麻豆官网首页入口

Cai Llewelyn Evans yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod 2023

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cai Llewelyn Evans yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod 2023

Cai Llewelyn Evans o Bontarddulais sydd wedi cipio Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Ll欧n ac Eifionydd.

Derbyniodd ei wobr ar lwyfan y Pafiliwn Mawr ddydd Iau mewn seremoni arbennig.

Cyflwynir y Fedal Ddrama am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Gwobrwyir y ddrama sy'n dangos yr addewid mwyaf ac sydd 芒 photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.

Mae Cai Llewelyn Evans yn derbyn Y Fedal Ddrama (er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan) a 拢750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli).

Cafodd rhan o'r gwaith buddugol ei gyflwyno yn Seremoni'r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts.

Cafodd Cai ei addysgu yn Ysgol Bryniago, Pontarddulais, Ysgol y Strade, Llanelli, a Phrifysgol Aberystwyth, lle enillodd radd MA mewn Llenyddiaeth 脭l-fodern Americanaidd, gan ysgrifennu traethawd hir ar ddram芒u August Wilson.

Y beirniaid eleni oedd Steffan Donnelly, Seiriol Davies ac Elgan Rhys, ac meddai Steffan Donnelly wrth draddodi ar ran ei gyd-feirniaid: "Roedd o'n wych gweld 26 ymgais yn dod i law eleni ac roedd o'n bleser darllen ystod eang o syniadau cryf a phrofiadau diddorol."

'Rhywbeth i bawb yn y ddrama'

"Roedd llawer o'r dram芒u yn cydio yn fy nychymyg i a fy nghyd-feirniaid Seiriol Davies ac Elgan Rhys - yn cyflwyno cymeriadau cymhleth, sefyllfaoedd annisgwyl, a deialog brathog," ychwanegodd.

"Rhaid cyfaddef ei fod yn siomedig bod dipyn o'r dram芒u ddim yn teimlo fel dram芒u ar gyfer y llwyfan o ran strwythur, deialogi, profiad byw theatrig, a hyd yn oed fformat - felly 's诺n i'n annog sgwennwyr i ddarllen a dadansoddi dram芒u, er mwyn datblygu eu crefft theatr yn benodol.

"Difyr oedd gweld bod sawl un o'r dram芒u wedi eu gosod mewn cyfnod heriol - lle mae pwysau a chostau byw yn broblemau mawr ac mae ymddiried isel mewn awdurdodau.

"Mae 么l bysedd blynyddoedd o gamreolaeth wleidyddol yn San Steffan i'w weld yn glir, ond diolch byth bod ymateb i'r tristwch hyn, bod llawer o'r dram芒u yn gwthio'n 么l gyda gobaith ac egwyddorion o garedigrwydd a ph诺er trawsnewidiol cymuned.

"Eiliad o Ddewiniaeth gan Wasabi ydi'r ddrama sy'n teimlo fwyaf cyflawn a chydlynol o'r 26.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Cai ei addysgu yn Ysgol Bryniago, Pontarddulais, Ysgol y Strade, Llanelli, a Phrifysgol Aberystwyth

"Mae'n sicr ac yn hyderus yn ei ffurf theatrig gydag uchafbwynt a datguddiad clir sy'n cymryd ni ar siwrne cymhleth ac emosiynol. Stori syml efo ffocws tynn ar berthynas Ceri, hogyn 12 oed niwroamrywiol a'i fam, Alys.

"Mae'r cymeriadau yn grwn, ac yn amlwg mae gwaith meddwl manwl wedi mynd mewn i adeiladu'r cymeriadau a'u perthynas a'i gilydd.

"Mae'n wych gweld prif gymeriad niwroamrywiol - a hwnnw'n bortread sensitif a chredadwy tu hwnt. Mae perthynas Ceri ac Alys yn hyfryd o dyner a chywrain gydag ambell foment yn dod 芒 llwnc i wddw rhywun...

"Ar y cyfan roedd y digwyddiadau'n gyffrous a phwrpasol gyda'r ffrae fawr am dadolaeth yn byrlymu gydag ystyr a thensiwn arbennig.

"Mae gan y ddrama gynulleidfa amlwg mewn arddegwyr cynnar, ond mae yna rywbeth i bawb ynddi hefyd.

"Mae'r ddyfais o Ceri yn sylwebu ar bopeth fel pundit p锚l droed yn effeithiol iawn i adlewyrchu ei deimladau a llais cymdeithas. Mae'n ddyfais sy'n uwcholeuo aralleiddio a phwysau ffitio mewn, ac yn archwilio'r celwyddau rydym yn eu dweud i'n gilydd a'n hunain.

"Mae Eiliad o Ddewiniaeth yn ddrama ddireidus, llawn pathos sydd fwyaf parod am y llwyfan.

"Llongyfarchiadau i'r dramodwyr i gyd. Ar 么l ystyried yn fanwl iawn a chryn siarad rhwng y tri ohonom ni... rhoddwn wobr Y Fedal Ddrama 2023 i Eiliad o Ddewiniaeth gan Wasabi."

Byw yn Japan

Ar hyn o bryd, mae Cai yn byw yn Nhreganna, Caerdydd gyda'i bartner, Noriko.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd 26 wedi ymgeisio ac roedd hi'n bleser "darllen ystod eang o syniadau cryf a phrofiadau diddorol", medd y beirniaid

O ran ei waith bob dydd, mae'n aelod o Wasanaeth Cyfieithu a Chofnodi y Senedd, gan weithio'n bennaf fel cyfieithydd ar y pryd.

Cyn hynny, bu'n byw am oddeutu degawd yn ninas Tokyo, lle bu'n olygydd/newyddiadurwr gyda phapur newydd y Japan Times, cyn symud i weithio ym maes gwasanaethau ariannol gyda chwmni Standard & Poor's.

Er iddo ysgrifennu colofn hiwmor ac erthyglau eraill yn ystod ei gyfnod gyda'r Japan Times, y cam o symud yn 么l i Gymru oedd y sbardun i Cai roi cynnig ar ysgrifennu creadigol.

Cafodd ei brofiad cyntaf ar y radio, gan ysgrifennu cyfres o sgetsys a gafodd eu darlledu ar y rhaglen Sgript Slam Gomedi ar 麻豆官网首页入口 Radio Cymru.

Yn dilyn hynny, ysgrifennodd ddwy ffilm fer a gafodd eu cynhyrchu drwy raglen It's My Shout a'u darlledu ar S4C, sef Clwb Plu Eira yn 2019 a Ffeithiau Amgen yn 2017.

Yn ystod yr un cyfnod, cafodd Cai ei ddewis i fod yn aelod o Gr诺p Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru.

Daeth y rhaglen hynod werthfawr a difyr hon i ben gyda darlleniadau byw o'r ddrama a ysgrifennwyd ganddo fel rhan o'r cynllun, sef Bwyd Ci, yn Theatr y Sherman a Chanolfan y Mileniwm. Ar hyn o bryd, mae'n cydweithio 芒 Chwmni Theatr Bara Caws ar brosiect comedi.

Arwyr Cai ym maes sgriptio yw David Mamet, Nora Ephron ac Armando Iannucci. Ei arwyr personol yw ei dad, Haldon, a'i fam, Marian.

Yn y cyfamser flwyddyn ar 么l ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, mae Gruffydd Si么n Ywain wedi datgan ei siom bod ei ddrama fuddugol "Nyth" dal heb ei chyflwyno yn ei chyfanrwydd.

Hon oedd ei ddrama gyntaf, ac mae'n dweud ei fod wedi gobeithio y byddai cyfle i'w datblygu a'i gweld ar lwyfan.

Mewn ymateb fe ddywedodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol: "Yn wahanol i'r prif wobrau eraill [ac eithrio Tlws y Cerddor] gwobrwyo addewid a wneir drwy'r Fedal Ddrama.

"Potensial yn hytrach na sicrwydd i'w datblygu ymhellach a wobrwyir."