ar gyfer ymgynnull mewn safleoedd a reoleiddir, megis lletygarwch, sinem芒u a theatrau;

  • Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig na chasglu manylion cyswllt;

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori gweithio gartref ond ni fydd hyn yn ofyniad cyfreithiol mwyach.

Bydd y P脿s Covid yn ofynnol o hyd i fynd i ddigwyddiadau mawr dan do, clybiau nos, sinem芒u, theatrau a neuaddau cyngerdd.

Dywedodd Mr Drakeford ar Sky News fore Gwener y bydd hynny'n cael ei adolygu ar 10 Chwefror, gan ychwanegu: "Os fydd pethau'n parhau i wella fe fydden i'n gobeithio gwneud hynny, ond dim ond pan fydd y cyngor gwyddonol yn dweud wrthym fod hynny'n ddiogel.

"Mae'n syndod faint o bobl sy'n dweud wrthai bod y p脿s yn gwneud iddyn nhw deimlo'n fwy diogel a hyderus wrth fynd allan... mae e wedi bod yn dda i iechyd, ond yn dda i fusnes hefyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y rheolau wedi'u llacio mewn pryd i bencampwriaeth y Chwe Gwlad ym mis Chwefror

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylai'r Prif Weinidog osod dyddiad ar gyfer codi pob cyfyngiad yn ymwneud 芒 Covid, gan gynnwys gorchuddion wyneb a hunan-ynysu.

Yn 么l Plaid Cymru, mae angen i Lywodraeth Cymru fanylu ar beth arall maen nhw am ei wneud er mwyn helpu'r sector lletygarwch.

Bydd y rheolau hunan-ynysu ar gyfer pawb sy'n cael canlyniad positif i brawf Covid a'r rheolau ar wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoedd cyhoeddus dan do yn parhau ar 么l 28 Ionawr.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o'r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal ar 10 Chwefror pan fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r holl fesurau ar lefel rhybudd sero.

Wrth ymateb i'r gymhariaeth rhwng mesurau yng Nghymru a Lloegr ar raglen Breakfast y 麻豆官网首页入口, atebodd Mr Drakeford: "Dydyn ni ddim yn lywodraeth sydd angen creu penawdau i dynnu sylw oddi ar drafferthion fel y mae'r llywodraeth yn Lloegr.

"Mae pobl Cymru wedi dangos eu cefnogaeth i'r dull mwy gofalus oherwydd mae hynny wedi cadw Cymru'n ddiogel a chadw Cymru ar agor.

"Dwi ddim yn credu bod amheuaeth fod llywodraeth y DU wedi rhoi'r gorau i ddilyn y wyddoniaeth ers tro. Mae'n lywodraeth sydd mewn trafferthion mawr o'u gwneuthuriad eu hunain, a wastad yn chwilio am bennawd fydd yn tynnu sylw o'r llanast y maen nhw ynddo."