麻豆官网首页入口

Oedi trafod pentref gwyliau wedi 'ansicrwydd cyfreithiol'

  • Cyhoeddwyd
Ymgyrchwyr Achub Penrhos
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd ymgyrchwyr yn erbyn y cynllun yn siambr y cyngor brynhawn Mercher

Mae cynghorwyr wedi pleidleisio i ohirio trafodaeth ar ddatblygiad gwyliau ym M么n.

Daeth penderfyniad pwyllgor cynllunio'r cyngor er gwaethaf argymhelliad swyddogion i ganiat谩u elfennau o'r cais dadleuol, sydd wedi rhygnu ymlaen ers dros ddegawd.

Yn 2016 sicrhaodd cwmni Land and Lakes ganiat芒d i godi 500 o fythynnod gwyliau ar ran o safle Penrhos ger Caergybi.

Roedd y cais wedi ennill caniat芒d amlinellol yn 2013 yn dilyn cyfarfod tanbaid o bwyllgor cynllunio'r cyngor, gydag ymgyrchwyr o blaid ac yn erbyn.

Mae'r cynlluniau, yn eu cyfanrwydd, yn cynnwys codi 1,100 o fythynnod a thai aros ar draws tri safle ar gyrion y dref.

Llythyr twrneiod

Ond saith mlynedd ers sicrhau caniat芒d cynllunio mae rhai elfennau o'r cais yn parhau i fod angen eu cymeradwyo cyn y gall unrhyw ddatblygiad o bwys ddechrau yno.

Brynhawn Mercher, yn dilyn oedi o dri mis, roedd disgwyl i Bwyllgor Cynllunio Cyngor M么n gymeradwyo hynny.

Ond yn hytrach, pleidleisiodd cynghorwyr o blaid oedi am fis arall, gyda rhai yn dweud fod "ansicrwydd" yn parhau yngl欧n 芒'r sefyllfa gyfreithiol.

Fis Ionawr roedd disgwyl i gynghorwyr wneud penderfyniad ar dri chais i ryddhau 'amodau' fel rhan o'r cytundeb 106 - sef amodau sy'n cael eu cyd-drafod rhwng datblygwyr a'r cyngor sir.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r safle yn ymestyn dros 200 acer, ond dywedodd y cwmni y bydd 73 o aceri yn parhau i fod ar gael i'r cyhoedd fwynhau

Roedd y ceisiadau'n ymwneud 芒 chyflwyno Cynllun Gr诺p Cyswllt Cymunedol a Chynllun Tir Mynediad Cyhoeddus, yn ogystal 芒 gofyn i'r datblygwyr gyfrannu at yr ardal leol, gan gynnwys ystyriaeth o'r iaith Gymraeg.

Ond yn 么l twrneiod ar ran y gr诺p Achub Parc Arfordirol Penrhos Caergybi, roedd y datblygwr wedi "methu 芒 chyflawni rhai o ofynion y caniat芒d" ac heb gychwyn y gwaith angenrheidiol.

Gan honni, o ganlyniad, nad ydy caniat芒d 2016 bellach yn gyfredol, dywedon nhw mewn llythyr at yr awdurdod y dylai'r cwmni orfod cyflwyno cais o'r newydd.

Ar gais swyddogion y cyngor fe ohiriwyd penderfyniad ar y tri chais er mwyn cael cyngor cyfreithiol.

Yn ystod cyfarfod brynhawn Mercher, barn swyddogion cynllunio oedd fod y caniat芒d gwreiddiol yn ddilys ac y dylid ystyried y ceisiadau, gydag argymhelliad i ganiat谩u'r cyfan.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 2016 sicrhaodd cwmni Land and Lakes ganiat芒d i godi 500 o fythynnod gwyliau ar ran o safle Penrhos ger Caergybi

Wedi derbyn cyngor cyfreithiol eu hunain, dywedodd swyddogion bod rhywfaint o waith wedi'i wneud, a'r cyngor oedd ei fod yn ddigon i fodloni'r terfyn amser hwnnw o bum mlynedd.

Ond yn ystod y cyfarfod dywedodd un o gynghorwyr Caergybi, Jeff Evans, na fyddai'n cymryd rhan yn y drafodaeth nac yn pleidleisio gan nad oedd yn credu fod y ddadl gyfreithiol wedi ei hateb yn llawn.

Gan ddadlau fod "ansicrwydd cyfreithiol" yn parhau i fod, cefnogwyd ei gynnig i ohirio unrhyw drafodaeth am fis arall gan fwyafrif o aelodau'r pwyllgor.

Roedd hyn er gwaethaf sylwadau cyfreithiwr y cyngor nad oes disgwyl i oedi pellach ddod 芒 dwy ochr y ddadl ynghyd.

Fe gyhoeddwyd, o ganlyniad, bydd "sesiwn friffio" i gynghorwyr yn cael ei gynnal yn ystod y mis.

Teimladau cryfion

Mae'r cais i godi unedau gwyliau yn rhygnu ymlaen ers 2012, ond yn 么l cwmni Land and Lakes byddai'r datblygiad gorffenedig yn denu bron i 500 o swyddi i'r ardal.

Ond hyd yn oed os caniateir y ceisiadau diweddaraf, bydd yn rhaid cymeradwyo ceisiadau pellach - yn cynnwys manylion y cabannau a'r ffyrdd, yn ogystal ag asesiadau ecolegol ac amgylcheddol - cyn gallu dechrau'r gwaith adeiladu.

Mae'r safle yn ymestyn dros 200 acer, ond dywedodd y cwmni y bydd 73 o aceri yn parhau i fod ar gael i'r cyhoedd fwynhau.

Maen nhw hefyd yn addo canolfan ymwelwyr newydd yn Nh欧 Beddmanarch, gyda 38 hectar o dir agored cyhoeddus newydd yn cael ei greu yng Ngwarchodfa Natur Cae Glas, ynghyd 芒 chanolfan ymwelwyr a maes parcio newydd i liniaru yn erbyn colli man agored cyhoeddus ym Mhenrhos.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l sefydliad y Woodland Trust, mae'r parc yn denu rhyw 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn gyda chyfoeth o goed, anifeiliaid a blodau yn tyfu yno

Mae ymgyrchwyr yn mynnu na ddylai unrhyw waith fwrw 'mlaen ym Mhenrhos gan ei fod yn lle poblogaidd i bobl ymweld, ac yn gartref i nifer o rywogaethau gan gynnwys y wiwer goch.

Yn siarad y llynedd dywedodd Vaughan Williams, cynghorydd tref yng Nghaergybi, na ddylai swyddi gael eu blaenoriaethu ar draul ardal o'r fath.

Ychwanegodd: "Mae'r lle mor bwysig i ni yng Nghaergybi am sawl rheswm.

"'Sa'r syniad o ddymchwel y lle yn wrthyn i mi. Mae pawb o blaid swyddi ond nid cael gwared ar le fel hyn ydy'r ateb chwaith."

Ychwanegodd Glyn Jones, sy'n byw yn lleol: "Fyddwn i'n arfer dod yma'n rheolaidd gyda fy niweddar wraig, a fydda i'n dal i ddod yma yn rheolaidd ac eistedd yma i gael heddwch meddwl.

"Mae'n lle mor braf, os 'dach chi ar ben eich hun neu mewn giang, mae'n le mor hyfryd, ac i'r cwbl gael ei chwalu o bosib!"

'Wedi'i ddatrys o fewn wythnosau'

Mewn datganiad dywedodd cwmni Land and Lakes fod "dechrau effeithiol i'r datblygiad wedi cymryd lle yn 2021, sy'n golygu bod y caniat芒d cynllunio ar gyfer y safle bellach yn ei le am byth".

Ychwanegodd llefarydd: "Dyma farn ein t卯m cyfreithiol o hyd, ac mae'n gyson 芒'r cyngor y mae Cyngor M么n wedi'i dderbyn gan ei gynghorwyr cyfreithiol ei hun.

"Rydym yn hyderus y bydd y gohiriad presennol o faterion gweithredol, nad ydynt yn gysylltiedig, yn cael ei ddatrys o fewn nifer o wythnosau.

"O ran Penrhos yn benodol, cynaladwyedd yr yst芒d fu ein blaenoriaeth erioed. Mae Land & Lakes yn ariannu'r gwaith o reoli, yswiriant a chynnal a chadw Stad Penrhos, sy'n costio tua 拢200,000 y flwyddyn.

"Mae hyn yn cynnwys cynnal mynediad cyhoeddus i goetiroedd yr yst芒d, llwybrau, toiledau, dolydd, a chynefinoedd naturiol, a reolir gan ein t卯m wardeniaid ar y safle."

Pynciau cysylltiedig