麻豆官网首页入口

Y Rhondda drwy lygaid Si么n Tomos Owen

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Cymoedd yn adnabyddus trwy Gymru a thu hwnt, ond fel mae un o'r trigolion yn ddangos gyda'r lluniau yma mae'n ardal sydd hefyd yn llawn corneli difyr llai cyfarwydd.

Dyma ddelweddau'r cyflwynydd, awdur, darlunydd a stor茂wr Si么n Tomos Owen o'i gynefin yn y Rhondda Fawr a'r cwm nesaf - Rhondda Fach.

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Drws a fu, RAFA: "Dwi'n hoff o weld olion hanes mewn ffyrdd gwahanol, dyma hen fynediad i'r 'lounge' yn y RAFA Club ar stryd fawr Treorci"

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Teras dros y cwm, Tylorstown: "Dyma lun sdim llawer yn gweld gan ei fod ar lwybr i ben domen lo Tylorstown neu 'Old Smokey' fel mae rhai yn ei alw. Mae'n 'neud i mi feddwl am weledigaeth rheini adeiladodd y tai 'ma dros ochrau serth y Rhondda Fach"

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Teras, Cwmparc: "Mae'r cymoedd yn llawn tai teras ar bob math o onglau i fyny'r tyle fel nadroedd o gerrig a morter ond mae'r gerddi cefn yr un mor ddiddorol"

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Am dro, Treorci: "Un o fy mhrif ysbrydoliaethau wrth gymryd lluniau o'r cwm yw'r lliwiau, y mynyddoedd a'r awyr mor llachar yn wrthgyferbyniad 芒 llwyd a brown cerrig y tai a'r hewlydd"

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Pwy sy'n d诺ad dros y bryn..., Treorci: "Enillodd Treorci Stryd Fawr Gorau Prydain yn 2019 ac mae'r ymdrech sy'n mynd i mewn i addurno'r ffenestri yn un o'r rhesymau rhoddodd y beirniaid. Adeg Nadolig mae 'na gystadleuaeth am ffenestr siop gorau. Dyma lun o'r beirniaid arbennig y flwyddyn ddiwethaf..."

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

O'r Maendy, Cwmparc: "Mae'r llun yma ar draws y cwm o ochrau mynydd Bwlch y Clawdd draw at fynydd Tyle Coch yn Americanaidd iawn yn ei liwiau a'r awyr las uwch ben, ond mae'r tai dal yn ei wreiddio yn y Cymoedd"

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Zinc, Ynyswen: "Wrth redeg drwy'r cwm dwi 'di dod i werthfawrogi bod cefn y strydoedd llawer fwy diddorol na'r blaen. Gerddi a gwlis sanctaidd. Dyma un o fy hoff gwlis yn yr haf ar hyd Afon Rhondda"

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Boyd a beunydd, Ely Valley Miners Welfare Club: "Noson lansio llyfr Boyd Clack yn Nghlwb Lles Glowyr Coed Ely oedd hwn, clwb traddodiadol sydd heb newid llawer ac roedd Boyd, mab yr ardal yn 'holding court' o'r bwrdd 'pool'"

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Twnel y Gwli, Treorci: "Mae yna nifer o gwlis yn y cwm ond mae gan Dreorci nifer o gwlis sydd yn mynd trwy'r strydoedd yn llythrennol, lle perffaith i osgoi'r glaw neu i fyfyrio am foment wrth grwydro"

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Menyw fach Cidweli Newydd, Treorci: "Gymres i hwn o'n merch hyna' ar fore Dydd G诺yl Dewi, 2021. Dwi'n dwli ar yr ystum c诺l hyderus sydd ganddi yn sefyll mewn gwisg draddodiadol gyda Docs a siaced pyffa mewn gwli"

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Neuadd Las, Tynewydd: "Dim ond yn 2019 darganfyddes y neuadd fach yma, wedi ei osod ychydig n么l o'r l么n fawr yn Tynewydd. Mae 'di cael ei adnewyddu erbyn hyn a'r coed 'di clirio felly dwi'n falch dalies i fe"

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Machlud a mwnci, Glyncolli: "Dyma'r cae gyferbyn a th欧 Mam a Dad, y cae chwaraeais arno pan o'n i'n blentyn ond nes i byth mwynhau machlud gymaint 芒'r un yma, roedd y mis Rhagfyr yma yn 2019 yn llawn lliwiau porffor a phinc"

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Si么n Tomos Owen ar hyn o bryd i'w weld ar raglen Cynefin ar S4C

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Protest, Tylorstown: "Dyma brotest tu fas i swyddfeydd cyngor Rhondda Cynon Taf yn erbyn cau A&E Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Yn y cefndir mae'r tirlithriad o'r domen lo digwyddodd ar 么l storm Dennis. Llai na mis wedyn byse miloedd yn diweddu lan yn yr ysbyty oherwydd Covid 19, byse miloedd mwy wedi marw os tasen nhw wedi ei gau"

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

'Down the Road ana 71', Treorci: "Mae gen i gyfres o luniau o'r enw 'Down the road ana' sef tafodiaith leol am fynd lawr y cwm, dwi'n hoff o osod y lluniau yma gyda chymesuredd Wes Anderson-esque"

Ffynhonnell y llun, Sion Tomos Owen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Gwallt, barf a harmonium, Treorci: "Dyma lansiad cyfrol y Stamp yn High Street Social yn 2018. Noson afiach tu fas ond hwyl a heulwen tu fewn. Ar y wal mae hen arwydd Corona - bellach 'Y Ffatri Bop' yn Porth"

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig