麻豆官网首页入口

Harri Morgan: 'Mor bwysig siarad am iechyd meddwl'

  • Cyhoeddwyd
Harri Morgan
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Harri Morgan: 'Mae pawb yn delio 'da rhywbeth yn eu bywydau nhw - peidiwch meddwl bo chi ar ben eich hun'

Rhybudd: Mae'r erthygl yma'n trafod materion a allai beri gofid i rai

"Mae hi mor bwysig siarad am iechyd meddwl," medd mewnwr y Gweilch, Harri Morgan, a gyhoeddodd ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon ei fod yn cymryd seibiant o'r byd rygbi ar 么l ceisio lladd ei hun ym mis Chwefror.

"Dwi wedi bod mewn lle tywyll iawn," meddai'r chwaraewr 23 oed wrth siarad 芒 麻豆官网首页入口 Cymru brynhawn Gwener ond "nawr dwi mewn gwell lle a dwi wedi cymryd y camau positif i fod 'ma ac i wneud newid".

"Nes i golli fy nain a taid pan o'n i'n ifanc - tua pum i chwe blynedd yn 么l ac wedyn 'nes i gael llawer o anafiadau trwy chwarae rygbi," ychwanegodd.

"Ro'n i wedi ffindio fod rygbi yn tool i gael yr escape o'r teimladau yn fy mhen ond pan o'dd hwnna wedi cael ei gymryd mas gyda'r anafiadau - roedd popeth jyst wedi tyfu lan yn fy mhen a doedd dim lle iddyn nhw fynd.

"O'dd massive bwlch [ar 么l colli'r rygbi] - fi wedi ffindio fe'n anodd i chwilio am rywbeth i lenwi'r bwlch.

"Ro'dd e'n galed iawn - o'n i ddim yn gwybod be' i 'neud. O'dd e'n neverending circle. Ro'dd popeth jyst wedi mynd dros fy mhen i ac o'n i ddim yn gallu delio gyda popeth."

Dywedodd bod ei deulu wedi bod o gymorth mawr iddo a'u bod yn ymwybodol am flynyddoedd bod rhywbeth yn bod ond mae nhw'n dweud bellach "fy mod yn new man ac maen nhw'n prowd iawn o'r newidiadau positif fi wedi cymryd ar gyfer step nesaf fy mywyd".

'Modd codi o le tywyll'

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio bod rhannu ei brofiad o gymorth i eraill a'i fod am i bobl wybod bod modd gwella a chodi o le tywyll.

Wrth gaei ei holi a oedd hi'n anodd rhannu'r newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol atebodd: "O'dd e'n un o'r opsiynau mwyaf anodd fi erioed wedi'i wneud ond dwi'n falch bo fi wedi 'neud e.

"Dwi wedi cael reception gwych gan bawb sydd wedi darllen y stori ac ie dwi'n falch bo fi wedi gallu 'neud e a gobeithio bydd e'n helpu pawb arall.

"Mae wedi synnu fi bod cymaint yn dioddef. Mae sawl un wedi rhannu negeseuon 'da fi - ond mae 'na bethau ni'n gallu 'neud i helpu'r sefyllfa - dwi am i bobl wybod hynna.

"Ni ddim angen mynd i'r opsiwn olaf - mae 'na bethau ni'n gallu rhoi mewn lle cyn hynny.

"Yr hyn dwi eisiau ei wneud yw bod yn influence postif ar bobl eraill - helpu eraill."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Harri Morgan wedi gwneud 10 o ymddangosiadau i'r Gweilch ers ei g锚m gyntaf i'r t卯m yn 2018

O ran y dyfodol dywedodd Harri Morgan mai ei obaith yw creu busnes ei hun a fydd yn datblygu ac yn helpu ffitrwydd pobl.

"Fi'n gwybod y positive impact mae fitness a chadw'n actif yn ei gael ar eich iechyd meddwl hefyd," meddai.

"Ers yn oed ifanc ro'n i eisiau chwarae rygbi, ac mae cael swydd mewn rygbi am y chwe blynedd diwethaf wedi bod yn freuddwyd ond rhaid iddo ddod i stop ar ryw bwynt.

"Ar hyn o bryd mae fy iechyd i yn bwysicach na chwarae rygbi. Mewn rhai misoedd efallai byddai n么l eto - dwi ddim am ddweud hwyl fawr i rygbi am byth.

"Dwi eisiau chwarae eto ond pan mae'r amser yn reit i fi ond ar hyn o bryd dwi'n rhoi fi yn gyntaf."

'Chi ddim ar ben eich hun'

Yn ystod y cyfweliad dywedodd droeon pa mor bwysig yw siarad.

"Fy neges i bobl sy'n teimlo fel o'n i yw jyst i siarad - mae'n bwysig rhannu problemau. Dwi wir yn credu hynny.

"Mae'n bwysig agor lan a siarad 芒 phobl. Dwi eisiau rhoi'r neges 'na mas 'na - peidiwch 芒 bod ofn siarad 芒 rhywun a dweud bo chi'n stryglo.

"Mae pawb yn mynd drwy gyfnod anodd ar brydiau. Mae'n normal i deimlo fel hyn - mae jyst angen siarad.

"Nawr dwi'n gweld bod mwy i fywyd na theimlo fel yr o'n i [ddechrau'r flwyddyn].

"Mae pawb yn delio 'da rhywbeth yn eu bywydau nhw - peidiwch meddwl bo chi ar ben eich hun."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefanAction Line y 麻豆官网首页入口.

Pynciau cysylltiedig