麻豆官网首页入口

Cymru'n gwella cyfraddau ailgylchu eto er y pandemig

  • Cyhoeddwyd
AilgylchuFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd 694,000 tunnell o wastraff cartref ei ailgylchu yng Nghymru yn 2020

Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i wella ei chyfradd ailgylchu yn ystod y pandemig, ac mae bellach wedi ailgylchu'n well na'r tair gwlad arall ers dros ddegawd.

Mae ffigyrau newydd yn dangos fod Cymru wedi ailgylchu 56.6% o wastraff cartref yn 2020 - 0.2% o gynnydd ar y flwyddyn flaenorol.

Bu gostyngiad yn lefelau ailgylchu tair gwlad arall y DU dros yr un cyfnod, gan dynnu cyfartaledd y DU i lawr i 44.4%.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James fod angen "parhau i gynyddu ein huchelgeisiau i greu Cymru ddiwastraff erbyn 2050".

"Er gwaethaf y pandemig a'r holl heriau a ddaeth yn ei sgil, llwyddodd awdurdodau lleol i flaenoriaethu ailgylchu, gweithiodd y casglwyr yn arwrol drwy gydol yr holl gyfyngiadau, a pharhaodd pobl wych Cymru i ailgylchu," meddai.

Cyfraddau ailgylchu'r DU

  • Cymru: 56.6% - i fyny o 56.4%

  • Lloegr: 44% - i lawr o 45.5%

  • Yr Alban: 41% - i lawr o 44.9%

  • Gogledd Iwerddon: 49.1% - i lawr o 51.3%

Yn 2020 fe wnaeth Cymru gynhyrchu 1.228 miliwn tunnell o wastraff cartref. Cafodd 694,000 tunnell o hwnnw ei ailgylchu.

Gobaith y llywodraeth ydy cyrraedd cyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2024-25.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae gwastraff bwyd yn cael ei anfon i safleoedd treulio anaerobig ac yn cael ei droi'n ynni

Mae ymdrech wedi'i wneud i ailgylchu gwastraff bwyd yn enwedig, gyda chasgliadau ar wah芒n ledled Cymru ers degawd bellach.

"Pan gaiff ei anfon i safleoedd tirlenwi, mae'r amodau poeth a chywasgedig yn trosi gwastraff bwyd yn nwy methan, sydd 30 i 80 gwaith yn fwy niweidiol i newid yn yr hinsawdd nag allyriadau carbon deuocsid," meddai Llywodraeth Cymru.

"Pe bai gwastraff bwyd yn wlad, byddai y trydydd allyrrwr carbon mwyaf yn y byd y tu 么l i China ac India.

"Dyma pam mae gwastraff bwyd yn cael ei restru gan y Cenhedloedd Unedig fel un o'r prif feysydd targed i gyfyngu ar newid yn yr hinsawdd nad ydym yn llwyddo i'w reoli.

'Newid rhyfeddol mewn ymddygiad'

Yng Nghymru, mae gwastraff bwyd o'r 22 awdurdod lleol yn cael ei anfon i un o bum safle treulio anaerobig ledled y wlad ac yn cael ei drawsnewid yn 7MW o ynni.

Mae hynny'n ddigon i bweru tua 12,000 o gartrefi, yn 么l y llywodraeth.

Ychwanegodd fod cyfradd ailgylchu uchel Cymru yn arbed dros 400,000 tunnell o garbon deuocsid y flwyddyn rhag cael ei ryddhau i'r atmosffer.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru bellach yn credu ei fod y tu hwnt i amgyffred i grafu eu gwastraff bwyd yn syth i'r bin sbwriel yn lle eu cadi bwyd," meddai Ms James.

"Mae'r newid rhyfeddol hwn mewn ymddygiad gan y cyhoedd yng Nghymru yn atal allyriadau sy'n cyflymu'r newid yn yr hinsawdd rhag cael eu rhyddhau i'r atmosffer."

Pynciau cysylltiedig