麻豆官网首页入口

Cwmbr芒n: 10% o staff ysbyty yn absennol gyda Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysbyty'r Faenor
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Agorodd Ysbyty'r Faenor, Cwmbr芒n ym mis Tachwedd 2020

Mae un o benaethiaid Ysbyty Athrofaol Y Faenor yng Nghwmbr芒n yn dweud fod yr ysbyty yn wynebu sefyllfa "hynod heriol" gyda 10% o'r staff yn s芒l gyda Covid.

Galwodd Dr Alastair Richards, cyfarwyddwr clinigol yr ysbyty, ar bobl i gadw draw os yn bosib.

Daw hyn wrth i'r prif weinidog Mark Drakeford ddweud fod dros 2% o holl staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn absennol o'u gwaith oherwydd y feirws.

Mae'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru wedi ailgyflwyno'r defnydd o fygydau ar gyfer ymweld ag ysbytai.

Dywedodd Dr Richards: "Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda thua 10% o'r staff yn absennol oherwydd Covid.

"Er o bosib nad yw hynny'n swnio'n rhy ddrwg, mae'n gwneud gwaith rheolwyr yn hynod o anodd oherwydd mae hyn fel rheol ar fyr rybudd," meddai.

"Mae staff yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd fel pwy sy'n cael triniaeth nesa, pwy i roi ar droli neu mewn gwely, a phryd i weld pobl."

Dywedodd Nick Hughes, cyfarwyddwr gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghrymu, fod nyrsys wedi blino'n l芒n, a bod yn rhaid i ysbytai flaenoriaethau pa wasanaethau maen nhw'n gallu ei ddarparu.

Dywedodd ei bod yn croesawu penderfyniad y byrddau iechyd i gyflwyno mesurau newydd i sicrhau fod staff a chleifion yn ddiogel

"Byddwn yn annog pobl sydd 芒 symptomau i beidio mynd i ysbyty, oni bai eu bod angen gofal meddygol."