麻豆官网首页入口

Ymchwiliad Covid: Dileu e-byst y GIG ar ddamwain

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Doctor ar ei gyfrifiadurFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru ei fod yn gweithio "i ddod o hyd i'r e-byst sydd wedi eu dileu"

Mae e-byst a allai fod wedi eu defnyddio fel tystiolaeth gan Wasanaeth Iechyd Cymru yn Ymchwiliad Covid y DU wedi eu dileu ar ddamwain.

Mae dogfen wedi cadarnhau fod cyfrifon anactif staff sydd bellach ddim yn gweithio i GIG Cymru wedi eu dileu.

Mae'r newyddion yn pryderu Plaid Cymru, sy'n rhybuddio fod siawns na fydd gwybodaeth hollbwysig am ymateb Cymru i'r pandemig yn gweld golau dydd.

Dywed awdurdod technoleg gwybodaeth y GIG ei fod yn gweithio ar geisio adfer y data.

Nid yw'n hysbys sawl cyfrif e-bost y mae'r broblem yn effeithio arnynt, sydd wedi ei achosi gan osodiad sy'n pennu pryd mae negeseuon e-bost yn cael eu dileu.

Daeth y mater i'r amlwg mewn agenda cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n nodi fod y mater yn effeithio ar "bob bwrdd iechyd".

"O ganlyniad i bolis茂au cadw sydd heb eu gweithredu'n gywir, mae nifer o flychau ar gyfer staff nad ydynt bellach yn gweithio i GIG Cymru, neu a symudodd sefydliad, wedi cael eu dileu, sy'n golygu na ellir adalw eu gwybodaeth fel tystiolaeth," medd y papur.

Mae hefyd yn nodi fod y mater wedi'i ddatrys yn barhaol erbyn Mawrth 2023.

Ond er hynny, dywedodd ei fod "yn effeithio ar rywfaint o'r dystiolaeth y byddwn ni [a phob bwrdd iechyd] wedi gallu ei ddarparu i'r ymchwiliad".

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd gan Gymru reolau ei hun yn ystod y pandemig, oedd yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru

Mewn datganiad dywedodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru [IGDC] - corff a gafodd ei sefydlu yn 2021 i wella'r defnydd o dechnoleg o fewn y GIG yng Nghymru - ei fod yn "gweithio gyda'r byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau yr effeithiwyd arnynt i adfer yr e-byst sydd wedi eu dileu drwy chwilio mewn blychau eraill am wybodaeth".

Dywedodd IGDC ei fod wedi hysbysu'r ymchwiliad Covid, ac ers nodi'r mater mae wedi gweithredu "ateb parhaol" fel bod cyfrifon defnyddwyr anactif bellach yn cael eu cadw am saith mlynedd.

Mewn llythyr at y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, dywedodd Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru ei fod yn "hanfodol fod gwersi'n cael eu dysgu o'r camgymeriad anffodus hwn mor gyflym ac mor effeithiol 芒 phosib".

Gan alw am ddatganiad ffurfiol ar y mater yn y Senedd, ychwanegodd: "Rydym bellach yn wynebu'r posibilrwydd o wybodaeth hollbwysig yn ymwneud 芒'r ymateb i'r pandemig yng Nghymru ddim yn gweld golau dydd.

"Er ein bod yn croesawu'r ffaith eich bod, yn hwyr, wedi cytuno i sefydlu pwyllgor dibenion arbennig i ystyried unrhyw fylchau sy'n benodol i Gymru a allai ddod i'r amlwg yn ystod ymchwiliad y DU, rydym yn parhau i fod yn argyhoeddedig mai dim ond ymchwiliad llawn, penodol i Gymru a all ddarparu yr atebion y mae pobl Cymru, ac yn enwedig y rhai a gollodd anwyliaid, yn eu haeddu."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais i wneud sylw.

Pynciau cysylltiedig