Rheithgor yn achos Ryan Giggs yn methu dod i ddyfarniad

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Fe allai Ryan Giggs wynebu achos arall - ond ddim cyn Mehefin 2023

Mae'r rheithgor yn achos cyn-b锚l-droediwr Cymru Ryan Giggs wedi ei ryddhau ar 么l methu 芒 dod i ddyfarniad.

Roedd cyn-seren Manchester United a Chymru, 48, wedi gwadu cyhuddiadau o reoli Kate Greville drwy orfodaeth, ac o ymosod arni hi a'i chwaer, Emma Greville.

Wedi achos a barodd ychydig dros dair wythnos yn Llys y Goron Manceinion, cafodd y rheithgor ei ryddhau ddydd Mercher.

Ni fydd unrhyw ail achos yn cael ei gynnal tan o leiaf 5 Mehefin 2023, meddai'r barnwr.

Bu'r rheithgor yn trafod am bron i 23 awr, a dywedodd y Barnwr Hilary Manley ei fod yn glir bod aelodau wedi "ymdrechu'n galed" i ddod i ddyfarniad.

Dim ond 11 rheithiwr oedd yn rhan o'r achos erbyn y diwedd, wedi i un o'r aelodau gael eu taro'n wael a'u rhyddhau o'u dyletswyddau yr wythnos ddiwethaf.

Ddydd Mawrth, mewn ymdrech i ddod i benderfyniad, fe wnaeth y barnwr ddweud wrth y rheithgor y byddai'n derbyn dyfarniad y mae 10 o'r 11 rheithiwr yn cytuno arno.

Ond pan ofynnwyd i'r pen-rheithiwr ddydd Mercher a oedd unrhyw "obaith realistig" iddynt gyrraedd rheithfarnau pe baent yn cael mwy o amser i drafod, atebodd: "Na."

Fe gamodd Mr Giggs i lawr o'i swydd fel rheolwr t卯m Cymru ym mis Mehefin.

Cafodd Mr Giggs ei ryddhau ar fechn茂aeth tan 7 Medi, pan fydd yr hyn sy'n digwydd nesaf yn yr achos yn cael ei drafod.