Rhestrau aros triniaethau ysbyty ar y lefel uchaf erioed eto

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r 26ain mis yn olynol i restrau aros y Gwasanaeth Iechyd gynyddu yng Nghymru

Mae rhestrau aros triniaethau ysbyty yng Nghymru wedi cyrraedd eu lefel uchaf eto, yn 么l y ffigurau misol diweddaraf.

Er bod y rhestrau aros hiraf yn parhau i ostwng yn araf, mae 62,136 o bobl yn dal wedi bod yn aros dros ddwy flynedd am driniaeth.

Mae'r nifer sydd wedi aros dros flwyddyn wedi cyrraedd 178,000 - y ffigwr uchaf erioed.

Wrth edrych ar y darlun llawn, mae'r ffigurau ar gyfer mis Mehefin yn dangos fod 732,241 yn aros ar gyfer triniaeth ysbyty.

Yn y cyfamser, fe gofnododd adran achosion brys Ysbyty Maelor Wrecsam y ffigurau misol gwaethaf erioed.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae rhestrau aros mewn unedau brys wedi gwella rhywfaint yn gyffredinol

Mae ffigurau perfformiad y GIG a gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau hefyd yn dangos bod y rhestrau aros wedi cynyddu am y 26ain mis yn olynol.

Mae'r nifer sydd wedi bod yn disgwyl dros naw mis am driniaeth hefyd wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed - ychydig o dan 264,000.

Gan y gallai un claf fod yn disgwyl am sawl triniaeth wahanol, bydd nifer y cleifion sy'n cael eu heffeithio ychydig yn is.

Yr amcangyfrif felly yw bod tua 576,000 o gleifion unigol ar restr aros am driniaeth yng Nghymru.

Mae amseroedd aros mewn unedau brys wedi gwella rhywfaint, serch hynny. Ond, dyw'r targedau ddim yn cael eu cyrraedd.

  • O ran y targed pedair awr, roedd y perfformiad mewn unedau brys ar ei waethaf ers pedwar mis, a'r trydydd isaf ar gofnod - gyda 65.7% o bobl wedi'u gweld o fewn pedair awr ym mis Gorffennaf, o'i gymharu 芒 66.4% ym mis Mehefin. Y targed, sydd erioed wedi ei gyrraedd, yw 95%.
  • Ysbyty Maelor Wrecsam gofnododd y perfformiad misol gwaethaf o unrhyw adran achosion brys yng Nghymru, gyda dim ond 33.5% o gleifion yn cael eu gweld o fewn pedair awr. Y perfformiad gwaethaf blaenorol oedd 34.7% yn Ysbyty Glan Clwyd ym mis Ebrill.
  • Roedd 447 yn fwy o gleifion yn aros dros 12 awr i gael triniaeth, o'i gymharu 芒'r mis blaenorol. Dyma'r ail ffigwr gwaethaf erioed. Bu'n rhaid i 10,696 aros dros 12 awr, a'r targed yw na ddylai neb fod yn aros mor hir.
  • Roedd y nifer wnaeth ymweld ag uned achosion brys yn ystod Gorffennaf tua'r un peth 芒'r mis blaenorol.
  • Yr amser aros canolrifol oedd 2 awr a 59 munud - sy'n is na'r record a thair munud yn gynt na'r mis blaenorol.

Nifer uchaf o alwadau ambiwlans coch

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y nifer uchaf o alwadau coch, neu achosion sy'n bygwth bywyd, i'r gwasanaeth ambiwlans eu gwneud ym mis Gorffennaf

Ym mis Gorffennaf, roedd 4,130 o alwadau coch - digwyddiadau sy'n bygwth bywyd - i'r gwasanaeth ambiwlans. Mae hynny'n cyfateb 芒 10.5% o'r holl alwadau.

Y targed yw i gyrraedd 65% o fewn wyth munud, ond ym mis Gorffennaf roedd y ffigwr yn 52% - oedd yn well na'r mis blaenorol. Dydy'r targed heb ei gyrraedd ers dwy flynedd.

Rhestrau aros canser ychydig yn well

Mae ffigurau triniaethau canser wedi gwella rhywfaint, gyda 54% o bobl oedd newydd gael diagnosis wedi dechrau eu triniaeth o fewn y targed o 62 diwrnod.

Ond mae hyn 14.1% yn is na Mehefin 2021.

Beth yw'r ymateb?

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod y galw am ofal brys yn dal i fod yn uchel, gyda bron i 92,000 yn ymweld ag unedau brys Cymru, a'r lefel uchaf erioed o alwadau am achosion oedd yn bygwth bywyd i'r gwasanaeth ambiwlans.

"Er gwaethaf hyn, mae mwyafrif y cleifion yn parhau i gael mynediad i'r gofal sydd ei angen arnynt ar amser gyda'r amser aros ar gyfartaledd i bobl gael eu gweld yn byrhau," meddai llefarydd.

Ychwanegodd bod "cynnydd yn parhau i gael ei wneud" i ostwng y rhestrau aros hiraf, gan ddweud fod y niferoedd sy'n aros dros ddwy flynedd wedi gostwng am y trydydd mis yn olynol.

Ond dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Russell George ei bod yn "siomedig dros ben gweld pethau'n gwella mewn rhannau eraill o'r DU, ond mae pobl yng Nghymru'n dal i ddioddef mewn gwasanaeth iechyd sydd ddim yn gweithio".