麻豆官网首页入口

Llywodraeth Cymru yn gollwng cyngor i beidio teithio dramor

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Maes awyr

Ni fydd Llywodraeth Cymru'n parhau i gynghori pobl i beidio teithio dramor.

cadarnhaodd Prif Weinidog Cymru fod ciliad yr amrywiolyn Omricon a lefelau uchel o frechu wedi arwain at y newid.

Am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig, mae'n golygu mai nid ond ar gyfer siwrnai angenrheidiol y mae'r llywodraeth yn argymell teithio.

Dywedodd Mark Drakeford mai'r cyngor diweddaraf oedd i bobl "feddwl am eu hamgylchiadau personol a theuluol ac am ffyrdd o ddiogelu ei gilydd os byddant yn penderfynu teithio dramor eleni".

Ychwanegodd: "Wrth inni symud y tu hwnt i'r don Omicron o Covid-19, byddwn hefyd yn gweld mwy o gyfle i unigolion fynd yn 么l at wneud penderfyniadau yn 么l eu hamgylchiadau eu hunain.

"Ar y sail honno, ac oherwydd y llwyddiant brechu a nodir uchod, ni fyddwn mwyach yn cynghori pobl mai dim ond ar gyfer teithiau hanfodol y dylent deithio dramor."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Ni fyddwn mwyach yn cynghori pobl mai dim ond ar gyfer teithiau hanfodol y dylent deithio dramor," meddai Mr Drakeford

Mewn newid arall sy'n ddilyn newidiadau a gyhoeddwyd gan Boris Johnson ar gyfer Lloegr, o 11 Chwefror ni fydd rhaid i deithwyr sydd wedi eu brechu'n llawn gymryd prawf Covid deuddydd cyn dychwelyd i Gymru.

Tra'n parhau i feirniadu Llywodraeth y DU am ymlacio'r gofynion profi pan yn dychwelyd o dramor, dywedodd Mr Drakeford fod yr "anawsterau ymarferol" o barhau gyda threfn wahanol yn golygu fod Cymru'n "anfoddog barhau i gadw cysondeb 芒'r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU".

O ganlyniad, o 04:00 ar ddydd Gwener 11 Chwefror, ni fydd rhaid i deithwyr gymryd prawf Covid deuddydd cyn dychwelyd i'r DU os wedi derbyn cwrs llawn o'r brechiad.

Ond ychwanegodd Mr Drakeford: "Rydym yn parhau i fynegi ein pryderon i Lywodraeth y DU yngl欧n 芒 pha mor gyflym y mae wedi dileu mesurau diogelu iechyd y cyhoedd mewn perthynas 芒 theithio rhyngwladol a'r erydiad parhaus o'r mesurau hyn."