麻豆官网首页入口

Gwahardd defnydd pibellau d诺r yn Sir Benfro o ganol y mis

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae'r Dr Simon Proud yn wyddonydd sydd wedi defnyddio lluniau lloeren i ddangos lefelau dwr yn gostwng dros yr haf, fel yma yn Llyn Celyn, ger Y Bala

Fe fydd gwaharddiad ar ddefnyddio pibelli d诺r yn y mwyafrif o Sir Benfro a rhan o Sir G芒r o 19 Awst.

Daw'r gwaharddiad wrth i adnoddau d诺r ar gyfer y sir "agos谩u at lefelau sychder," meddai D诺r Cymru wrth wneud y cyhoeddiad brynhawn Iau.

Ni fydd pobl yn cael defnyddio pibelli (hosepipes) ar gyfer gweithgareddau yn eu cartrefi megis rhoi d诺r i'w planhigion neu lenwi pyllau padlo neu dwb芒u twym.

Dywed y cwmni d诺r mai dyma'u gwaharddiad cyntaf ers 1989.

Nid yw'r sefyllfa yn peri risg uniongyrchol i gyflenwadau d诺r ar gyfer y sir, medd D诺r Cymru.

Fodd bynnag, mae'n rhaid "cymryd camau i sicrhau bod digon o dd诺r yn parhau i gyflenwi cwsmeriaid a diogelu'r amgylchedd lleol dros y misoedd nesaf".

Fe fydd y gwaharddiad yn dod i rym am 08:00 19 Awst, yn dilyn cyfnod ymgynghori o saith diwrnod rhwng 10 a 17 Awst.

Ffynhonnell y llun, D诺r Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Map yn dangos yr ardal ble bydd y gwaharddiad yn dod i rym ar 19 Awst

Yn 么l data'r Swyddfa Dywydd, fe gofnodwyd llai o law yng Nghymru fis Gorffennaf eleni nag yn ystod unrhyw fis Gorffennaf ers 2006.

Mae'r swyddfa yn rhagweld y bydd mwy o dywydd poeth i ddod yn y DU dros yr wythnos nesaf.

Mae gwaharddiadau tebyg ar bibellau d诺r eisoes wedi eu cyhoeddi mewn rhannau o dde Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Planet/NCEO/Dr Simon Proud
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r lluniau lloeren yma'n dangos y gwahaniaeth yn lefel y d诺r yng nghronfeydd Craig Goch a Phen y Garreg rhwng Gorffennaf 2021 a Gorffennaf 2022

Dywedodd Ian Christie, rheolwr-gyfarwyddwr gwasanaethau d诺r ar gyfer D诺r Cymru: "Nid ydym wedi gweld cyfnodau mor estynedig o amodau sych yn Sir Benfro ers 1976.

"Os ydym am sicrhau bod digon o dd诺r i'n cyflenwi am weddill yr haf ac i'r hydref, mae angen i ni weithredu nawr i geisio atal rhagor o gyfyngiadau nes ymlaen."

Ychwanegodd Mr Christie nad yw'r cwmni'n bwriadu "cyflwyno gwaharddiadau yn ehangach ar draws ein hardal weithredu".

Roedd D诺r Cymru eisoes wedi rhybuddio bod yna "beth pryder am y sefyllfa yn Sir Benfro".

"Rhwng Mawrth ac Ebrill, roedd lefelau glaw ar draws Cymru ond yn 50% o'r cyfartaledd tymor hir, tra rhwng Mawrth a Mai roedd ond yn 60%," ychwanegodd.

Mewn ymateb i'r galw cynyddol gan gwsmeriaid am dd诺r mae'r cwmni wedi gorfod cynyddu ei drefniadau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'r cyfnod o dywydd sych yn adlewyrchu'r heriau yr ydym i gyd yn eu hwynebu wrth daclo newid hinsawdd.

"Rydyn ni'n parhau i annog pawb i fod yn ystyrlon wrth ddefnyddio d诺r er mwyn sicrhau cyflenwad dros y misoedd nesaf."

'Rhaid bod yn fwy uchelgeisiol'

Ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru osod targedau amgylcheddol sy'n fwy uchelgeisiol er mwyn osgoi gwaharddiadau pellach, medd Bleddyn Lake o Gyfeillion y Ddaear.

Mae'r llywodraeth am leihau faint o dd诺r mae pob unigolyn yn ei ddefnyddio bob dydd o 150 litr i 110 litr. Yn 么l Mr Lake, dyw hynny ddim yn ddigon.

Hoffai weld "gostyngiad eithaf dramatig" i 80 litr y dydd.

"Mae pobl ym Mrwsel, er enghraifft, yn barod wedi cyrraedd 96 litr y dydd, sy'n dangos beth sy'n bosib yn syth - heb s么n am beth ddylwn ni fod yn anelu amdano yn y dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Dwr Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae lefelau'r d诺r yn isel mewn cronfeydd fel hon yn Llys y Fran, Sir Benfro

Ychwanegodd bod "sawl ffordd" y gall pob un ohonom ddefnyddio llai o dd诺r, megis ailddefnyddio d诺r golchi llestri i roi d诺r i blanhigion a lleihau faint o gawodydd ry'n ni'n eu cymryd.

Mewn ymateb i sylwadau Mr Lake, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gan bawb "ddyletswydd i ddefnyddio d诺r mewn modd cynaliadwy ar bob achlysur".

Mae'r llywodraeth yn "parhau i annog pawb i fod yn ystyriol wrth ddefnyddio d诺r" dros y misoedd nesaf, ac yn parhau i weithio gyda chwmn茂au dwr a Chyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gyfrifol am reoli adnoddau d诺r yng Nghymru, "er mwyn sicrhau bod diddordebau cenedlaethau'r dyfodol wrth galon ein defnydd o dd诺r".

Galw am adfer gwlypdiroedd

Dywed Rory Francis o'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt y byddai adfer gwlypdiroedd ar raddfa eang yn ateb i'r heriau sy'n ein hwynebu ni yn y dyfodol o ganlyniad i fwy o hafau sych a phoeth.

"'Da ni wedi colli rhyw 90% o'r gwlypdiroedd oedd ganddon ni 100 mlynedd yn 么l," meddai ar Dros Frecwast fore Gwener.

"Petasen ni'n mynd ati yn egn茂ol i adfer y rheiny, ac adfer corsydd mawn, fysa hynny'n galluogi'r tir i weithio fel sbwng i ddal d诺r yn 么l a sicrhau bod rhagor o dd诺r yn llifo yn yr afonydd a'r nentydd yn ystod cyfnodau sych.

"Trwy wneud hyn fysen ni hefyd yn gallu mynd i'r afael 芒'r argyfwng hinsawdd.

"Mae corsydd mawn nid yn unig yn dal llawer iawn o dd诺r, ond maen nhw'n dal llawer iawn o garbon hefyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ni fydd pobl yn cael defnyddio pibelli ar gyfer pethau fel rhoi d诺r i'w planhigion neu olchi eu ceir

Roedd gr诺p ymgyrchu Welsh Rivers Union eisoes wedi galw am wahardd defnyddio pibellau d诺r mewn rhannau o Gymru yn dilyn cyfnod i dywydd poeth heb lawer o law.

"Dydyn ni ddim yn dymuno cyrraedd sefyllfa o argyfwng cyn i ni weithredu," meddai cyd-sylfaenydd y gr诺p, Kim Waters, ar 麻豆官网首页入口 Radio Wales.

"Rhaid i ni fod yn synhwyrol fel cymdeithas nawr. Nid adnodd tafladwy mo d诺r yng Nghymru, ac mae angen i ni ei reoli mewn ffordd well."

Dywedodd Mr Waters bod angen i gwmni D诺r Cymru a chorff Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn fwy agored ynghylch y data sydd gyda nhw.

"Rwy' just eisiau iddyn nhw fod yn agored, gonest - dweud wrthym beth yw'r sefyllfa a gweithredu'n briodol."

Pynciau cysylltiedig