Amheuaeth am ddiddymu gofynion cyfreithiol Covid

Disgrifiad o'r llun, Ar hyn o bryd mae gofyniad cyfreithiol i bobl yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb mewn siopau, salonau a siopau trin gwallt, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bwrw amheuaeth ynghylch a fydd yr holl gyfyngiadau Covid sy'n weddill yng Nghymru yn dod i ben ar 28 Mawrth.

Roedd gweinidogion Cymru wedi bwriadu dod 芒'r gofynion i hunan-ynysu ac i wisgo mwgwd mewn rhai mannau cyhoeddus i ben pan ddaw'r rheoliadau cyfreithiol presennol i ben ddydd Llun.

Ond dywed Mr Drakeford fod cynnydd mewn achosion coronafeirws yn ei wneud yn benderfyniad mwy "heriol" nag yr oedden nhw wedi'i ddisgwyl.

Mewn cyfweliad gyda 麻豆官网首页入口 Cymru dywedodd, "mae hynny wedi troi allan i fod yn benderfyniad heriol yr wythnos hon.

"Hyd at yr wythnos ddiwethaf roedd gennym fwy neu lai wyth wythnos yn olynol gyda'r niferoedd yn symud i'r cyfeiriad cywir a dyna oedd y cefndir i'r gobaith y gallem godi'r holl gyfyngiadau ar 28 Mawrth."

Trodd data "yn sydyn i fyny" ledled y DU yr wythnos ddiwethaf, meddai.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Mewn cynhadledd newyddion ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan fod Cymru wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o Covid, yn bennaf oherwydd is-amrywiolyn newydd o Omicron.

Dywedodd mai symptomau ysgafn fydd y mwyafrif yn eu cael o BA2, ond mae disgwyl i fwy o bobl orfod mynd i'r ysbyty.

Mae nifer yr profion PCR positif am Covid wedi dyblu ers i'r prif weinidog gyhoeddi y byddai rheolau Cymru'n cael eu diddymu dair wythnos yn 么l.

Penderfyniad yn ddiweddarach

Dywedodd Mr Drakeford fod y cabinet wedi cyfarfod a thrafod y mater, ond penderfynodd aros tan yn ddiweddarach yn yr wythnos i wneud penderfyniad

Pan ofynnwyd iddo a oedd hynny'n golygu bod opsiynau'n dal ar agor, atebodd, "Ie, mae'n rhaid iddynt fod."

Bydd canlyniad adolygiad gan Lywodraeth Cymru o'r cyfyngiadau presennol yn cael ei gyhoeddi ddydd Gwener.

Ar hyn o bryd mae gofyniad cyfreithiol i bobl yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb mewn siopau, salonau a siopau trin gwallt, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, eisoes wedi cyhoeddi y bydd ei llywodraeth yn cadw gofyniad am orchuddion wyneb mewn rhai lleoliadau "am ychydig yn hirach" oherwydd y duedd ar i fyny mewn achosion o is-amrywiolyn Omicron.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Rhun ap Iorwerth: "Os ydi ffigyrau Covid yn parhau i gynyddu yng Nghymru, yna mae'n iawn ystyried pob mesur all helpu i leihau heintiadau heb roi cyfyngiadau pellach ar symudiadau.

"Mae masgiau yn un esiampl lle byddai'n gwneud synnwyr i'w cadw ar drafnidiaeth cyhoeddus, siopau a chanolfannau gofal.

"Mae hunan-ynysu yr un mor bwysig mewn cyfnod fel hyn, ond os yw hynny'n cael ei gdaw yng Nghymru yna rhaid i Lywodraeth Cymru roi sicrwydd y bydd profion llif unffordd yn dal i fod am ddim ac ar gael yma.

"Fe ddylen nhw hefyd egluro pa feini prawf sydd angen eu cyrraedd er mwyn dileu'r mesurau yn llwyr fel bod y cyhoedd yn deall yn glir pryd y gall hynny ddigwydd.