麻豆官网首页入口

'Rhaid cau bylchau grymoedd trethu ail gartrefi'

  • Cyhoeddwyd
Protest ail dai Llanrwst

Mae cymunedau Cymraeg yn "gwegian yn arw" ac mae'n "greisis go iawn" i gadarnleoedd yr iaith, meddai ymgyrchwyr.

Dangosodd Cyfrifiad 2021 gwymp yn y nifer sy'n medru'r Gymraeg, er gwaethaf targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Daeth tua 200 o brotestwyr i Lanrwst brynhawn Sadwrn i alw am fesurau i ddelio efo'r farchnad dai.

Yn 么l Cymdeithas yr Iaith mae angen i gynghorau ddefnyddio'u grymoedd trethu i'r eithaf er mwyn mynd i'r afael ag ail gartrefi.

Maen nhw hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i "gau'r blychau" o ran trethi, ac am ddeddf eiddo ehangach.

Fe ddywedodd y llywodraeth eu bod yn cymryd camau brys a "radical" i sicrhau "hawl" pobl i fyw yn eu cymuned.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith

O fis Ebrill 2023 ymlaen, bydd awdurdodau lleol yn cael codi premiwm o hyd at 300% ar ail gartrefi a thai gwag.

Y mis hwn, mae Gwynedd - lle mae ail gartrefi gyfystyr 芒 thua 10% o'r stoc tai - wedi penderfynu codi'r premiwm yno i 150%.

Mae Sir Conwy yn bwriadu cyflwyno premiwm o 50% a allai gynyddu i 100% flwyddyn yn ddiweddarach.

Ond mae'r ymgyrchwyr eisiau i gynghorau wneud y mwyaf o'u grymoedd.

"Rhan o'r peth ydy codi premiwm," meddai Robat Idris, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, fu'n annerch y rali yn Llanrwst.

"'Dan ni'n gwybod fod 'na bwysau ar wahanol gynghorau ond y gwir amdani ydy hyn - mi ddylen nhw fod yn cynrychioli ac edrych yn gyntaf ar y bobl sy'n eu hethol nhw, yn byw yn yr ardal, yn enwedig y rheiny sydd un ai heb gartref, yn cael trafferth cael to uwch eu pennau, neu sy'n gorfod symud allan oherwydd diffyg gwaith ac yn y blaen.

"Dyna pam fod y Gymdeithas nid yn unig yn galw am godi'r premiwm gymaint 芒 sydd bosib ond hefyd am gau'r bylchau i bobl osgoi talu'r dreth yma, a galw ymhellach am dreth eiddo sy'n edrych ar y broblem yn ei chrynswth."

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith

Ychwanegodd mai "dim ond rhan o'r broblem tai ydy ail gartrefi, AirBnb ac yn y blaen" ond bod hon yn "broblem yn ddwys iawn, iawn" mewn rhai ardaloedd.

"Mae'r cadarnleoedd yn gwegian yn arw erbyn r诺an", meddai, gan ddweud bod cymunedau'n talu am "fethiannau'r gorffennol" o ran polisi yn ogystal 芒'r argyfwng costau byw.

"Mae hwn yn greisis go iawn i'n cymunedau ac os ydan ni'n edrych i gynyddu i filiwn o siaradwyr mae'n rhaid i'r rhan sydd gynnon ni'n barod gael eu hatgyfnerthu fel bod y Gymraeg yn gallu ymestyn yn bellach drwy Gymru gyfan."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "credu bod gan bawb yr hawl i brynu neu rentu t欧 fforddiadwy, safonol yn eu cymunedau fel eu bod yn gallu byw a gweithio'n lleol."

Ychwanegodd eu bod yn cymryd camau "radical" ac yn defnyddio'r "systemau cynllunio, eiddo a threthu i wireddu hyn, gyda'r cynnydd yn yr uchafswm premiwm treth cyngor mae cynghorau'n cael eu codi yn un rhan o becyn cynhwysfawr".