Anhwylder deubegynol: 'Hi yw bywyd y parti'

Ffynhonnell y llun, Ceri Ashe

"O'r diwedd dwi 'di ffeindio gair sy'n symio fi i'r dim. Dyma fi. Rhan ohona i. Fi a fi'n caru fe. I get stuff done, so much stuff, dwi fel machine, wel ma' Stephen Fry yn bipolar, a mae fe'n fine 'da fe."

Dyma ddarn allan o monolog agoriadol sioe y dramodydd Ceri Ashe, Bipolar Fi, sy'n seiliedig ar ei bywyd a'i deiagnosis gyda anhwylder deubegynol, neu bipolar yn y Saesneg.

Mae Ceri'n dod o Maenclochog ond yn byw yn Wdig ar ôl symud nôl i Sir Benfro yn 2022 ar ôl 12 mlynedd yn Llundain.

Mewn darn arbennig i Cymru Fyw, mae Ceri'n esbonio sut beth yw byw gydag anhwylder deubegynol:

Bipolar yw newidiadau eithafol mewn hwyliau. Mae yna dri math o bipolar - bipolar teip 1 (mwyaf eithafol), bipolar teip 2 (llai eithafol), a cyclothymia (y lleiaf eithafol). Mae gen i bipolar teip 2. Mae hynny'n meddwl fy mod yn dioddef o iselder a hypomania.

Mae hypomania yn gyfnodau o ymddygiad gorweithgar ac egni uchel a all gael effaith sylweddol ar eich bywyd o ddydd i ddydd. Mae hypomania yn fersiwn ysgafnach o mania sydd fel arfer yn para am gyfnod byrrach.

'Superpower'

Pan dwi'n hypomanic dydw i ddim yn cysgu llawer. Mae fy meddyliau yn rasio, ac dwi'n cael llawer o syniadau creadigol. Mae hypomania fel superpower fi!

Pan dwi'n rhoi fy meddwl i ar rywbeth does dim byd yn gallu stopio fi... Fel bwcio theatr yn Llundain ar gyfer sioe nad oeddwn wedi ysgrifennu eto!

Yn 2019 fe wnes i sgwennu ddrama gyfan, Bipolar Me, mewn dim ond tri mis, a rhoi fe ymlaen am wythnos yn yr Etcetera Theatre yn Llundain. Fe wnaeth y sioe werthu allan a chael adolygiadau pedair seren yn y wasg.

Haf diwethaf wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol gomisiynu y sioe yn yr iaith Gymraeg ac fe wnes i gyfieithu fe i greu Bipolar Fi.

Ond mae hypomania yn gallu cael effaith negyddol ar fy mywyd hefyd, fel gwario llawer o arian, neu gwneud penderfyniadau sydyn heb feddwl am y canlyniad.

Er enghraifft, unwaith yng nghanol nos fe wnes i bwcio tocyn awyren un ffordd i Colombia a gadael yr wythnos wedyn. Neu mynd i Awstralia am dair wythnos a dod nôl tri mis yn hwyrach!

Ffynhonnell y llun, Ceri Ashe

"Hi yw bywyd y parti"... "Mae hi'n bersonoliaeth fawr."

Dyma beth fydd pobl yn aml yn dweud amdanaf i. Dwi'n berson hapus, hyderus a llawn egni. Dwi'n gweithio fel actor a dramodydd ac yn teimlo'n gartrefol iawn ar y llwyfan.

Ond nid yw pobl yn gweld yr ochr arall - pan mae'r iselder yn bwrw. Dyddiau yn cysgu yn y gwely yn teimlo'n anobeithiol. Dyddiau lle dydw i ddim yn gweld y pwynt mewn cario ymlaen efo bywyd fi.

Mae tua 800 o pobl efo bipolar yn cymryd eu bywydau bob blwyddyn. Dwi'n dioddef o intrusive suicidal thoughts a mae hynny'n gallu bod yn ofnus iawn.

Fel dwi'n dweud yn y sioe: "Y peth mae llawer o pobl ddim yn deall yw - ti ddim ishe marw, dim rili, ti just moyn y poen i fynd i fwrdd."

Pan mae'r iselder yn bwrw dwi'n teimlo fel baich i bawb a byddai eu bywydau yn well hebdda'i.

Dwi'n colli diddordeb yn y pethau dwi'n hoffi, ac yn stopio gweld teulu a ffrindiau fi. Mae'r cyfnodau o iselder yn gallu para am wythnosau. Yna un diwrnod mae e fel bod yr haul yn dod allan eto, ac mae'r cymylau du yn fy mhen yn diflannu a dwi'n teimlo fel fi eto.

Disgrifiad o'r llun, Mae drama Ceri Ashe wedi'i seilio ar ei phrofiad hi o'r anhwylder deubegynol

I fi, mae perfformio a sgwennu yn ran gynhenid o fy hunaniaeth, ac yn rhan fawr o sut dwi'n rheoli'r cyflwr hwn. Pan dwi'n creu stori newydd, neu yn sefyll ar lwyfan mae'r meddyliau tywyll neu'r chaos yn diflannu a dwi'n teimlo heddwch.

Meddyginiaeth

Dw i hefyd yn cymryd meddyginiaeth a dwi'n falch i ddweud fy mod wedi bod mewn lle stable iawn am ddwy flynedd nawr. Hefyd bob bore dwi'n tracio faint o orie dwi wedi cysgu ac unrhyw newidiadau mewn hwyliau.

Oherwydd i mi ddod i adnabod fy triggers dwi'n gallu gwneud pethau i helpu fy hwyliau, er enghraifft mynd allan i gerdded ar bwys y môr os dwi'n teimlo'n drist, neu peidio ag yfed alcohol neu coffi os dwi'n teimlo'n hapus ac egnïol iawn.

Mae'n bosib byw bywyd llawn a 'normal' gyda'r cyflwr yma… ond pwy sydd ishe bod yn 'normal' ta beth!

Mae sioe Ceri, Bipolar Fi yn Theatr Gwaun ar ddydd Gwener 21 Ebrill am 7:30pm a dydd Sadwrn 22 Ebrill am 2pm.