Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

I le mae gwylanod Y Bermo wedi mynd?

  • Cyhoeddwyd
Y Bermo

Môr, tywod a gwylanod - mae'r Bermo yn enwog am y rhain ac mae'r dref yn denu miloedd lawer o dwristiaid bob blwyddyn.

Ond yn ddiweddar mae yna rywbeth rhyfedd wedi digwydd yno - mae'r gwylanod wedi diflannu o'r rhan yma o arfordir Gwynedd.

Mae rhai yn amau mai ffliw adar sydd ar fai.

Mae cadwraethwyr yn dweud bod angen mwy o ymchwil a monitro achosion o ffliw adar mewn adar gwyllt er mwyn gweld a oes yna gysylltiad.

"Fel arfer mae cannoedd o wylanod yn clwydo ar wyneb chwarel uwchlaw'r dref ond rŵan does na'r un," meddai'r cynghorydd sir lleol Rob Triggs.

"Mae'r dref yn teimlo'n rhyfedd. Fe gawson ni ddiwrnod braf yn ddiweddar efo llawer o ymwelwyr yma. Pan roedden nhw'n gollwng chips doedd 'na ddim gwylanod i'w bwyta."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sglodion yn cael llonydd yn sgil diflaniad y gwylanod o'r Bermo

Un arall sydd wedi sylwi bod y gwylanod wedi diflannu ydi Rachel Bull, sy'n gweithio'n Nghaffi The Lunchbox yn Y Bermo.

"Dan ni heb gweld nhw am fis… dan ni'n byw i fyny yn yr Old Harbour… does 'na ddim o gwbwl. Dwi'm yn gwybod lle ma nhw wedi mynd.

"Maen nhw yn niwsans a maen nhw'n dwyn pethe... dyden nhw ddim yn neis rili.

Maen nhw'n ofnadwy o boen - yn enwedig os ti'n eistedd yn fanna yn cael brecwast maen nhw'n dwyn sosejis!'

Achosion annisgwyl o ffliw adar

Mae rhai pobl leol yn amau a oes yna gysylltiad rhwng diflaniad y gwylanod ac achos o ffliw adar gerllaw.

Yn ddiweddar hefyd mae pysgotwyr wedi gweld gwylanod marw ar y traethau, ond mae rhai eraill ar y gwefannau cymdeithasol yn meddwl bod y gwylanod wedi symud i rywle arall wrth i'r tymor twristiaeth ddechrau tawelu.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rachel Bull o gaffi The Lunchbox nad yw hi'n colli'r gwylanod gan ei bod "yn niwsans"

Mae'r Dr Rachel Taylor yn gweithio i'r British Trust for Ornithology a dywedodd os ydi gwylanod Y Bermo wedi dal ffliw adar y gallai fod wedi gallu dod o unrhyw le.

"Mae'n anodd gwybod beth sy'n digwydd efo gwylanod yn Y Bermo a mewn rhannau eraill o Gymru.

"Ond mi rydan ni wedi cael achosion mawr ac annisgwyl o ffliw adar mewn adar môr yn gyffredinol eleni.

"Does gan y DU a Chymru ddim system sy'n archwilio achosion o'r ffliw mewn adar gwyllt."

Parhau i ymateb i achosion ffliw adar

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry'n yn parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i arolygu ac ymateb i ffliw yn ein hadar gwyllt.

"Mae hyn yn cynnwys datblygu strategaeth lliniaru gyda DEFRA ar gyfer achosion mewn adar gwyllt.

"Ry'n hefyd yn cysylltu â llywodraethau eraill y DU er mwyn canfod beth yw'r sefyllfa yno ac yn rhyngwladol fel ein bod yn gallu rhannu yr arferion a'r cyngor gorau - gan ddysgu oddi wrth achosion diweddar yn Yr Alban a Lloegr."