麻豆官网首页入口

Bod yn 'real' ar y cyfryngau cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd
Emily Nicole RobertsFfynhonnell y llun, Emily Nicole Roberts
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Emily Nicole Roberts

"Jest gwneud fi". Dyna sut mae Emily Nicole Roberts o Bontarddulais yn byw ei bywyd. Dyna hefyd neges fawr ei drama newydd, The i-Word ar 麻豆官网首页入口iPlayer.

Mae'r rhaglen gomedi sydd wedi ei chreu gan Emily a Jake Sawyers o Bort Talbot yn edrych ar fyd y cyfryngau cymdeithasol o safbwynt dau sydd ag anableddau.

Fel un sy'n byw gyda pharlys ar yr ymennydd ac yn defnyddio cadair olwyn, un o'i gobeithion wrth ysgrifennu a serennu yn The i-Word oedd creu rhaglen gomedi sy'n dangos i'r byd beth mae hi, fel rhywun sy'n byw gydag anabledd, yn gallu ei wneud.

'Fi'n gallu gwneud popeth'

Dyna'r ysbrydoliaeth tu 么l i'w sianel YouTube hefyd sy'n denu dros 1.52k o ddilynwyr.

Eglura Emily: "Pan o'n i'n ifanc, doedd dim byd ar y teledu nac arlein ar gael i'w wylio am fyw bywyd normal gyda fy anabledd so mae'n bwysig iawn i fi fy mod i'n creu fideos arlein am bethau bob dydd, gyrru neu fynd i'r gwaith. Fi eisiau dangos bo' fi'n gallu gwneud popeth - a mae pobl yn gallu gwneud popeth. Os i fi'n gallu 'neud e, gall unrhyw un!

Disgrifiad,

Emily yn sgwrsio gyda Aled Hughes ar Radio Cymru

'Dwli ar gomedi'

Pan ddaeth y cyfle i Emily gyd-sgwennu The i-Word gyda Jake Sawyers doedd Emily heb gyfarfod Jake, ond daeth y ddau i ddeall ei gilydd yn syth.

"Crazy story - wnes i gwrdd 芒 Jake yn gyntaf ar ddiwrnod un o ffilmio ond roedden ni'n teimlo fel ffrindiau ar 么l i ni gyd-sgwennu gyda'n gilydd dros Zoom yn ystod Covid.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Emily Nicole Roberts a Jake Sawyers yn The i-Word

"Roedd cael y cyfle i sgwennu i deledu yn hollol crazy. Ro'n i eisiau creu The i-Word i siarad am bobl fel fi gydag anabledd - dwi ddim yn gallu cerdded. Roedd Jake eisiau siarad am ei fywyd e' fel person dall. Ond peth arall pwysig iawn i ni'n dau yw gwneud i bobl chwerthin. Ni'n dream team achos dwi'n dwli ar comedi, mae Jake yn dwli ar comedi a oedden ni'n meddwl ei fod yn bwysig iawn i siarad am ein profiadau bywyd trwy fod yn ddoniol gyda'n gilydd.

'Gwneud hwyl am ben influencers'

Yn ganolog i stori'r cymeriadau Ella (cymeriad Emily) a Sam (cymeriad) Jake yn The i-Word, mae perthynas y ddau gyda'r cyfryngau cymdeithasol a'u gobeithion i fod yn ddylanwadwyr cymdeithasol llwyddiannus.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Emily Nicole Roberts a Jake Sawyers yn The i-Word

Ond gwneud hwyl am ben effaith a darlun perffaith y cyfryngau cymdeithasol maen nhw yn y b么n.

"Yn The i-Word mae Ella a Sam yn social media influencers sydd ar top eu g锚m, yn siarad am fod ag anableddau a sut ry'n ni yn byw bywyd a ry'n ni'n toi yn ychydig o arwyr.

"Mae social media yn ddoniol achos dwi'n gallu dangos llawer am fy anabledd fel mae Ella a Sam yn ei wneud ond mae hefyd yn ddoniol achos beth dyw e ddim yn dangos. Mae'n bwysig iawn i fod ar y cyfryngau cymdeithasol ond mae e'n bwysig i neud e yn real, yn fi. Dim Kim Kardashian, jest fi."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig