麻豆官网首页入口

Cost cynyddol ynni yn her anferth i hosbis T欧 Hafan

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ty Hafan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae hosbis T欧 Hafan wedi galw am gymorth gan lywodraethau Cymru a'r DU

Mae hosbis plant T欧 Hafan yn rhybuddio bod y sefydliad yng nghanol "storm berffaith" wrth i'w cyllideb ddioddef yn sgil cynnydd mewn prisiau ynni ac argyfwng costau byw.

Yr elusen, sydd 芒'i phrif ganolfan yn Sili ym Mro Morgannwg, yw'r diweddaraf i alw am gymorth ariannol gan lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig.

Mae T欧 Hafan yn cynnig cymorth arbenigol i bron i 300 o blant sydd yn dioddef o gyflyrau iechyd sy'n byrhau oes.

Mae'r heriau presennol, medd yr elusen, yn "fwy nag adeg y pandemig".

Codi o 拢100,000 i o leiaf 拢460,000

Ar hyn o bryd mae bil ynni T欧 Hafan ar gyfer yr hosbis 10 gwely a'u 19 siop ar draws de-orllewin a chanolbarth Cymru yn 拢100,000 y flwyddyn.

Gyda'r cytundeb yn dod i ben ar ddiwedd Medi 2022, fe fydd yn dringo'n sylweddol.

拢460,000 yw pris un cytundeb sy'n cael ei gynnig iddyn nhw dros dair blynedd, neu 拢600,000 y flwyddyn.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Maria Timon Samra, Prif Weithredwr T欧 Hafan bod angen cymorth penodol ar elusennau

Dywed Maria Timon Samra, Prif Weithredwr T欧 Hafan, bod "cynnydd enfawr mewn pris ynni yn cyfuno gyda gostyngiad sylweddol mewn incwm, a galw uwch am ein gwasanaethau yn storm berffaith ac yn her fawr i ni".

Mae'n pwysleisio hefyd bod angen cymorth penodol i elusennau gan y llywodraeth "er mwyn gallu parhau i ofalu am rai o blant mwyaf bregus Cymru, a'u teuluoedd drwy adeg anodd".

Mae teuluoedd sy'n defnyddio'r hosbis yn dweud ei bod yn hanfodol er mwyn ceisio byw bywyd mor normal 芒 phosib, ac maen nhw'n eilio galwad yr elusen am help gan y llywodraeth.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Jayde Adams y byddai hi a'i merch Savanah-Bleu ar goll heb T欧 Hafan

Mae teulu Savanah-Bleu sy'n dair oed ac o bentref Creigiau ger Caerdydd, yn dibynnu ar T欧 Hafan. Mae ganddi gyflwr Leukodystrophy, sy'n cael effaith ar yr ymennydd.

Yn 么l ei mam Jayde Adams, 30, maen nhw wedi gweld biliau ynni'r teulu'n dringo'n barod.

Mae angen pwmp i fwydo Savanah-Bleu a goleuadau arbennig i gynorthwyo ei datblygiad.

"Mae'n ddigon anodd i ni," meddai Jayde, "alla i ddim dychmygu'r pryder iddyn nhw.

"Mae lot o blant yn dod yma yn ddyddiol sydd angen ocsigen, a pheiriannau anadlu, ac mae angen tipyn o drydan ar eu cyfer.

"Mae angen mwy o gymorth [ar T欧 Hafan] nac maen nhw'n ei gael nawr."

'Ni'n becso'

Laura James yw pennaeth manwerthu T欧 Hafan. Mae'n dweud bod yr elusen "fel pob busnes yn gwneud popeth ni'n gallu i helpu gyda'r costau ond mae angen mwy o help arnom ni o'r cyhoedd neu'r llywodraeth".

Mae'r elusen eisoes wedi gosod paneli solar ar y prif adeilad ac yn ymchwilio i ehangu hyn i adeilad arall. Mae hynny, medden nhw, yn golygu arbediad o 13%.

Ar hyn o bryd mae'n costio 拢5.2m y flwyddyn i ariannu T欧 Hafan gyda 80% o'r arian yna'n cael ei roi gan y cyhoedd. Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau lleol a'r byrddau iechyd sy'n cyfrannu'r 20% arall.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Laura James, pennaeth manwerthu T欧 Hafan, bod cyfraniadau arferol wedi gostwng hefyd

Ond mae T欧 Hafan wedi gweld cyfraniadau'r cyhoedd yn gostwng 50% ers dechrau'r flwyddyn wrth i'r argyfwng costau byw daro pawb.

Dywedodd Laura James: "Mae pobl yn cael yr un broblem 芒 ni, mae costau yn mynd lan, a dy'n nhw ddim yn gallu fforddio rhoi'r un arian i ni nawr."

Ymatebion llywodraethau Cymru a'r DU

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae 拢2.2m yn ychwanegol y flwyddyn wedi ei ymroddi, yn dilyn adolygiad, ar gyfer hosbisau yng Nghymru.

"Rydym yn gweithio gyda T欧 Hafan a hosbisau eraill i'w helpu i ddelio gyda'r argyfwng costau byw," dywedodd llefarydd.

"Ond mae angen i Lywodraeth y DU weithredu nawr i fynd i'r afael 芒 chostau ynni cyn y gaeaf."

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn ymwybodol o'r pwysau sy'n wynebu aelwydydd a chymunedau a bod "elusennau'n wynebu cynnydd yn y galw am ei gwasanaethau ochr yn ochr 芒 chostau cynyddol".

Gan bwysleisio "na all unrhyw lywodraeth genedlaethol reoli'r ffactorau byd-eang sy'n gwthio pris ynni i fyny" dywedodd llefarydd y bydd y llywodraeth "yn parhau i gefnogi'r byd busnes yn y misoedd i ddod".

Mae'r gefnogaeth hynny'n cynnwys lleihau cyfraniad Yswiriant Cenedlaethol y cyflogwr trwy gynyddu'r Lwfans Cyflogaeth a thorri'r dreth ar danwydd, cyflwyno Rhyddhad Ardrethi Busnes o 50%".