麻豆官网首页入口

Rhigos: T芒n 100 hectar yn cau ffordd fynyddig

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

T芒n ar Fynydd y Rhigos

Cafodd ffordd fynyddig ei chau am gyfnod yn dilyn t芒n awyr agored dros 100 hectar yn sir Rhondda Cynon Taf.

Mae diffoddwyr wedi bod yn ymdrin 芒'r t芒n ar Fynydd y Rhigos a ddechreuodd am 18:00 ar 9 Mehefin.

Gyda'r t芒n wedi ail-gynnau ddydd Mawrth, mae Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru wedi gofyn i bobl osgoi'r ardal ac i drigolion lleol gadw drysau a ffenestri ar gau.

Cafodd mynediad i'r A4061, sy'n cysylltu Pen-y-bont ar Ogwr 芒 Hirwaun, ei chau am 13:00 ddydd Mercher, cyn ailagor yn nes ymlaen yn y noson.

Mae'n un o nifer o danau gwyllt y mae criwiau t芒n ledled Cymru yn delio 芒 nhw.

'Arafu lledaeniad'

Dywedodd Sally Davies o Gyfoeth Naturiol Cymru: "Mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru ers i ni ddod yn ymwybodol o'r t芒n ar Fynydd y Rhigos ddydd Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Garan Thomas

"Mae'r llosgi o dan reolaeth a rhwystrau t芒n yn cael eu defnyddio i arafu lledaeniad y t芒n.

"Mae sawl injan d芒n wedi eu darparu i helpu i reoli'r t芒n, yn ogystal 芒 hofrennydd."

Dywedodd fod ymdrechion ar y gweill i'w atal rhag lledaenu at gyfeiriad atyniad Zip World.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu i'r t芒n ar Fynydd Rhigos ail gynnau ddydd Mawrth

Ychwanegodd Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru bod eu staff yn wynebu "amodau peryglus a heriol" ar draws y rhanbarth.

Dywedodd Gwasanaeth T芒n y Canolbarth a'r Gorllewin eu bod yn taclo tanau yn Soar y Mynydd, Ceredigion, ardal Doc Penfro, a Mynydd Pantmawr yn Aber-craf.

Mae criwiau hefyd yn Llanddewi Brefi, Ceredigion, yn Coelbren, Abercraf ac yng Nghynwyl Elfed, ger traciau Rheilffordd Gwili, Caerfyrddin.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Craig Hope yn galw ar bobl i osgoi defnyddio pyllau t芒n neu losgi gwastraff gardd er mwyn arbed adnoddau

Dywedodd Craig Hope o Wasanaeth Tan ac Achub De Cymru fod yr amgylchiadau'n "eithriadol" a bod "straen ar adnoddau".

Ond ychwanegodd: "Bydd gennym wastad adnoddau ar gael i ymateb i danau eiddo, hyd yn oed os oes rhaid i ni eu tynnu i fewn gan wasanaethau eraill."

Fe wnaeth hefyd alw ar bobl i osgoi defnyddio pyllau t芒n neu losgi gwastraff gardd, gan "does dim angen y baich ychwanegol yna ar ein hymateb".