麻豆官网首页入口

Oriel: Cymru yn y gwres

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi profi deuddydd o wres mawr - y poethaf ar record ddydd Llun wrth i'r tymheredd gyrraedd 37.1C ym Mhenarl芒g, Sir y Fflint.

Dyma rai o'r golygfeydd drwy'r wlad dros y cyfnod byr o boethder cyn i'r rhagolygon ddarogan ychydig o law mewn rhai ardaloedd ar 么l dydd Mawrth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd pont诺n Llanberis dan ei sang o bobl ifanc yn ceisio cadw'n oer yn y gwres mawr ddydd Llun

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llwyddodd ambell un i ddod o hyd i dawelwch ar y d诺r yn Llyn Padarn drwy fentro ymhellach i ganol y llyn

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn y Sioe Frenhinol roedd Harm, 8 oed, o'r Iseldiroedd wedi dod o hyd i dap d诺r i geisio cadw'r gwres i lawr

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn y sied wartheg hefyd roedd angen helpu'r anifeiliaid rhag gorboethi

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Greg, Andy a Josh, ymwelwyr o Gilgwri (y Wirral) yn mwynhau peint yn yr haul ar 么l bod yn y m么r ym Miwmares, Ynys M么n

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Stryd boeth ym Mhenarlag, Sir y Fflint, y lle poethaf yng Nghymru ddydd Llun, erioed, yn 么l cofnodion, gyda thymheredd o 37.1C

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd llawer wedi gwrando ar y cyngor i aros mewn yn ystod y tywydd poethaf ond roedd ambell un wedi dod i fwynhau traeth Llandudno

Ffynhonnell y llun, Gwersyll yr Urdd Glan-llyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

D诺r oer Llyn Tegid yn gwahodd wrth i blant yng ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn, gysgodi dan goeden

Disgrifiad o鈥檙 llun,

A diolch byth am y coed yn gysgod n么l yn y Sioe Fawr ddydd Mawrth hefyd

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd llai o ymwelwyr nag arfer yng Nghonwy - mwy o gyfle i'r rhai oedd wedi mentro i gael tynnu eu llun wrth y T欧 Lleiaf yng Nghymru felly

Disgrifiad o鈥檙 llun,

A dipyn o fynd ar y stondin gwerthu hufen i芒

Ffynhonnell y llun, Tudur davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Anfonodd Tudur Davies luniau o'r ddaear yn sych grimp yn Nyffryn Clwyd

Ffynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ac Afon Elwy yn isel

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gwasanaethau achub yn rhoi cyngor am nofio yn ddiogel ym Mhorthcawl ddydd Mawrth

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gyda'r traeth ym Mhorthcawl yn weddol llawn daeth y cymylau ag ychydig o law hefyd - arwydd bod y sbel o dywydd eithriadol boeth ar drai

Ffynhonnell y llun, Tudur Davies
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y caeau melyn ger Diserth yn Nyffryn Clwyd yn falch o unrhyw ddiferion a ddaw

Pynciau cysylltiedig