Yr olion tanddwr ddaeth i'r golwg yn sychder yr haf

Mae sychder yr haf wedi datgelu rhai o'r cyfrinachau sy'n cael eu cadw dan dd诺r ein cronfeydd a'n hafonydd gan gynnwys olion adeiladau, pentrefi a thirwedd sydd wedi bod dan yr wyneb ers degawdau.

Dyma gip yn 么l ar rai o'r llefydd ddaeth i'r golwg yn haf 2022.

Cronfa Llwyn Onn

Ffynhonnell y llun, CARL RECINE

Daeth yr hen bont a dolydd gwastad y dyffryn yma sydd fel arfer o dan y d诺r i'r golwg yng nghronfa Llwyn Onn yn Fforest Fawr, Bannau Brycheiniog fis Gorffennaf.

Mae'r gronfa yma yn dyddio n么l i'r 1920au pan ddechreuodd ddarparu d诺r i Gaerdydd.

Llyn Brianne

Disgrifiad o'r fideo, Ffermdy yn ymddangos yn Llyn Brianne ger Llanymddyfri oherwydd y sychder diweddar

Yn Llyn Brianne yn Sir Gaerfyrddin, daeth hen fferm y Fannog i'r golwg.

Mae wedi bod yn wag ers diwedd yr Ail Ryfel Byd ac fe aeth o dan y d诺r pan adeiladwyd cronfa dd诺r Brianne ar ddechrau'r 1970au i wasanaethu de Cymru.

Bob hyn a hyn mae'r fferm yn ail ymddangos, a'r adeilad erbyn hyn yn un o atyniadau dirgel Dyffryn Tywi.

Cwm Elan

Ffynhonnell y llun, CBHC

Disgrifiad o'r llun, 漏 Hawlfraint y goron: Comisiwn Brehinol Henebion Cymru (CBHC)

Mae gostyngiad lefelau d诺r cronfeydd Cwm Elan wedi amlygu si芒p y dyffryn a foddwyd i gronni d诺r i ateb galw trigolion Birmingham.

Cafodd chwech argae ei adeiladu yn y cwm ar afonydd Elan a Chlaerwen - agorwyd rhan gyntaf y datblygiad yn swyddogol yn 1904.

Ffynhonnell y llun, RC Survey

Disgrifiad o'r llun, 漏 Hawlfraint y goron: Comisiwn Brehinol Henebion Cymru (CBHC)

Symudwyd 100 o drigolion y cwm a chwalwyd tri phlasty, 18 o ffermydd, ysgol ac eglwys.

Ger cronfa Caban Coch fe wnaeth y sychder ddatgelu hen bont a gardd furiog.

Llyn Clywedog

Disgrifiad o'r fideo, Mae'r tywydd sych wedi galluogi i Aled Wyn Davies a'i blant ymweld 芒 hen ffermdy ei deulu

Ar lannau newydd-eu-datgelu Llyn Clywedog mae adfeilion Fferm Aberbiga ger Llanidloes wedi dod i'r fei - cartref genedigol tad y canwr Aled Wyn Davies.

Yn dilyn tywydd sych yn Awst a Medi, aeth Aled a'i deulu i ymweld 芒'r hen ffermdy a chofio am rai o'r straeon a basiwyd i lawr iddynt am yr hen gartref teuluol.

Ffynhonnell y llun, CBHC

Disgrifiad o'r llun, 漏 Hawlfraint y goron: Comisiwn Brehinol Henebion Cymru (CBHC)

Boddwyd ardal Clywedog yn 1967 er mwyn creu cronfa Llyn Clywedog i reoli llif afon Hafren a darparu d诺r yfed i bobl canolbarth Lloegr.

Tryweryn

Ffynhonnell y llun, Hefin Jones

Unwaith eto, daeth rhai o olion pentref Capel Celyn i'r golwg, gan ailgodi'r teimladau dwfn sy'n perthyn i amgylchiadau creu cronfa Tryweryn.

Disgrifiad o'r fideo, Olion Capel Celyn yn dod i'r golwg wedi'r sychder

Ffynhonnell y llun, Hefin Jones

Yn ogystal ag adeiladau mae olion hen gloddiau yn rhoi darlun o'r hen gymdeithas oedd yn byw ac amaethu yma cyn boddi'r cwm.

Cantref

Ffynhonnell y llun, Ben Birchall/PA

Ar 么l misoedd o lawiad isel a thywydd poeth fe sychodd afonydd ym Mannau Brycheiniog gan ostwng cronfa dd诺r Cantref i ddatgelu'r pridd cochlyd.

Cronfa a adeiladwyd ym Mannau Brycheiniog rhwng 1886 and 1892 i ddarparu d诺r i Gaerdydd yw Cantref.

Llyn Efyrnwy

Ffynhonnell y llun, CBHC

Disgrifiad o'r llun, 漏 Hawlfraint y goron: Comisiwn Brehinol Henebion Cymru (CBHC)

Yn Llyn Efyrnwy ym Mhowys daeth tir oedd unwaith yn dir ffermio i'r golwg yn ogystal 芒 hen ffyrdd pentref gwreiddiol Llanwddyn, a gafodd ei symud i lawr y cwm.

Cafodd y llyn ei greu yn 1892 oherwydd bod pobl Lerpwl angen cyflenwad cyson o dd诺r wrth i'r ddinas dyfu'n gyflym ddiwedd yr 19eg ganrif.

Llyncodd y gronfa dd诺r 1200 erw o dir oedd yn eiddo i Iarll Powys ac yn gartref i 37 o dai, 10 o ffermydd, eglwys, swyddfa bost, melin, dau gapel a thair tafarn.

Ffynhonnell y llun, Tudur Davies

Disgrifiad o'r llun, Mae lefel Afon Elwy yn y gogledd-ddwyrain wedi bod yn llawer is na'r arfer yn ddiweddar

Mae wedi bod yn un o'r hafau sychaf ar record, gyda Chyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan statws sychder i Gymru gyfan ddechrau Medi ar 么l cyhoeddi gwaharddiad ar bibellau d诺r yn ne Cymru am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd ym mis Awst.

Cafodd Cymru 56.7% o'i glawiad disgwyliedig yn y chwe mis rhwng Mawrth ac Awst - y trydydd cyfnod sychaf ers dechrau cadw cofnodion ym 1865.

Ffynhonnell y llun, Ben Birchall/PA

Disgrifiad o'r llun, Pridd coch sych Bannau Brycheiniog

Gyda diolch i am eu lluniau o'r awyr. Mae modd chwilio drwy eu catalogau ar wefan .