Wylfa 'yn bendant yn 么l ar yr agenda' medd Ysgrifennydd Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae ansicrwydd yn parhau am beth fydd dyfodol safle Wylfa yng ngogledd M么n

Mae ymosodiad Rwsia ar Wcr谩in wedi rhoi atomfa newydd yn Wylfa ar Ynys M么n "yn bendant yn 么l ar yr agenda" medd Ysgrifennydd Cymru.

Dywedodd Simon Hart fod hunangynhaliaeth ynni yn parhau i fod yn uchelgais y DU.

Wrth siarad mewn sesiwn friffio i'r cyfryngau, ychwanegodd fod Llywodraeth y DU yn benderfynol o beidio 芒 gadael i'r ymgyrch am allyriadau sero net gael ei chwalu gan ddigwyddiadau'r byd.

Daw ei sylwadau wrth i'r AS Ceidwadol dros Wrecsam, Sarah Atherton fod y diweddaraf i alw am i'r strategaeth sero net gael ei "pharcio" er mwyn canolbwyntio ar wytnwch ynni yn lle hynny.

Dywedodd Mr Hart fod y sioc i farchnadoedd ynni yn dilyn y goresgyniad wedi dechrau ysgogi pobol i ganolbwyntio ar y pwnc.

"Mae'n teimlo i mi ein bod yn symud yn llawer mwy tuag at sgwrs ddifrifol am sut y gellid ychwanegu Wylfa at ein capasiti cynhyrchu niwclear yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach," meddai.

Fis Ionawr y llynedd fe wnaeth cwmni Horizon dynnu 'n么l o gynlluniau i adeiladu Wylfa Newydd, gan nodi diffyg cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU fel un o'r rhesymau.

Fe ddaeth hynny wedi i Hitachi, sy'n berchen ar Horizon, dynnu eu cefnogaeth i'r cynllun gwerth 拢20bn ym Medi 2020.

Yn 么l adroddiadau, y rheswm dros hynny oedd nad oedd gweinidogion wedi gallu dod i gytundeb 芒'r cwmn茂au am faint o arian fyddai'n cael ei dalu am yr ynni fyddai wedi cael ei gynhyrchu ar y safle.

Dadl Mr Hart oedd fod gwaith cynllunio sydd eisoes wedi'i wneud ar gyfer y cynllun hwnnw yn golygu y dylai cais newydd allu bwrw ymlaen yn gyflymach.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Simon Hart - "sioc i farchnadoedd ynni yn dilyn y goresgyniad"

Mae Llywodraeth y DU wedi cynyddu ei hymdrechion ynni dros yr ychydig wythnosau diwethaf.

Mae Prif Weinidog y DU yn Saudi Arabia i siarad 芒 llywodraethwyr y Deyrnas am gynhyrchu olew.

Ond mae'n ymddangos bod strategaeth ynni wedi'i gohirio tan ddiwedd mis Mawrth.

Gallai ynni adnewyddadwy chwarae rhan fawr yn hynny, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol yn nodi'r potensial ar gyfer tyrbinau gwynt arnofiol ar y m么r.

Datgelodd y byddai prydlesi gan Ystadau'r Goron, sy'n rheoli gwely'r m么r o amgylch y DU, 'ar gael' mor gynnar 芒 2023.

"Mae hyn yn rhoi cyfle i gwrdd 芒'n hymrwymiadau sero net a chreu swyddi sylweddol yn y tymor byr," meddai.