麻豆官网首页入口

Staff gwesty i golli swyddi yn sgil cynllun ceiswyr lloches

  • Cyhoeddwyd
Gwesty Parc y Strade
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i dros 200 o geiswyr lloches gyrraedd Gwesty Parc y Strade ar 10 Gorffennaf

Mae staff Gwesty Parc y Strade yn Llanelli wedi cael gwybod y byddan nhw'n colli eu swyddi.

Fe ddaeth y cadarnhad yn sgil cynllun y Swyddfa Gartref i gartrefu hyd at 241 o geiswyr lloches yno.

Bydd staff yn gadael ar 10 Gorffennaf - yr un diwrnod y mae disgwyl i geiswyr lloches gyrraedd y gwesty.

Mae'r Swyddfa Gartref yn dweud fod y cynlluniau'n angenrheidiol a'u bod yn gwrando ar bryderon lleol.

Ddydd Mawrth daeth cadarnhad y bydd 50 o staff llawn amser a 45 o staff rhan amser yn y gwesty yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu diswyddo.

Cafodd staff wybod yn ystod cyfarfod, ond doedd dim cynrychiolaeth gan y perchnogion Sterling Woodrow yn y cyfarfod hwnnw.

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru'n deall fod rhai o'r staff nad oedd wedi gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod wedi ymuno ar-lein neu wedi cael gwybod ar y ff么n gan eu cydweithwyr ar 么l y cyfarfod.

'Sioc ond rhyddhad'

Dywedodd staff eu bod "mewn sioc" ond hefyd yn "teimlo rhyddhad ar 么l wythnosau o aros" am ateb yngl欧n 芒'u dyfodol.

Dydy gweithwyr heb gael gwybod eto pa fath o becyn ariannol fydd ar gael iddyn nhw wrth gael eu diswyddo, os o gwbl.

Yn y cyfamser mae'r holl ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu, gan gynnwys priodasau, ar 么l 10 Gorffennaf 2023 wedi eu canslo.

Mae ad-daliad llawn yn cael ei gynnig ond does dim amseriad penodol wedi ei gynnig ynghylch pryd y bydd hynny'n digwydd ar gyfer pob achos.