麻豆官网首页入口

Cymorth biliau d诺r i filoedd o gwsmeriaid ar incwm isel

  • Cyhoeddwyd
Bil Dwr Cymru

Bydd rhagor o gwsmeriaid ar incwm isel yn cael help gyda'u biliau wrth i gwmni D诺r Cymru fuddsoddi arian yn ystod yr argyfwng costau byw.

Daw hyn wrth i'r cwmni gyhoeddi eu bod wedi gwneud elw gweithredol (cyn treth a llog) o 拢81m y llynedd o'i gymharu 芒 拢7m yn y flwyddyn flaenorol.

Bydd 50,000 o aelwydydd sydd "mwyaf agored i niwed yn yr argyfwng costau byw" yn elwa o fuddsoddiad gwerth 拢12m y flwyddyn nesaf.

Mae'r cwmni nid-er-elw yn darparu i 1.3 miliwn o gwsmeriaid ar draws Cymru ac yn cefnogi nifer o gartrefi yn barod.

Ond dywedodd y prif weithredwr eu bod am ehangu'r cymorth yn ystod "amser anodd".

Yn 么l y cwmni, mae 127,000 o'u cwsmeriaid eisoes yn derbyn gostyngiad i'w biliau trwy dariffau cymdeithasol.

Dywedon nhw eu bod yn gallu cynnig cymorth tymor byr yn ogystal 芒 chynnig cyngor i gwsmeriaid.

Ddydd Llun, fe gyhoeddodd y cwmni eu bod wedi parhau i fuddsoddi bron i 拢1m y dydd yn eu gwasanaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedon nhw eu bod nawr yn gweithio gyda sefydliadau i adnabod a chefnogi cwsmeriaid a allai fod yn gymwys i gael gostyngiad ar filiau.

Argyfwng costau byw

Dywedodd Prif Weithredwr D诺r Cymru, Peter Perry, bod y cwmni'n "falch bod gennym rai o'r lefelau uchaf o ymddiriedaeth cwsmeriaid yn y sector".

"Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi ein cwsmeriaid a'u cymunedau, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn wrth i aelwydydd ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.

"Drwy ddarparu dros 拢12m ar gyfer ein cynllun tariffau cymdeithasol eleni yn unig, gallwn gefnogi aelwydydd incwm isel sy'n ei chael yn anodd talu eu biliau.

"Dylai unrhyw un sy'n pryderu am sut y gallan nhw dalu eu biliau d诺r gysylltu 芒 ni cyn gynted ag y gallan nhw i drafod pa gymorth a allai fod ar gael iddynt."

Pynciau cysylltiedig