'Dwi ddim yn gallu stopio prynu vapes'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

  • Awdur, Sara Dafydd
  • Swydd, Newyddion S4C

Mae yna rybudd bod nifer cynyddol o bobl ifanc yng Nghymru yn mynd yn gaeth i 'vapes'.

Mae elusennau a chyrff safonau masnach yn galw am dynhau rheolau yn ymwneud 芒 gwerthu e-sigar茅ts i bobl o dan 18 oed, sydd yn anghyfreithlon.

Mae un vape tafladwy yn cyfateb i 45 sigar茅t ar gyfartaledd.

Maen nhw'n cynnwys 20 miligram o nicotin - sef y lefel uchaf sy'n gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig.

'Rhan fwyaf o'r siopau ddim yn gofyn am ID'

Ar 么l ysmygu'r 600 pwff sydd ynddyn nhw maen nhw'n cael eu taflu i ffwrdd, a dyw hi ddim yn bodib eu hailgylchu.

Mae vapes yn opsiwn iachach i oedolion sy'n ceisio rhoi'r gorau i ysmygu sigar茅ts, ond mae yna bryder am eu heffaith nhw ar bobl dan 18 oed.

Dyma brofiad un ferch 17 oed oedd eisiau aros yn ddienw:

''Dwi'n defnyddio nhw [vapes] bron pob dydd os mae gen i un. Mae'n dibynnu ond dwi'n cael falle tri i bedwar yr wythnos.

"Dwi'n teimlo'n eithaf lightheaded wrth ysmygu nhw ond mae'n mynd ar 么l 'neud e am amser. Dwi'n prynu nhw o siopau cornel, dyw'r rhan fwyaf o'r siopau ddim yn gofyn am ID.'

''Byddwn i'n dweud dwi yn gaeth iddyn nhw oherwydd dwi ddim yn gallu stopio prynu nhw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, "Maen nhw'n cael eu cadw yng nghas pensiliau pobl," meddai un disgybl am 'vapes'

Yn ogystal 芒 gwerthiant i bobl o dan 18, mae'r ffordd mae vapes yn cael eu marchnata yn broblem, yn 么l Suzanne Crass, Prif Weithredwr elusen Ash Cymru.

''Mae angen gweithredu pellach yngl欧n 芒 gwerthu [vapes] i bobl dan 18," meddai.

"Mae hefyd angen tynhau rheolau marchnata'r cynnyrch yma.

"Maen nhw i fod i gael eu marchnata fel teclynnau sy'n debyg i ysmygu sigar茅t. Mae gweld nhw'n cael eu marchnata tuag at bobl ifanc yn siomedig.''

Gyda vapes yn gymharol newydd a siopau yn amlwg yn manteisio ar eu poblogrwydd does dim modd dweud eto beth yn union yw eu gwir effaith ar iechyd pobl yn y tymor hir.

Ac mae'r broblem i'w weld yn rhai o ysgolion y wlad.

Mae dirprwy Ysgol Gymraeg Bryn Tawe Mark Bridgens yn poeni am ddefnydd vapes.

"Yn yr hen ddyddiau mae 'na arogl i sigar茅ts a thybaco," meddai.

"Os 'ych chi'n cynnu sigar茅t mae'n cymryd hyn a hyn o amser cyn bod e'n mynd."

'Problem genedlaethol'

"Gyda rhein [vapes] chi'n gallu cael un pwff cyflym, chi'n gallu cadw fe yn eich poced, chi'n gallu cadw fe arno chi trwy'r dydd a does dim arogl gyda nhw.

"Fi'n gwybod bod un sir wedi targedu pob rhiant ac wedi llythyru. Fi'n credu ei bod hi'n broblem genedlaethol.''

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae disgyblion y chweched dosbarth hefyd yn dweud eu bod yn anodd eu hosgoi.

Dywedodd Miriam, 17: "Dyw hi ddim yn rhywbeth 'ych chi'n cwestiynu bellach.

"Gweld rhywun yn vapio mae jest yn estyniad i'w llaw nhw bellach. Mae o'n ffad ond mae angen deall bod pobl yn mynd yn gaeth iddyn nhw.

"Mae'n sefyllfa lle maen nhw'n eu pocedi nhw, maen nhw'n fach, maen nhw yng nghas pensiliau pobl.''

'Mae'n rili hawdd i bobl ifanc cael vapes'

Ychwanegodd Dylan, 17, ei fod yn ''licio edrych mewn i'r amgylchedd a fi'n ymwybodol o orddefnydd o blastig".

"Fi'n meddwl nad yw pobl yn sylweddoli faint mae pobl yn defnyddio. Ac maen nhw jest gallu cael eu taflu ffwrdd yn hawdd a phrynu un eto yn rhad.''

Disgrifiad o'r llun, Mae Angharad yn dweud ei bod hi'n hawdd iawn i bobl ifanc gael gafael ar vapes

Yn 么l Angharad, sydd hefyd yn 17, mae nifer o blant ifanc eisoes yn prynu a defnyddio vapes.

''I fi wedi gweld pobl mor ifanc a 10 oed falle 11 yn defnyddio vapes. Mae'n rili hawdd i bobl ifanc cael vapes.''

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gwaharddiad ar werthu e-sigar茅ts i unigolion o dan 18 oed wedi bod mewn grym yng Nghymru ers 2015 ac mae hefyd yn drosedd i brynu e-sigar茅ts ar ran unigolion o dan 18 oed.

"Rydym yn parhau i fonitro'r tueddiadau yn y defnydd o e-sigar茅ts yng Nghymru yn ogystal ag edrych ar beth arall y gallwn ei wneud i atal pobl ifanc ac unigolion sydd ddim yn smygu rhag eu defnyddio."