麻豆官网首页入口

Senedd fwy: 'Cwot芒u rhywedd yn peryglu'r cynlluniau'

  • Cyhoeddwyd
Senedd

Gallai ceisio cyflwyno cwot芒u rhywedd beryglu cynlluniau i gynyddu maint y Senedd, yn 么l cyn-aelod o'r pwyllgor a wnaeth y cynigion.

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol Darren Millar: "Roedd y cyngor cyfreithiol yn gwbl glir. Mae cyfle cyfartal yn fater sydd heb ei ddatganoli."

Gofynnodd i brif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw, am ei farn ynghylch a oedd gan y Senedd y p诺er i gyflawni'r argymhellion.

Dywedodd Mr Antoniw y byddai'n "rhoi ystyriaeth fanwl iawn" i unrhyw gynigion sy'n cael eu cymeradwyo gan y Senedd, ond ni wnaeth sylw ynghylch a oedd gan weinidogion Cymru yr awdurdod i ddeddfu ar gydraddoldeb rhywiol.

Mae'r Senedd yn trafod cynlluniau i gynyddu nifer y gwleidyddion ym Mae Caerdydd o 60 i 96, newid y system bleidleisio bresennol a chyflwyno cwot芒u rhywedd mewn pryd ar gyfer etholiad 2026.

O ran cwot芒u rhywedd, argymhellodd y pwyllgor rwymedigaeth gyfreithiol ar bleidiau i gyflwyno niferoedd cyfartal o ddynion a menywod a'u rhoi am yn ail ar eu rhestrau ymgeiswyr.

Roedd yn cydnabod bod posibilrwydd o her gyfreithiol oherwydd bod p诺er dros y rhan fwyaf o faterion cydraddoldeb a gwahaniaethu yn parhau yn San Steffan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Byddai cynyddu'r aelodaeth o 60 i 96 yn dod 芒'r Senedd yn debyg i Gynulliad Gogledd Iwerddon o ran nifer yr aelodau

Nododd hefyd y gallai unrhyw her o'r fath ohirio diwygio y tu hwnt i derfyn amser 2026 ac argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru ddrafftio'r ddeddfwriaeth mewn ffordd a fyddai'n "sicrhau nad yw ein hargymhellion ar ddiwygio'r Senedd ar gyfer 2026 yn cael eu rhoi mewn perygl gormodol o atgyfeiriad i'r Goruchaf Lys."

'Cyngor cyfreithiol yn glir'

Ond dywedodd Darren Millar, a ymddiswyddodd o'r pwyllgor ar 么l i Lafur a Phlaid Cymru gyhoeddi eu cynigion eu hunain ar gyfer diwygio, "Nid oes gan y Senedd y pwerau i osod cwot芒u rhywedd statudol i fynd i'r afael 芒 gwahaniaethu yn erbyn menywod. Roedd y cyngor cyfreithiol hwnnw'n glir i ni."

Gofynnodd i Mick Antontiw, "a ydych yn derbyn, os bydd eich llywodraeth yn bwrw ymlaen 芒 chwot芒u rhywedd statudol, y gallech mewn gwirionedd beryglu holl agenda diwygio'r Senedd a methu 芒'i chyflawni erbyn 2026?"

Ni atebodd Mr Antoniw y cwestiwn yn uniongyrchol ond dywedodd, "Fy r么l i, a r么l Llywodraeth Cymru, yw pe bai'r cynigion sydd yn yr adroddiad hwnnw'n cael eu derbyn gan y Senedd, i ystyried y rheini'n fanwl ac i edrych ar y ffordd orau o weithredu y cynigion hynny yn ddeddfwriaeth hyfyw a chadarn."

Edrychodd pwyllgor blaenorol a fu'n archwilio diwygio'r Senedd hefyd ar y cwestiwn a oedd gan weinidogion Cymru'r pwerau i ddeddfu i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn 2019.

Dywedodd pennaeth gwasanaethau cyfreithiol y Senedd, Matthew Richards, wrth yr aelodau, "nid yw'r drws ar gau yn llwyr ar hyn, ond mae'n sicr yn gyfyngedig iawn, ac, wrth gwrs, mae llawer ohono o ran amrywiaeth i'w briodoli i bleidiau gwleidyddol, a byddai rheoleiddio'r rheini yn sicr yn disgyn y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad."