Dafydd Iwan: 'Mwy o ysgolion Cymraeg' i achub yr iaith

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Dafydd Iwan na ddylai pobl "anobeithio" am sefyllfa'r Gymraeg er gwaethaf ffigyrau'r Cyfrifiad

Mae'r canwr ac ymgyrchydd iaith, Dafydd Iwan, wedi galw am sefydlu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad.

Wrth annerch tua 250 o bobl mewn rali yng Nghaerfyrddin, dywedodd ei fod yn obeithiol am ddyfodol yr iaith er gwaethaf yr ystadegau diweddaraf.

Daw hynny wedi i ffigyrau'r Cyfrifiad diweddaraf ddangos cwymp yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, o 19% i 17.8%.

Roedd y cwymp ar ei fwyaf yn Sir Gaerfyrddin, ble disgynodd o 4%, a dim ond 39.9% o'i thrigolion sy'n dweud eu bod yn medru siarad Cymraeg bellach.

Disgrifiad o'r fideo, Dafydd Iwan yn "obeithiol" am ddyfodol y Gymraeg

'Dylen ni fyth anobeithio'

Yn 么l Cyfrifiad 2011, roedd 40% o ardaloedd LSOA yn Sir Gaerfyrddin yn rhai ble roedd dros hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg.

Ond bellach mae llai nag un o bob pedwar o'r ardaloedd hynny - sydd gyda rhwng 1,000 a 2,500 o drigolion - yn rhai ble mae'r mwyafrif yn siarad yr iaith.

Fe wnaeth y ffigyrau hefyd awgrymu bod proffil siaradwyr Cymraeg yn Sir G芒r yn h欧n na bron pob un o siroedd eraill Cymru, gyda chanran y siaradwyr ar ei uchaf ymhlith y rheiny dros 80 oed.

Yn y rali ddydd Sadwrn, gafodd ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith, dywedodd Dafydd Iwan bod lle i fod yn obeithiol yn ogystal 芒 phryderus am y ffigyrau.

Disgrifiad o'r llun, Roedd tua 250 o bobl yn bresennol yn y rali a ddechreuodd y tu allan i Neuadd y Sir

"Mae'r iaith Gymraeg yn fyw ond mae yna bethau sydd angen eu newid," meddai.

"Er fy mod i yn obeithiol am ddyfodol yr iaith, mae angen mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mae'r awdurdodau lleol yn llusgo eu traed.

"Nid un ateb syml sydd yna i broblem yr iaith. Yn y pendraw, os nag oes ysgolion sydd yn dysgu Cymraeg a hanes Cymru i'n plant ni, does dim llawer o ddyfodol i ni."

Ychwanegodd na ddylai pobl "anobeithio", fodd bynnag.

"Mae arwyddion clir fod yr ymgyrchu dros y 60 mlynedd diwethaf wedi creu chwyldro yng Nghymru, ac y mae'n bwysig ein bod yn dathlu hynny.

"Mae'r frwydr i ennill meddyliau a chalonnau'r Cymry, yn enwedig yr ifanc, yn parhau, ac yn y frwydr y mae'n gobaith. Ni ddaw byth i ben."

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth ymgyrchwyr lynu saith o ofynion ar ffenest swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y dref

Saith o ofynion

Fe ddechreuodd y rali ger Neuadd y Sir yng nghanol Caerfyrddin, cyn gorymdeithio draw at swyddfa Llywodraeth Cymru ar Deras Picton.

Ac fe ddefnyddiodd Cymdeithas yr Iaith y cyfle i ategu rhai o'u galwadau cyfarwydd i'r llywodraeth, gan gynnwys gweithredu ym maes addysg, swyddi, tai a chefn gwlad er mwyn sicrhau tegwch a ffyniant i gymunedau Cymraeg.

"Os na lwyddwn i droi'r llanw yn awr, mae'n annhebygol y bydd unrhyw gymunedau naturiol Gymraeg ar 么l yn Sir G芒r erbyn y Cyfrifiad nesaf," rhybuddiodd Sioned Elin o'r mudiad.

"Ond yn sicr dydy hi ddim yn amser i anobeithio, mae'n amser i weithredu.

"Byddwn ni'n mynd 芒 saith o alwadau ar Lywodraeth Cymru fel sail i Raglen Argyfwng o gamau gweithredol i adfywio'n hiaith a'n cymunedau Cymraeg."

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth canran y siaradwyr Cymraeg yn Sir G芒r ostwng o 6.1% rhwng 2001 a 2011, cyn disgyn 4% yn rhagor erbyn y llynedd

Wrth ymateb i sylwadau Mr Iwan dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gan ysgolion Cymraeg ym mhob rhan o Gymru "rhan allweddol" i'w chwarae wrth geisio cyrraedd eu targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Ychwanegodd bod bwriad i agor 23 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn y degawd nesaf, wrth i siroedd ar draws y wlad ehangu darpariaeth addysg Gymraeg.

Mewn ymateb i ofynion Cymdeithas yr Iaith, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn credu bod gan bawb hawl i gartref gweddus a fforddiadwy, boed hynny i'w brynu neu i'w rentu, o fewn eu cymuned fel eu bod yn gallu byw a gweithio'n lleol.

聽"Rydym yn cymryd camau radical gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant i gyflawni hyn, gyda'r cynnydd yn uchafswm y premiymau treth gyngor y gall cynghorau ei godi fel un rhan yn unig o becyn atebion cydgysylltiedig."