Covid a'r camau nesa': Llwyddiant profi d诺r gwastraff

Disgrifiad o'r llun, Safle yn Nhreborth ger Bangor oedd y cyntaf i fonitro samplau d诺r gwastraff am arwyddion Covid
  • Awdur, Nia Cerys
  • Swydd, Newyddion 麻豆官网首页入口 Cymru

Beth mae ein d诺r gwastraff ni'n datgelu am iechyd ein cymunedau, a sut all o helpu i daclo Covid-19 yn y dyfodol?

Dyna'r cwestiwn sy'n cyffroi gwyddonwyr ar hyn o bryd wrth i gynllun profi d诺r gwastraff gael ei ehangu ar draws Cymru a thu hwnt.

Mae'r prosiect dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn bartneriaeth rhwng sefydliadau fel Prifysgol Bangor a chwmn茂au fel D诺r Cymru.

Mae arbenigwyr hefyd yn gyffrous am y potensial i fonitro feirysau eraill a hapusrwydd cymunedau yn gyffredinol, trwy edrych ar facteria neu olion cyffuriau a meddyginiaethau gwrth-iselder mewn d诺r gwastraff.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae'r data hefyd yn hanfodol gan nad ydy o'n dibynnu ar ddefnydd pobl o brofion Covid, yn enwedig wrth i'r pwyslais symud o brofion PCR i fwy o brofion llif unffordd.

Disgrifiad o'r llun, Dyweododd Dr Helen Howard-Jones fod y prosiect yn rhoi "darlun amser real" o sut mae'r feirws yn symud

Fe ddechreuodd y t卯m ym Mhrifysgol Bangor gydweithio gyda D诺r Cymru i fonitro samplau d诺r gwastraff ar safle yn Nhreborth ger Bangor o fewn wythnosau i'r achosion cyntaf o coronafeirws ymddangos yng Nghymru yn 2020.

Y fantais yn 么l Dr Helen Howard-Jones, aelod o'r t卯m ym Mhrifysgol Bangor, ydy bod modd cael canlyniadau cyflym a rhoi "darlun amser real" o sut mae'r feirws yn symud o gwmpas y boblogaeth.

"Does 'na ddim oedi rhwng rhywun yn cael Covid a rhwng pryd maen nhw'n dechrau 'efo symptomau - os ydyn nhw'n cael symptomau wrth gwrs," meddai.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r samplau yn cael eu hasesu mewn labordy ym Mhrifysgol Bangor

Mae samplau yn cael eu cymryd o'r d诺r gwastraff pob 20 munud dros gyfnod o 24 awr, ac yn dangos os yw lefelau Covid yn codi neu ostwng yn yr ardal.

Roedd gwaith y t卯m ym Mangor wedi galluogi gwyddonwyr i weld twf Omicron o fewn cymunedau a rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y patrymau.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Beth oedd yn ddiddorol bod y d诺r gwastraff yma a'r monitro yma wedi helpu ni i ddilyn ton Omicron - o ble oedd o'n dod, ymhle oedd o'n dod, i ba raddau oedd o'n codi a hefyd i ba raddau o'dd e'n cwympo.

"O'dd y ffaith bod e'n cwympo tu mewn i'n cymunedau ni - ac roedden ni'n gwybod hynny drwy'n d诺r gwastraff ni - yn golygu ein bod ni wedi gallu rhyddhau rhai o'r cyfyngiadau yna."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Marc Davies o D诺r Cymru eu bod "gallu edrych yn ehangach na Covid"

Yn ogystal 芒'r potensial i adnabod amrywiolion newydd o Covid yn y dyfodol, mae arbenigwyr hefyd yn ei weld fel modd o fonitro iechyd a hapusrwydd yn fwy cyffredinol.

Dywedodd Marc Davies, pennaeth trin d诺r gwastraff efo D诺r Cymru: "Y'n ni'n gallu edrych yn ehangach na Covid - yn enwedig beth y'n ni wedi dysgu dros y ddwy flynedd ddiwetha' - i edrych am viruses eraill, pathogens, cyffuriau sydd mewn yn y d诺r gwastraff sy'n dod mewn i'n gweithfeydd trin gwastraff ni."

Mae'r rhaglen yn cael ei ehangu r诺an i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, ar draws 48 o safleoedd.