Gwynedd: Cais o'r newydd i droi tafarn yn unedau gwyliau

Disgrifiad o'r llun, Mae ymdrechion yn lleol i gadw'r dafarn fel menter gymunedol

Mae cais o'r newydd wedi ei gyflwyno i droi tafarn wledig yng Ngwynedd yn llety gwyliau.

Fis Ionawr fe wrthodwyd cais gan Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd i droi'r Vaynol Arms ym Mhentir ger Bangor yn ddwy uned wyliau.

Daeth y gwrthodiad yn sgil pryderon nad oedd digon o dystiolaeth wedi'i gyflwyno nad yw'r busnes yn hyfyw.

Ond er ymdrechion yn lleol i gadw'r dafarn fel menter gymunedol, bwriad y perchennog yw parhau gyda'i gynlluniau.

'Ni dderbyniwyd unrhyw gynigion'

Mae'r dafarn yn dyddio'n 么l i ganol y 18fed ganrif ac roedd yn rhan o Stad y Faenol ar un adeg, wedi'i leoli yng nghanol pentref Pentir.

Yn 么l Duncan Gilroy, perchennog y dafarn, roedd y Vaynol Arms wedi cael ei gynnig i'r gymuned leol ar brydles.

Dywedodd fod y cynnig yn un "sylweddol well" na phrydles y cyn-berchennog, Robinsons, gyda'u tenant, ond nad oedd unrhyw gynnig wedi'i dderbyn.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Roedd y perchennog Duncan Gilroy wedi dweud fod misoedd wedi mynd heibio heb iddo glywed gan y fenter gymunedol

Mae'r dogfennau cynllunio yn nodi fod Gr诺p Gweithredu Pentir wedi cael "cyfle i gyflwyno cynnig i ail-agor y safle fel menter gymunedol neu hyd yn oed i brynu'r uned, ond ni dderbyniwyd unrhyw gynigion, ffurfiol nac anffurfiol".

Gan ychwanegu fod "ffyniant y dafarn wedi dirywio dros y blynyddoedd", cyfeiriwyd at "y gostyngiad mewn ymweliadau cyffredinol 芒 thafarnau a throsiant, mwy o gystadleuaeth gan dafarndai, gwestai a bwytai mwy canolog newydd a phresennol, newidiadau mewn arferion cymdeithasol, costau uwch a diffyg ail-fuddsoddi yn yr eiddo".

O ganlyniad, maen nhw'n gobeithio trosi llawr gwaelod yr adeilad i mewn i ddwy uned wyliau.

'Calon y gymuned'

Ond yn 么l Gr诺p Gweithredu Pentref Pentir, mae eu hymgyrch i achub y dafarn yn parhau.

Dywedodd Harry Hambleton wrth y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol: "Rydym yn siomedig iawn i orfod mynd drwy'r broses gyfan eto.

"Nid ydynt fel pe baent yn ymwybodol o ddyfnder y teimlad yn y pentref am y dafarn.

"Cafodd ei ddefnyddio nid yn unig yn hanesyddol gan bentrefwyr Pentir ond hefyd gan gymunedau cyfagos fel Rhiwlas. Does 'na ddim rheswm pam na all fod yn hyfyw eto."

Disgrifiad o'r llun, Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais cynllunio i drosi'r Vaynol Arms i lety gwyliau

Ychwanegodd: "Mae wedi bod yn dafarn ers y 1700au. Roedd yn galon y gymuned am flynyddoedd nes iddi gau cwpl o flynyddoedd yn 么l. Rydym wedi bod yn ymladd i'w hachub byth ers hynny.

"Rydym yn sefydliad dielw ac am ddefnyddio arian y llywodraeth a'r loteri i'w droi'n ased i bobl leol.

"Rydym am iddo fod yn dafarn hwb cymunedol, gyda swyddfa bost a chaffi. Byddai'n bwynt canolog i bobl leol gyfarfod a byddai'n rhoi arian yn 么l i'r gymuned leol.

"Rydym wedi ceisio trafod prydlesu'r eiddo, ond roedd yn ormod. Yn ddelfrydol fysan ni'n hoff prynu'r eiddo."

Mae disgwyl i Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd drafod y cais dros y misoedd nesaf.