麻豆官网首页入口

Llywodraeth Cymru eisiau gwahardd f锚ps tafladwy

  • Cyhoeddwyd
FepioFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru yn galw am wahardd f锚ps tafladwy sydd ond yn cael eu defnyddio unwaith.

Fe fyddai'r cam yn "rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael 芒 f锚pio ymhlith pobl ifanc," medd gweinidogion.

Does gan Lywodraeth Cymru mo'r grym i wahardd y f锚ps ond mae'n galw ar Lywodraeth y DU i wneud hynny.

Dywed Llywodraeth y DU eu bod wedi dechrau galw am dystiolaeth i geisio canfod ffyrdd o leihau nifer y bobl ifanc sy'n prynu ac yn defnyddio f锚ps.

Yn 么l arolwg diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, roedd 9-10% o ddisgyblion Blwyddyn 10 wnaeth ymateb yn f锚pio yn ddyddiol.

Bydd gweinidogion Cymru'n codi'r mater gyda Llywodraeth y DU cyn diwedd yr wythnos.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ymchwil diweddar yn awgrymu bod hyd at 10% o ddisgyblion 14 a 15 oed yn defnyddio f锚ps yn rheolaidd

Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er mwyn gwarchod iechyd cyhoeddus a'r amgylchedd, rydym eisiau gweld gwaharddiad cynhwysfawr ar f锚ps untro tafladwy fel rhan o gyfres o fesurau i fynd i'r afael 芒 f锚pio ymhlith pobl ifanc.

"Bydd gweinidogion Cymru yn cyfarfod 芒 Llywodraeth y DU ynghylch y mater hwn yn ddiweddarach yr wythnos hon."

'Gwahardd er mwyn anifeiliaid'

Dywedodd elusen ASH Cymru eu bod yn deall pam bod y llywodraeth eisiau gwahardd y cynnyrch, ond bod pryderon dros wneud hynny.

Gallai gwaharddiad olygu rhagor o f锚ps yn cael eu gwerthu'n anghyfreithlon, meddai'r elusen, neu annog gwneuthurwyr i chwilio am ffyrdd i osgoi'r rheolau.

Dywedodd hefyd bod gwahardd rhywbeth sy'n cael ei ddefnyddio gan bobl i atal ysmygu yn gam i'r cyfeiriad anghywir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ond yn 么l elusen gwarchod anifeiliaid RSPCA Cymru, dylid symud ymlaen gyda gwaharddiad, oherwydd yr effaith ar fywyd gwyllt.

Dywedodd RSPCA Cymru bod f锚ps tafladwy yn cynnwys deunyddiau peryglus fel lithiwm, plastig a nicotin - sydd i gyd yn gallu bod yn beryglus i anifeiliaid.

Galwad am dystiolaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU: "Rydym yn bryderus ynghylch y cynnydd mewn f锚pio ymhlith pobl ifanc ac effeithiau amgylcheddol f锚ps tafladwy.

"Dyna pam y gwnaethom ddechrau galwad am dystiolaeth i nodi cyfleoedd i leihau nifer y plant sy'n cael gafael ar, ac yn defnyddio, cynnyrch f锚pio - ac i edrych ar le y gallai'r llywodraeth fynd ymhellach.

"Byddwn ni'n cyhoeddi ein hymateb maes o law."

Mewn ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU, dywedodd Cymdeithas Diwydiant F锚pio y DU "nad gwaharddiad yw'r ateb", er eu bod yn "cydnabod erioed bod angen mynd i'r afael 芒 f锚pio ymhlith pobl ifanc ac effaith amgylcheddol f锚ps".

Yn hytrach, mae'r gymdeithas yn dadlau o blaid mwy o gamau gorfodaeth yn erbyn masnachwyr sy'n gwerthu f锚ps i blant dan oed.